Print 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn

Meeting of Full Council

 

28.10.2019

 

 

COFNODION / MINUTES

 

87

Yn bresennol:

 

Cyng. Mari Turner (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Sue Jones Davies

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Steve Davies

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Mark Strong

Cyng. Alun Williams

Cyng. David Lees

 

 

Yn mynychu:

 

Carol Thomas(cyfieithydd)

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

 

Alexandra Banfi (gohebydd y Cambrian News)

 

Present:

 

Cllr. Mari Turner (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Sue Jones Davies

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Steve Davies

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Mark Strong

Cllr. Alun Williams

Cllr. David Lees

 

 

In attendance:

 

Carol Thomas (translator)

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

Alexandra Banfi (Cambrian News reporter)

 

 

88

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Rhodri Francis

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Claudine Young

 

Apologies:

 

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Rhodri Francis

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Claudine Young

 

 

89

Datgan Diddordeb:  

 

Dim

 

Declaration of interest:

 

None

 

 

90

Cyfeiriadau Personol:

 

  • Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Alex Mangold ar enedigaeth ei fab

 

  • Atgoffwyd cynghorwyr o'r Gwasanaeth Dydd Sul Coffa Blynyddol yn y Neuadd Goffa, Penparcau am 3pm ddydd Sul 10.11.2019. Dylid gwisgo gwisg ddinesig

 

Personal References:

 

  • Best wishes were extended to Cllr Alex Mangold on the birth of his son

 

  • Councillors were reminded of the Annual Remembrance Sunday Service in the Neuadd Goffa, Penparcau at 3pm on Sunday 10.11.2019. Civic robes should be worn

 

 

91

Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:

 

Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.

 

Mayoral Activity Report:   

 

A verbal report was presented.

 

 

92

Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 30 Medi i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 30September 2019 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 

93

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

71: Cyfarfodydd Gwrthryfel Difodiant gyda'r Cyngor Tref - nid oedd cyfarfod arall wedi'i drefnu eto

Matters arising from the Minutes:

 

71:  Extinction Rebellion meetings with the Town Council - another meeting had not yet been arranged

 

 

 

 

 

 

94

Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 7 Hydref 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a phob argymhelliad.

 

Materion yn codi:

 

Eitem agenda 5:

 

  • Ffens: roedd y ffens wedi'i thynnu, streipen ddiogelwch felen wedi'i phaentio ar ymylon y palmant ac arwyddion diogelwch wedi'u harchebu.

 

  • Arwyddion: roedd cofnodion blaenorol (9.5.2016) yn nodi bod penderfyniad wedi'i basio i wahardd cŵn o'r labyrinth ond i'w cadw ar dennyn yn rhannau arall y parc. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf Rheolaeth Gyffredinol.

 

  • Ymgynghoriad: cymeradwywyd yr holiadur diwygiedig

 

Minutes of the General Management Committee held on Monday, 7 October 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes and all recommendations

 

Matters arising:

 

Agenda item 5:

 

  • Fence: the fence had been removed, a yellow safety stripe painted on the kerb edges and safety signage ordered.

 

  • Signage: previous minutes (9.5.2016) noted that a resolution had been passed to ban dogs from the labyrinth but to be kept on leads elsewhere in the park. This would be discussed further at the next General Management meeting.

 

  • Consultation: the amended questionnaire was approved

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM agenda

 

95

Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 14 Hydref 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag un cywiriad

 

  1. 1: ‘Ffordd y Môr’ ddylai fod yn y cofnod Cymraeg

 

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday, 14 October 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one correction:

 

  1. 1: the Welsh minute should read ‘Ffordd y Môr’

 

 

 

 

 

 

 

 

96

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 21 Hydref 2019

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a phob argymhelliad.

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 21 Hydref 2019

 

It was RESOLVED to approve the minutes and all recommendations.

Gweithredu’r argymhellion

Action resolutions

 

 

 

97

Ceisiadau Cynllunio:

 

Planning Applications:  

 

97.1

A190776:  Irfon, Ffordd Llanbadarn Roedd angen mwy o wybodaeth cyn y gellid gwneud penderfyniad.

A190776: Irfon, Llanbadarn Road

 

More information was needed before a decision could be made.

Cysylltu â’r adran Gynllunio.

Contact Planning dept.

 

97.2

A190756:  Gwesty’r Glengower

 

Dylid ail-anfon yr ymateb blaenorol.

A190756: Glengower Hotel

 

The previous response should be re-sent.

 

 

97.3

A190799/800: Gwesty’r Richmond

 

DIM GWRTHWYNEBIAD a hoffai’r Cyngor Tref ganmol ymdrechion Richmond i newid y ffenestri UPVC am ffenestri pren.

A190799/800: Richmond Hotel

 

The Town Council has NO OBJECTION and would like to compliment the Richmond’s efforts to replace UPVC with wooden windows. 

 

 

97.4

A190826: Tir gerllaw Brynsiriol, Caeffynnon

 

I'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio

A190826: Land adjacent to Bryn Siriol Fifth Avenue

 

To be discussed at the next Planning Committee meeting

 

Agenda Cynllunio

Planning agenda

98

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor Hwn YN UNIG.

 

Holodd y Cynghorydd Mark Strong am leoliadau plannu coed. Trafodwyd yr holl safleoedd arfaethedig gyda'r Pennaeth Parciau a Gerddi. I'w drafod yn fanylach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit.

 

Cllr Mark Strong inquired about tree planting locations.  All proposed sites had been discussed with the Head of Parks and Gardens.  To be discussed in more detail at the next General Managment Committee meeting

 

Agenda RhC

GM agenda

99

Cyllid – ystyried gwariant mis Hydref

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwariant

 

Finance – to consider the October expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

100

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Alun Williams

Roedd wedi mynychu'r cyfarfod rheoli carbon cyntaf a drefnwyd gan Gyngor Ceredigion i archwilio gweithio ar y cyd â Chynghorau Tref. Roedd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi gweld y cyfarfod yn ddefnyddiol a'r gobaith oedd y byddai mwy o gyfarfodydd yn cael eu trefnu.

 

Cyng Mark Strong

Roedd wedi mynychu cyfarfod yn yr Orsaf Dân. Roedd ychydig o danau wedi digwydd mewn fflatiau ers yr haf ac roedd y Gwasanaeth Tân yn cynnig cyngor i denantiaid a landlordiaid. Roedd y Cyngor Tref yn ddiolchgar am y gwasanaeth hwn.

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

 

Cllr Alun Williams

He had attended the first carbon management meeting organised by Ceredigion Council to explore joint working with Town Councils. Lampeter Town Council had found the meeting useful and it was hoped that more meetings would be organised.

 

Cllr Mark Strong

He had attended a meeting in the Fire Station. A few fires had occurred in flats since the summer and the Fire Service were offering advice to tenants and landlords. The Town Council was grateful for this service.

 

 

101

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:     Dim

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies     None

 

 

102

Cynnig: Polisi dros feinciau (Cyng Michael Chappell)

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig a fyddai'n sicrhau bod meinciau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn rheolaidd a meinciau ychwanegol yn cael eu mabwysiadu neu eu prynu fel sy'n briodol.

 

Motion: Pro-bench policy (Cllr Michael Chappell)

 

It was RESOLVED to support the motion which would ensure regular maintenance of the Council’s benches and adoption or procurement of additional benches as appropriate.

 

 

103

Cynnig: Coridor Strategol Rheilffordd y Gorllewin (Cyng Dylan Wilson-Lewis)

 

Cefnogodd cynghorwyr ddatblygiad y rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth ar sail datblygu'r economi, gwella cysylltedd, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chynnal cysylltiadau teithio o'r Gogledd i'r De ar adegau llifogydd er enghraifft.

 

Dylai'r cynnig gael ei ddiwygio i gynnwys y canlynol: 'Byddai adfer y llinellau hyn yn cysylltu Cymru o'r Gogledd i'r De yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwytnwch yn ystod cyfnodau llifogydd (fel yr amlygwyd yn sgil cau'r llinell Amwythig - De Cymru rhwng Henffordd a Chasnewydd yn ddiweddar oherwydd llifogydd).'

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r cynnig a oedd yn galw ar y Cyngor Tref i:

 

  1. gysylltu ag awdurdodau lleol eraill, busnesau, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ledled y rhanbarth i gael eu cefnogaeth.
  2. gefnogi'r ailarchwiliad o'r Gymhareb Cost Budd fel y'i cyhoeddwyd yn yr adroddiad dichonoldeb
  3. hwyluso cyfarfod rhwng Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Traws Link Cymru
  4. gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyniad i Adolygiad Williams o ddiwydiant rheilffyrdd Prydain

 

Byddai Traws Link Cymru yn darparu cefnogaeth i gyflawni'r nodau hyn

Motion: Strategic Western Railway Corridor (Cllr Dylan Wilson-Lewis).

 

Councillors supported development of the Carmarthen to Aberystwyth railway on the basis of developing the economy, improved connectivity, combating climate change and maintaining travel links from North to South during times of flooding for example.

The motion should be amended to include the following: ‘The reinstatement of these lines would sustainably connect Wales from North to South and ensure resilience during times of flooding (as highlighted by the recent closure of the Shrewsbury - South Wales line between Hereford and Newport due to flooding).’ 

 

It was RESOLVED to support the motion which called for the Town Council to:

 

  1. contact other local authorities, businesses, higher education institutions and organisations across the region for their support.
  2. Support the re-examination of the Benefit Cost Ratio as published in the feasibility report
  3. Facilitate a meeting between the Future Generations Commissioner and Traws Link Cymru
  4. Support Welsh Government in its submission to the Williams Review of the British railway industry

 

Traws Link Cymru would provide support to achieve these aims

 

Cysylltu gyda Taws Link Cymru

Liaise with Traws Link Cymru

104

Ymgynhoriad : Adolygu dosbarthiadau etholiadol, mannau a gorsafoedd pleidleisio

 

Mynegwyd safbwyntiau amrywiol (gan gynnwys cyflwyniad ysgrifenedig gan y Cyng Ceredig Davies) ynghylch adleoli'r orsaf bleidleisio yn neuadd y band arian i neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth. Ymhlith y materion a nodwyd roedd mynediad diogel i gerddwyr a diffyg parcio. Teimlwyd nad oedd y naill leoliad na'r llall yn gyfleus ac y dylid ystyried lleoliadau eraill fel a ganlyn:

 

Ward Rheidol

 

  • Merched y Wawr
  • Mihangel Sant
  • Tŷ Harbwr

 

Wardiau Bronglais a Chanolog

 

  • Morlan
  • Neuadd y Buarth

 

Consultation: Review of polling districts, places and stations.

 

Various views were expressed (including a written submission from Cllr Ceredig Davies) regarding the relocation of the polling station at the silver band hall to the Salvation Army hall.  Issues noted included safe access for pedestrians and lack of parking. It was felt that neither location were convenient and other locations should be considered as follows:

 

Rheidol Ward

 

  • Merched y Wawr
  • St Michael’s
  • Harbour House

 

Bronglais and Central Wards

 

  • Morlan
  • Buarth Hall

 

Anfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

105

Hysbysfyrddau ac arwyddion bys

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r hysbysfyrddau a'r arwyddion bys ond sicrhau bod y gwerth gorau wedi'i gyflawni o ran adnewyddu neu amnewid.

Finger posts and notice boards:

 

It was RESOLVED to adopt the notice boards and finger posts but ensure that best value was achieved in terms of renovation or replacement.

 

 

 

106

 

Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

106.1

Hysbyseb EGO:

 

Ystyriwyd amryw o opsiynau ond PENDERFYNWYD cynnal y contract cyfredol

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi'i recordio:

 

Yn erbyn:

Michael Chappell

 

Ymatal:

Mark Strong

Talat Chaudhri

Charlie Kingsbury

Brenda Haines

Endaf Edwards

 

Ar gyfer:

pob cynghorydd arall a restrir uchod (87) heblaw am Cyng. Endaf Edwards a oedd wedi gadael y cyfarfod.

EGO advertorial:

 

Various options were considered but it was RESOLVED to maintain the current contract

 

A recorded vote was requested:

 

Against:

Michael Chappell

 

Abstentions:

Mark Strong

Talat Chaudhri

Charlie Kingsbury

Brenda Haines

Endaf Edwards

 

For:

all other councillors listed above (87) except for Cllr Endaf Edwards who had left the meeting.

 

 

Adnewyddu

Renew

106.2

Ymgyrch ynni cymunedol genedlaethol: galwad am gefnogaeth

 

I'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn

 

National community energy campaign: a call for support

 

To be discussed at the next Full Council meeting

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

106.3

Santes Gwefrewi: ni chafwyd ymateb i lythyr y Cyngor ynghylch esgeulustod a diogelwch yr eglwys a PHENDERFYNWYD ei ail-anfon.

St Winefride’s: no response had been received to the Council’s letter regarding the neglect and security of the church and it was RESOLVED to re-send it.

 

 

Ail anfon

Re-send

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Pwyllgor Cynllunio   /   Planning Committee

 

11.11.2019

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1

Yn bresennol:

 

Cyng. Michael Chappell (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Steve Davies

Cyng. Mari Turner

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Sue Jones Davies

Cyng. Nia Edwards-Behi

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Alun Williams

 

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

 

 

 

Present:

 

Cllr. Michael Chappell (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Steve Davies

Cllr. Mari Turner

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Sue Jones Davies

Cllr Nia Edwards-Behi

 

In attendance:

 

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Alun Williams

 

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. David Lees

 

Apologies:

 

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. David Lees

 

 

3

Datgan Diddordeb: Dim

 

Declaration of interest: None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol:

 

Llongyfarchodd y Cynghorwyr Sue Jones Davies a Lucy Huws y plant a'r côr a gymerodd ran yng Ngwasanaeth Sul y Cofio

 

Personal references:

 

Cllrs Sue Jones Davies and Lucy Huws congratulated the children and choir who took part in the Remembrance Day Service

 

 

5

Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 

5.1

A190826 – Tir Gerllaw Bryn Siriol, Fifth Avenue

 

DIM GWRTHWYNEBIAD – Mae ffenestri pren neu aluminiwm yn well ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru.

 

A190826- Land adjacent Bryn Siriol, Fifth Avenue

 

NO OBJECTION – Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy

 

Cysylltu â’r adran Gynllunio.

Contact Planning dept.

5.2

A190835 – Y Ficerdy, Lon Piercefield

 

DIM GWRTHWYNEBIAD - Dylai'r estyniad fod yn unol ag arddull yr adeilad presennol i gadw carreg wedi'i gwisgo. Mae ffenestri pren neu alwminiwm yn well yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru

 

A190835 – The Vicarage, Piercefield Lane

 

NO OBJECTION - Extension should be in keeping with the style of the existing building to retain dressed stone.  Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy

 

 

5.3

A190837/38 – Tŷ Belgrave, 24 Glan Y Môr

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A190837/38 – Tŷ Belgrave, 24 Marine Terrace

 

NO OBJECTION

 

 

5.4

A190839 – Siop Bara Poeth, 1 Lle Cambria

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn pryderu bod diffyg lle i fyw, yn awgrymu y dylai'r fflatiau fod yn 1 ystafell wely, a bod darpariaeth ar gyfer storio sbwriel

 

A190839 – Hot Bread Shop, 1 Cambrian Place

Aberystwyth Town Council are concerned that there is lack of livable space, suggest that the flats should be 1 bedroom, and provision be made for storage of refuse.

 

 

5.5

A190844 – Tir gerllaw Cnwc y Lili, Tan Y Cae

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi  GWRTHWYNEBU’r cais cynllunio blaenorol i ddymchwel y wal, ar sail gwrthwynebiad lleol cryf, gor-ddatblygu a cholli parcio. Yn ychwanegol at y pryderon hyn, sy'n dal yn berthnasol, mae’r Cyngor Tref yn teimlo bod y wal yn nodwedd o ardal gadwraeth ac nid yw manylion llawn y datblygiad arfaethedig ehangach wedi'u cynnwys yn y cais.

 

A190844 – Land adjacent to Cnwc y Lili, South Road

The Council OBJECTED to the previous planning application to demolish the wall, on the basis of strong local objection, over development and loss of parking.  In addition to these concerns, which are still applicable, ATC feels that the wall is a feature of a conservation area and full details of the proposed further development are not included in the application.

 

5.6

A190790- 11 Ffynnon Haearn

DIM GWRTHWYNEBIAD ond dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog

 

A190790 – 11 Chalybeate Street

 

NO OBJECTION – but signage should be bi-lingual.

 

 

6

Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu:

 

Nodwyd

 

Development Control Committee report:

 

Noted

 

7

Gohebiaeth:

Correspondence:

 

 

7.1

Ymgynhoriad Cynllunio Llywodraeth Cymru

Welsh Government Planning Consultation

Dirprwy Glerc I gylchredeg

Deputy Clerk to circulate

 

7.2

Archwilio / echdynnu tanwydd ffosil mewn dyfroedd Cymru

Derbyniwyd cais gan breswyliwr i gefnogi deiseb yn gwrthwynebu cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

 

Fossil Fuel exploration/extraction in Welsh Waters

 

Resident request to support petition received opposing the Welsh National Marine plan

Dirprwy Glerc I gylchredeg

Deputy Clerk to circulate

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau

Finance and Establishments committee

 

  1. 11.2019

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Mari Turner

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. David Lees

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Steve Davies

 

Yn mynychu:

Cyng. Mair Benjamin

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present

 

Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Mari Turner

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr David Lees

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Steve Davies

 

In attendance:

Cllr. Mair Benjamin

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Brendan Somers

 

Apologies

 

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Brendan Somers

 

 

3

Datgan buddiannau: Dim

Declarations of interest:  None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol:

 

Mynegwyd tristwch ar farwolaeth Carl Williams, Cyn-Faer a chyn Glerc, a oedd wedi gwneud cymaint dros Aberystwyth a'r Cyngor Tref. Roedd ei angladd i'w gynnal yn yr Amlosgfa am 2pm 26.11.2019

Personal references:

 

Sadness was expressed at the death of Carl Williams, Past Mayor and a former Clerk, who had done so much for Aberystwyth and the Town Council. His funeral was to be held in the Crematorium at 2pm 26.11.2019

 

 

 

5

Menter Aberystwyth

 

Rhoddodd Hannah Bunting a Kerry Ferguson drosolwg o weithgareddau: Ffair yr Haf, Gwobrau Gorau Aber, troi’r Goleuadau Nadolig ymlaen a Gorymdaith Llusernau, a chynhadledd arfaethedig ar gyfer Busnesau Bach.

 

 

Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad cymdeithasol bwriad y Ffair Haf oedd codi arian at achos da (codwyd £1450 yn 2019 ar gyfer yr Eisteddfod) a gofynnwyd i'r Cyngor am awgrymiadau o achosion da ar gyfer unrhyw arian a godir yn 2020.

 

Fe ofynnon nhw hefyd am stiwardiaid gwirfoddol ar gyfer gorymdaith y llusernau (4.15pm yn Mihangel Sant)

 

Dyrannwyd swm o £8000 i Menter Aberystwyth yn y gyllideb ac ARGYMHELLWYD talu'r swm llawn iddynt.

Menter Aberystwyth

 

Hannah Bunting and Kerry Ferguson provided an overview of activties: the Summer Fete, Aber First Awards, Christmas Lights Switch On and Lantern Parade, and a planned conference for Small Businesses. 

 

In addition to a social event the Summer Fete aimed to raise funds for a good cause (£1450 raised in 2019 for the Eisteddfod) and they asked the Council to suggest good causes for any funds raised in 2020.

 

They also asked for volunteer stewards for the lantern parade (4.15pm at St Michael’s)

 

£8000 funding was allocated to Menter Aberystwyth in the budget and it was RECOMMENDED that the full amount be paid to them.

 

 

6

Ystyried cyfrifon mis Hydref

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

 

Cyflwynwyd cyfrifon Parc Kronberg hefyd a dylid trafod y £950 a dalwyd i gontractwr am blannu coed gyda Pharciau a Gerddi gan fod ychydig o goed wedi methu.

 


Dylai’r coed sy’n cymryd lle’r coed ynn fod yn rhywogaethau sy'n wydn yn enetig – fe ddylai hwn fod yn eitem ar agenda Rheolaeth Cyffredinol

Consider Monthly accounts for October

 

It was RECOMMENDED that the accounts be approved.

 

Parc Kronberg accounts were also presented and the £950 paid to a contractor for tree planting should be discussed with Parks and Gardens as a few trees had failed.

 

Ash tree replacements should be genetically resilient species - this should be added as a  General Management agenda item

 

 

 

 

 

 

 

Trafod gyda’r Cyngor Sir

Discuss with CCC

 

 

Agenda RhC

GM agenda

7

Cyllideb Goleuadau Nadolig

 

Gan fod Aberystwyth ar y Blaen yn canolbwyntio eu harian ar weithgareddau y Nadolig hwn, ARGYMHELLWYD caniatau cynnydd amcangyfrifedig o £7000 i'r gyllideb goleuadau i fodloni disgwyliad y cyhoedd. Darparwyd rhestr gyda’r costau gwirioneddol ac amcangyfrifedig wedi'i heitemeiddio.

 

Dylid darparu cytundeb clir a dadansoddiad manwl o'r costau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Christmas Lights budget

 

As Advancing Aberystwyth were focusing their funds on activities this Christmas, allowing an estimated increase of £7000 to the lights budget was RECOMMENDED to meet public expectation.  An itemised list of actual and estimated costs was provided.

 

 

A clear contract and a detailed breakdown of costs to be provided for next year.

 

 

8

Taflunydd swyddfa

 

Ni chafwyd ymateb gan y landlord eto ynglŷn â thaflunydd newydd.

 

Fel cam cyntaf dylid cysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth yn y Brifysgol i asesu dichonoldeb atgyweirio'r taflunydd presennol.

 

Os na fyddai modd ei atgyweirio, ARGYMHELLWYD y dylid prynu Opsiwn 1 o’r rhestr fer ar gyfer taflunydd newydd - am gost o £720 gan gynnwys TAW.

Office projector

 

There was no response from the landlord yet regarding a new projector.

 

Information Services at the University should be approached as a first step to assess the feasibility of repairing the current projector.

 

In the event that it was not repairable it was RECOMMENDED that Option 1 from the new projector shortlist be bought -  at a cost of £720 including VAT.

 

Cysylltu gyda’r Brifysgol

Contact the University

9

Ffynnon Ddŵr

 

Roedd angen mwy o wybodaeth am gostau a lleoliadau addas a dylid ei chynnwys fel eitem ar yr agenda yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid. Lleoliadau a awgrymwyd: Bandstand, Cloc y Dref, Neuadd y Brenin

Water fountain

 

More information regarding costs and suitable locations was needed and it should be included as an agenda item in the next Finance Committee meeting.  Suggested locations: Bandstand, Clock Tower, King’s Hall

 

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

10

Stondin Eisteddfod Ceredigion

 

ARGYMHELLWYD gwariant o £1500 tuag at logi stondin yn Eisteddfod Tregaron.

Ceredigion Eisteddfod Stand

 

The Committee RECOMMENDED expenditure of £1500 towards hiring a stand at the Tregaron Eisteddfod.

 

Mwy o wybodaeth

More information

 

 

11

Cyllideb a Praesept 2020-21

 

Darparwyd cyllideb ddrafft 2020-21 ond cytunwyd cael trafodaeth fanylach yn y cyfarfod nesaf.

 

ARGYMHELLWYD y dylid ymgysylltu â’r cyhoedd am eu blaenoriaethau trwy Facebook yn ogystal â'r wefan. Cynigiodd y Cynghorwyr Talat Chaudhri a Nia Edwards-Behi gymorth.

2020-21 Budget and Precept

 

A draft 2020-21 budget was provided but it was agreed to have a more detailed discussion at the next meeting.

 

It was RECOMMENDED that engagement around the public’s priorities should be carried out via Facebook as well as the website.  Cllrs Talat Chaudhri and Nia Edwards-Behi offered assistance.

 

Ymgysylltu

Engage

 

12

Hyfforddiant Cilca

 

ARGYMHELLWYD y dylai staff fynychu am gost o £340 + TAW yr un

Cilca Training

 

It was RECOMMENDED that staff should attend at a cost of £340 + VAT each

 

Trefnu

Organise

13

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

 

 

Dim

 

 

None

 

 

 

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

General Management Committee

 

  1. 11.2019

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Steve Davies

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Lucy Huws

Cyng. David Lees

Cyng. Mark Strong

Cyng. Brendan Somers

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Alun Williams

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

Present

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Steve Davies

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Lucy Huws

Cllr. David Lees

Cllr. Mark Strong

Cllr. Brendan Somers

 

In attendance:

 

Cllr. Alun Williams

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Mari Turner

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Claudine Young

 

Apologies

 

Cllr. Mari Turner

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Claudine Young

 

3

Datgan Diddordeb:

 

  1. Cae Brynhyfryd: Cyng. Mark Strong

 

Declaration of Interest:

 

  1. Brynhyfryd Field: Cllr Mark Strong

 

4

Cyfeiriadau personol:

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i Adran Dysgu Creadigol Canolfan y Celfyddydau am eu prosiect diweddar gyda'r sefydliad Dream and Dream - daeth griw o 10 o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig o Bangalore, India, i Aberystwyth am wythnos am brofiadau celfyddydol.

 

Personal references:

 

Congratulations were extended to the Arts Centre's Creative Learning Department for their recent project with the Dream and Dream organisation - a group of 10 young people from disadvantaged backgrounds from Bangalore, India, came to Aberystwyth for a week for arts experiences.

 

5

Coed

 

  • Roedd y Dirprwy Glerc wedi llwyddo gwneud cais am wrychoedd coed gwyllt ar gyfer Parc Ffordd y Gogledd. Bydd y tir yn cael ei baratoi dros y Gaeaf i'w blannu ym mis Mawrth. Bydd angen codi ffensys hefyd er mwyn eu hamddiffyn. Mae'r Clerc yn gofalu am goeden y Siarter Coed y gellid ei hymgorffori hefyd. Dylid ystyried prynu dwy arall.
  • Mae’r Adran Parciau a Gerddi yn awgrymu archebu 2 onnen fynydd ar gyfer y Bumed Goedlan a Stryd Thespis a 3 ceiriosen ar gyfer y tu allan i'r rhandiroedd.
  • Mae gan yr Adran Parciau a Gerddi 2 Blanwydden Ddwyreiniol yn eu meithrinfa i'w plannu ger Ysgol Gymraeg a 2 goeden helyg ar gyfer cae chwarae Penparcau.
  • Trafodaeth bellach gyda Pharciau a Gerddi Ceredigion a Gwasanaethau Technegol mewn perthynas â choed stryd
  • Bydd Parciau a Gerddi yn edrych ar amnewid coed ar Boulevard St Brieuc yng Ngwanwyn 2020.
  • Clerc i ysgrifennu erthygl yn EGO (i gynnwys rhaglen plannu blodau)

 

ARGYMHELLWYD y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Clerc / Dirprwy Glerc drefnu'r rhaglen blannu, i gylchredeg rhestr o goed ac adrodd ar gynnydd i'r cynghorwyr a'r Grŵp Gwrthryfel Difodiant.

 

Trees

 

  • Deputy Clerk was succesful in applying for wild wood hedging for North Road Park. The land will be prepared over the Winter for planting in March. Fencing will also need to be erected for protection. The Clerk is caring for the 3 year old Tree Charter tree that could also be incorporated. Consideration to be given to purchasing two more.
  • Parks and Gardens suggest ordering from them 2 Mountain Ash trees for 5th Avenue and Thespian Street and 3 flowering Cherries for outside the allotments.
  • Parks and Gardens have 2 Oriental Plains in their nursery for planting near Ysgol Gymraeg and 2 willows for Penparcau playing field.
  • Further negotiation with Ceredigion Parks and Gardens and Technical Services in relation to street trees
  • Parks and Gardens will look into replacing trees on Boulevard St Brieuc in Spring 2020.
  • Clerk to write article in EGO (to include flower planting programme)

 

It was RECOMMENDED that the Clerk/Deputy Clerk be given delegated authority to arrange the planting programme, to circulate list of trees and report progress to councillors and the Extinction Rebellion Group

 

Gweithredu

  • 6

    Blodau

     

    • Bydd 15,000 o fylbiau Cennin Pedr yn cael eu plannu mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth.
    • Bydd MWTRA hefyd yn plannu 10,000 yn Nhrefechan ac ar hyd y Gefnffordd.
    • Ystyrir gwneud dau wely blodau yn un bob ochr i Sgwâr y Frenhines

     

    Flowers

     

    • 15,000 daffodil bulbs will be planted at various locations in Aberystwyth.
    • MWTRA will also plant 10,000 In Trefechan and along the Trunk Road.
    • Consideration be given to merging two borders into one on each side of Queens Square

     

     

     

     

    7

    Goleuadau Nadolig

     

    Mae goleuadau batri a goleuadau eicon wedi cael eu danfon. Bydd y gwaith gosod yn digwydd o ganol mis Tachwedd.

     

    Bydd Gorymdaith yn cychwyn am 5.00pm o Eglwys St Michael’s gyda seremoni Goleuo’r Goeden Nadolig i’w chynnal 5.30pm dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2019 yn Sgwâr Owain Glyndwr

     

    Christmas Lights

     

    Both battery lights and icicle lights have been delivered. Installation will take place from mid November.

     

     

    The Town’s Lantern Parade will commence at 5.00pm from  St Michael’s Church with Christmas Tree ‘Switch On’ ceremony to be held 5.30pm Saturday 30 November 2019 at Owain Glyndwr Square

     

     

     

     8

    Meysydd Chwarae Derbyniwyd tri dyfynbris 

    Play areas

     

    Three quotations have been received

    Eitem Agenda Cyllid

    Finance Agenda Item

    9

    Gorsaf Rheilffordd Aberystwyth

     

    Derbyniwyd cyfathrebiad gan Bartneriaeth Rheilffordd Cambrian yn gofyn a fyddai ATC yn ystyried mabwysiadu'r orsaf. Cytunwyd ar hyn yn 2015. Gwirfoddolodd y Cynghorydd Mark Strong i gynnal archwiliadau ac adroddiadau bob pythefnos. Ni fyddai unrhyw oblygiadau ariannol i Gyngor Tref Aberystwyth.

     

    Gwnaed rhai awgrymiadau i blannu blodau neu berlysiau ynghyd â gosod meinciau GWR

     

    ARGYMHELLWYD bod y Cyng. Alun Williams yn ymateb yn ysgrifenedig i gadarnhau bod y Cyngor Tref yn hapus i fabwysiadu’r orsaf.

     

    Aberystwyth Railway Station

     

    Communication had been received from the Cambrian Rail Partnership asking whether ATC would consider adoption of the station. This had been agreed in 2015. Cllr Mark Strong volunteered to carry out fortnightly inspections and reports. There would be no financial implications to Aberystwyth Town Council

     

    Some suggestions were made for flowers or herbs to be planted together with possibly installing GWR            benches

     

    It was RECOMMENDED that Cllr Alun Williams responds in writing to confirm that the Town Council is happy to adopt the Station

     

    Gweithredu

    Action

     

    10

    Cae Brynhyfryd

     

    Nid oes prydles ar gael ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd mae Cyngor Ceredigion yn ystyried amryw o opsiynau ar draws y Sir

     

    Brynhyfryd Field

     

    There is no lease on offer at present.  Ceredigion Council are currently considering various options accross the county

     

    Eitem Agenda Cyllid Finance Agenda Item

    11

    Ffynnon Ddŵr

    Roedd y Cyng. Alun Williams yn awyddus i osod ffynnon ddŵr yn Aberystwyth. Roedd y Bandstand, Cloc y Dref a Neuadd y Brenin wedi'u nodi fel safleoedd posib. ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn gwneud yr ymholiadau angenrheidiol

     

    Water Fountain

    Cllr Alun Williams is eager for a water fountain to be installed in Aberystwyth. The Bandstand, Town Clock and Kings Hall had been identified as potential sites

    It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk makes the necessary enquiries

     

    Gweithredu

    Action

    12

     

    Lleihau carbon

     

    Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion i leihau carbon yn Aberystwyth trwy ganolbwyntio ar fannau gwyrdd, datblygu grwpiau teithio egnïol a cherdded.

     

    ARGYMHELLWYD fod y Cyngor Tref yn drafftio cynllun 5-10 mlynedd ac yn cynnal archwiliad o'i ôl troed carbon ei hun.

     

    Y Cynghorydd Alun Williams i ysgrifennu at Gari Jones Ceredigion yn gofyn am gysylltu llwybrau Beicio Rheidol ac Ystwyth cyn Haf 2020

     

    Carbon reduction

     

    The Town Council is keen to work in partnership with Ceredigion Council to reduce carbon in Aberystwyth by focusing on green spaces, developing active travel groups and pedestrianisation.

     

    It was RECOMMENDED that the Town Council draft a 5-10 year plan and undertakes an audit of its own carbon footprint.

     

    Cllr Alun Williams to write to Gari Jones Ceredigion asking for the Rheidol and Ystwyth Cycle paths to be linked before Summer 2020

     

    Gweithredu

    Action

    13

    Gohebiaeth

    Correspondence

     

     

    13.1

    Eisteddfod Tregaron 2020

     

    Yn dilyn cefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth i’r cysyniad Strategol o “Goridor Rheilffordd y Gorllewin”  gwnaed awgrym i’r Cyngor gynnal stondin yn Eisteddfod Tregaron 2020 i hyrwyddo prosiectau’r Cyngor ac er mwyn ymgysylltu â’r gymuned.

     

    ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cysylltu â threfnwyr yr Eisteddfod am gostau.

    Tregaron Eisteddfod 2020

     

    Following Aberystwyth Town Council’s support of the concept of a Strategic “Western Railway Corridor” a suggestion has been made for the council to host a tradestand in the Tregaron 2020 Eisteddfod to promote its projects and to engage with the community.

     

    It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk contacts Eisteddfod organisers for costs

     

    Eitem Agenda Cyllid.

    Finance Agenda item

     

    13.2

    ‘Her y Gyllideb’ Cyngor Sir Ceredigion

     

    Derbyniwyd ymateb oddiwrth yr Arweinydd

    Ceredigion County Council’s ‘Budget Challenge’

     

    A response has been received from the Leader