Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyngor Llawn / Full Council

 

26.3.2018

 

 

COFNODION / MINUTES

 

182

Yn bresennol:

Cyng. Steve Davies (Cadeirydd)

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Mari Turner

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Alun Williams

Cyng. Sara Hammel

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. David Lees

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Mark Strong

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Rhodri Francis

 

Yn mynychu:

Sian Salcombe (Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed)

Sam Denton (CIC)

George Jones (cyfieithydd)

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present:

Cllr. Steve Davies (Chair)

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Mari Turner

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Alun Williams

Cllr. Sara Hammel

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. David Lees

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Mark Strong

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Rhodri Francis

 

In attendance:

Sian Salcombe (Dyfed Drug and Alcohol Service)

Sam Denton (CHC)

George Jones (translator)

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

183

Ymddiheuriadau:

Cyng. Claudine Young

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Dylan Lewis

Cyng. Sue Jones Davies

 

Apologies:

Cllr. Claudine Young

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Dylan Lewis

Cllr. Sue Jones Davies

 

 

184

Datgan Diddordeb:  Nodwyd o fewn yr eitem agenda.

 

Declaration of interest:  Noted within the agenda item.

 

 

185

 

Cyfeiriadau Personol: Estynnwyd llongyfarchiadau i Arad Goch am gael ei enwebu am wobr arall.

 

Personal References: Congratulations were extended to Arad Goch for being nominated for another award.

 

 

186

Cyflwyniad: Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed (DDAS). Disgrifiodd Sian Salcome y gwasanaeth maen’t yn ei ddarparu ar gyfer bob oed.

 

Presentation: Dyfed Drug and Alcohol Service (DDAS). Sian Salcombe provided an overview of the service they provide for all ages

 

 

187

Cyflwyniad: Cyngor Iechyd Cymuned (CIC).

Rhoes Sam Denton, Prif Swyddog, ddisgrifiad cryno o waith y CIC. Eglurodd sut y gallai'r Cyngor Tref helpu o ran cyfeirio pobl atyn nhw a chasglu gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD cynnwys manylion cyswllt y CIC a DDAS ar wefan y Cyngor Tref

 

Presentation: Community Health Council (CHC).

Sam Denton, Chief Officer, gave an overview of the CHC’s work.  He explained how the Town Council could help in terms of signposting and intelligence gathering.

 

It was RESOLVED to include CHC and DDAS contact details on the Town Council website

 

Manylion ar wefan y Cyngor Tref

Details on the ATC website

188

 

Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:

 

Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.

Mayoral Activity Report:   

 

A verbal report was presented

 

 

 

 

 

 

189

Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd 26 Chwefror  2018:

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda dau gywiriad bach.

Minutes of Full Council held on 26 February 2018:

 

 

It was RESOLVED to approve the minutes with a couple of minor corrections

 

 

190

 

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

174 Cynllun Grant Canmlwyddiant Menywod yn cael pleidlais: Roedd gan Arad Goch ormod o waith ar y gweill ar hyn o bryd i ymgymryd â mwy o brosiectau.

Matters arising from the Minutes:

 

174 Women’s Suffrage Centenary Grant Scheme: Arad Goch currently had too much work in progress to take on additional projects.

 

 

 

191

Cofnodion y Cyngor Arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd: Nos Lun, 5 Mawrth 2018  i gadarnhau cywirdeb.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion gan ychwanegu enw'r Cyng David Lees

Minutes of the Extraordinary meeting of Full Council held on: Monday, 5 March 2018 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the addition of Cllr David Lees’ name

 

 

192

Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Ymateb y Comisiwn Ffiniau ynghylch yr adolygiad etholiadol: gofynnodd am dystiolaeth ac awgrymiadau ar gyfer adolygu ffiniau yn Aberystwyth.

 

PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod arbennig arall o'r Cyngor Llawn i lunio ymateb. Y Maer a'r Dirprwy Faer i’w drefnu yn absenoldeb y Clerc.

Matters arising from the Minutes:

 

The response from the Boundary Commission regarding the electoral review:  asked for evidence and suggestions for a revision of boundaries within Aberystwyth.

 

It was RESOLVED to hold another extraordinary meeting of Full Council to formulate a response. The Mayor and Deputy Mayor to organise in the Clerk’s absence.

 

Trefnu cyfarfod

Organise meeting

 

193

 

Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 5 Mawrth 2018

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion.

 

Materion yn codi:

  1. 1 Plas Morolwg
  2. Cynhelir ymweliad safle ar 29.3.2018. Byddai'r Cyng Michael Chappell yn mynychu ar ran y Cyngor.

 

  1. Roedd yn fwriad gan Tai Wales and West drefnu diwrnod agored ym mis Ebrill cyn cyflwyno’r cais ar gyfer safle’r unedau gofal ychwanegol.

 

  1. Roedd Fforwm 50+ Aberystwyth wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref ynglŷn ag anaddasrwydd safle Plas Morolwg ar gyfer datblygiad gofal ychwanegol.

Minutes of the Planning Committee held on Monday, 5 March 2018

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

Matters arising:

  1. 1 Plas Morolwg
  2. A site visit was being held on 29.3.2018. Cllr Michael Chappell would attend on behalf of the Council.

 

  1. Wales and West Housing intended organising an open day in April before submission of the application for the extra care facility.

 

  1. Aberystwyth 50+ Forum had written to the Town Council regarding the unsuitability of the Plas Morolwg site for an extra care development.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

194

 

Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 12 Mawrth 2018

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion (gyda dau gywiriad bach) a’r argymhellion

 

Materion yn codi:

 

  • 4: Dwy flynedd yn ôl cafodd Aberystwyth ei disgrifio fel y Dref mwyaf Cyfeillgar felly nid oedd yn gyfredol

 

  • 7: Gwersi Cymraeg: i ddechrau 18 Ebrill am 6pm yn Siambr y Cyngor Tref.

 

Minutes of the General Management Committee held on Monday, 12 March 2018

 

It was RESOLVED to approve the minutes (with a couple of minor corrections) and recommendations

 

Matters arising:

 

  • 4: Aberystwyth’s Friendliest Town accolade was from two years ago and wasn’t current

 

  • 7: Welsh lessons: to commence 18 April at 6pm in the Town Council Chamber.

 

 

 

 

 

 

 

195

 

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 19 Mawrth 2018

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion, gan ychwanegu pwy oedd yn cadeirio, a’r argymhellion i gyd.

 

Materion yn codi:

  • 9: er cywirdeb, dylai hyn ddarllen 'cwynion llafar'. Dylid annog achwynwyr i anfon eu cwynion i Gyngor y Dref yn ysgrifenedig.

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 19 March 2018

 

It was RESOLVED to approve the minutes, with the addition of identifying the Chairs,  and all recommendations.

 

Matters arising:

  • 9: for accuracy this should read ‘verbal complaints’. Complainants should be encouraged to send their complaints to the Town Council in writing.

 

 

 

 

 

196

 

Ceisiadau Cynllunio: Dim oherwydd problemau gyda sustem newydd Adran Gynllunio’r Cyngor Sir. Dylid eu hysbysu.

 

Er hynny roedd y Cyng Lucy Huws wedi gweld hysbysiad yn Ffordd y Drindod ar gyfer troi HMO i 3 fflat. Yn gyffredinol roedd y math hwn o newid yn arwain at welliannau ond dylid edrych ar y manylion.

 

Planning Applications: None due to CCC Planning Department’s new system. They should be notified.

 

Cllr Lucy Huws had however seen a notice in Trinity Road of a conversion from a HMO to 3 flats. This kind of change generally led to improvement but the details would need to be considered.

 

Cysylltu gyda’r Adran Gynllunio

Contact the Planning Department

197

 

Cwestiynau sy’n ymwneud â materion o fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG:  Dim

 

 

Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit:   None

 

 

 

198

 

Cyllid – ystyried gwariant Mawrth: 

 

PENDERFYNWYD derbyn y gwariant

 

Finance – to consider the March expenditure

 

It was RESOLVED to accept the expenditure.

 

 

199

 

Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:

 

  1. Mark Strong:
  • Ymgynghoriad ar barcio (yn dechrau ym mis Hydref): Roedd y Cyng Strong eisoes wedi cyflwyno cynigion ond roedd yn annog cynghorwyr i anfon awgrymiadau i'w Cynghorwyr Sir.

 

  1. Alun Williams:
  • Byddai’r ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau ym mis Hydref

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:

 

 

Cllr Mark Strong:

  • Parking consultation: Cllr Strong had already submitted proposals but he encouraged councillors to pass on suggestions to their County Councillors.

 

 

  1. Alun Williams:
  • the formal consultation would commence in October

 

 

 

 

 

 

 

200

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol: 

 

Dim adroddiadau

WRITTEN reports from representatives on outside bodies:  

 

 

No reports

 

 

201

Apwyntio’r Maer ar gyfer y flwyddyn Faerol 2018-19

 

Cynigiwyd y Cyng. Talat Chaudhri gan y Cyng. Mark Strong ac eiliwyd gan y Cyng Rhodri Francis. Fe'i hetholwyd yn briodol trwy sioe dwylo.

 

To appoint the Mayor for the Mayoral year 2018-19

 

Cllr Talat Chaudhri was proposed by Cllr Mark Strong and seconded by Cllr Rhodri Francis.  He was duly elected by a show of hands.

 

 

202

Apwyntio’r Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn Faerol 2018-19

  • Cynigiwyd y Cyng. Brenda Haines gan y Cyng. Charlie Kingsbury a fe'i heiliwyd gan y Cyng. Mair Benjamin
  • Cynigiwyd y Cyng. Mari Turner gan y Cyng. Alun Williams a fe'i heiliwyd gan y Cyng. Talat Chaudhri

 

Cynhaliwyd pleidlais bapur a chafodd y Cyng. Mari Turner ei hethol yn briodol (9 i 6 pleidlais).

 

To appoint the Deputy Mayor for the Mayoral year 2018-19

 

  • Cllr Brenda Haines was proposed by Cllr Charlie Kingsbury and seconded by Cllr Mair Benjamin
  • Cllr Mari Turner was proposed by Cllr Alun Williams and seconded by Cllr Talat Chaudhri

 

A paper ballot was held and Cllr Mari Turner was duly elected (9 to 6 votes).

 

 

203

Cynnig: Newidiadau i bensiynau yn y Brifysgol (Cyng. Mark Strong) yn mynegi gofid ac yn gofyn am gefnogaeth yr Is Ganghellor.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r cynnig ac ysgrifennu at yr Is Ganghellor

Motion: Changes to pensions at the University (Cllr Mark Strong) expressing concern and asking for the Vice Chancellor’s support.

 

It was RESOLVED to support the motion and to contact the Vice Chancellor

 

Ysgrifennu at yr Is Ganghellor

Write to the Vice Chancellor

 

 

 

 

204

Gohebiaeth:

PENDERFYNWYD atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi trafodaeth ar yr eitemau canlynol.

 

Aberystwyth and its Court Leets gan George Eyre Evans: roedd preswylydd ym Mhenparcau yn cynnig gwerthu’r llyfr, a oedd yn gofnod o weithgaredd Aberystwyth o'r 1600au, i’r Cyngor Tref am £80.

PENDERFYNWYD prynu'r llyfr.

Correspondence:

It was RESOLVED to suspend Standing Orders in order to discuss the following items.

 

  • Aberystwyth and its Court Leets by George Eyre Evans: a Penparcau resident was offering the book, which was a record of Aberystwyth activity from the 1600s, for sale to the Town Council for £80.

It was RESOLVED to buy the book.

 

Prynu’r llyfr

Buy the book

205

Pwyllgor Staffio: cyfarfod caeedig i drafod materion yn ymwneud â staffio.

 

Staffing Committee: closed meeting to consider staffing matters

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Pwyllgor Cynllunio   /   Planning Committee

9.4.2018

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1

Yn bresennol:

 

Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)

Cyng. Mari Turner

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Talat Chaudhri

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present: 

 

Cllr. Lucy Huws (Chair)

Cllr. Mari Turner

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Talat Chaudhri

 

In attendance:

 

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau:

Cyng. Rhodri Francis

Cyng. Steve Davies

Cyng. Mair Benjamin

 

Apologies:

Cllr. Rhodri Francis

Cllr. Steve Davies

Cllr Mair Benjamin

 

 

3

Datgan Diddordeb: Dim

 

Declaration of interest: None

 

 

4

Cyfeiriadau Personol: Dim

 

Personal references: None

 

5

Ceisiadau Cynllunio:

Planning Applications:

 

 

5.1

A170922: Plas Morolwg

 

Roedd ymweliad safle wedi digwydd a roedd cyfarfod agored yn cael ei gynnal ym Mhenparcau ar 11.4.2018

 

A170922: Plas Morolwg

 

A site visit had been held and an open day was being held at Penparcau on 11.4.2018

 

5.2

A180288: Sgwâr Owain Glyndŵr - arwyddion

 

DIM GWRTHWYNEBIAD  mewn egwyddor ond:

 

  • Mae'r arwydd yn ychwanegu at annibendod mewn ardal gyda defnydd trwm ac efallai y bydd yn rhwystro cerddwyr. Dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r man gorau iddo yn y lleoliad hwn.
  • Dylid ystyried rhesymoli arwyddion hefyd a naill ai gwaredu’r hysbysfwrdd presennol, ac ymgorffori'r wybodaeth yn yr arwyddion digidol newydd, neu symud yr hysbysfwrdd presennol i fan arall.
  • Ni ddarparwyd digon o fanylion o ran p'un a yw'n un ochrog ac os oes angen mynediad i'r cefn ar gyfer cynnal a chadw
  • dylai'r wybodaeth ar y sgrin fod yn ddwyieithog a'r cyfieithiad o safon uchel.
  • dylai pob trwyddedu fod yn ei le ar gyfer unrhyw ddelweddau symudol

 

A180288: Owain Glyndŵr square - signage

 

NO OBJECTION in principle but:

 

  • The sign adds to clutter in a well used area and may impede on footfall. Further consideration should be given to the best position for it at this location.
  • Consideration should also be given to the rationalisation of signage and to either removing the existing notice board, and incorporating the information within the new digital signage, or to moving the existing notice board elsewhere.
  • Not enough detail was provided in terms of whether it is one sided and if access to the back is needed for maintenance
  • the information on the screen should be bilingual and the translation of a high standard.
  • all licensing should be in place for any moving images

 

Danfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

5.3

A180301: 1 Maes Lowri - trosi i mewn i 5 fflat

 

DIM GWRTHWYNEBIAD mewn egwyddor ond

 

  • gan fod yr ardal o werth hanesyddol a phensaernïol dylid cadw pob nodwedd hanesyddol - megis rheiliau Sioraidd, er enghraifft, yn ogystal â defnyddio yr un llechi Cymreig ac ati.
  • A oes darpariaeth parcio
  • A oes lle i sbwriel gael ei storio
  • A yw'r uchder yn yr atig yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu?

 

A180301: 1 Laura Place – conversion into 5 flats

 

NO OBJECTION in principle but

 

  • as the area is of historic and architectural value all historic features should be preserved - such as Georgian railings for example as well as using matching Welsh slate etc.
  • Is there parking provision
  • Is there refuse storage
  • Does the attic headroom conform to building regulations?

 

Danfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

5.4

A180303: 9 Maes Lowri - trosi i mewn i 6 fflat

 

DIM GWRTHWYNEBIAD mewn egwyddor ond

 

  • gan fod yr ardal o werth hanesyddol a phensaernïol dylid cadw pob nodwedd hanesyddol - megis rheiliau Sioraidd, er enghraifft, yn ogystal â defnyddio yr un llechi Cymreig ac ati. . Dylid ymgynghori gyda CADW o'r cychwyn.
  • Mae mannau gwyrdd yng nghanol y dref yn brin felly dylid cadw'r coed a chymaint o'r man gwyrdd â phosib. Dylid defnyddio gorchymyn cadw coed.
  • A oes darpariaeth parcio?
  • A oes lle storio sbwriel?

A180303: 9 Laura Place – conversion into 6 flats

 

NO OBJECTION in principle but

 

  • as the area is of historic and architectural value, and the building is listed, all historic features should be preserved - such as Georgian railings for example as well as using matching Welsh slate etc. CADW should be involved from the start.
  • Green spaces in the town centre are rare so the trees and as much of the green space as possible should be preserved. A tree preservation order should be applied.
  • Is there parking provision?
  • Is there refuse storage?

 

Danfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

5.5

A180321: Safle’r Tabernacl - gosod bolardiau a gwaith atgyweirio

 

Mae’r Cyngor Tref yn methu gwneud sylwadau oherwydd na allant ddod o hyd i'r wybodaeth ar y porth cynllunio. Hoffai'r Cyngor dderbyn rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn a chyfnod amser estynedig.

A180321: Tabernacle site – installation of bollards and repair works

 

The Town Council is unable to comment due to being unable to find the information on the planning portal.  The Council would like to receive more information on this work and an extended time period.

 

Danfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

6

Pwyllgor Rheoli Datblygu. Darparwyd adroddiadau Mawrth ac Ebrill er gwybodaeth

 

Rhestr o Benderfyniadau Dirprwyedig (Mawrth):

A160140: Penderfyniad a gyhoeddwyd 28.2.2018

Ail-ddatblygu garej Trefechan gynt i 7 uned breswyl. Roedd hyn wedi'i gymeradwyo yn ddibynol ar amodau a Chytundeb Adran 106. Ni ymgynghorwyd â'r Cyngor a byddai'n gofyn i'r cais hwn gael ei alw i mewn yn ffurfiol.

Development Control Committee. March and April Reports provided for information.

 

List of Delegated Decisions (March):

A160140: Decision issued 28.2.2018

Re-development of the former Trefechan garage into 7 residential units. This had been approved subject to conditions and Section 106 Agreement.  The Council had not been consulted and would ask for this application to be formally called in.

 

Danfon ymateb at y Cyngor Sir

Send response to CCC

7

Polisi Cynllunio Cymru - Argraffiad 10 - ymgynghoriad (yn dod i ben ar 18 Mai 2018):

Cyfarfod arbennig i’w gynnal ar gyfer trafod yn fanwl

 

Planning Policy Wales - Edition 10 – consultation (ends 18 May 2018):

A special meeting would be organised to discuss in detail

 

 

 

8

Gohebiaeth

Correspondence:

 

 

8.1

Ardal Gadwraeth Aberystwyth:

 

Yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddog Prosiect Gwella Cymunedol ynghylch ardaloedd peilot Erthygl 4, ARGYMHELLWYD y meysydd canlynol:

  • ‘Hen Dref’ Aberystwyth – Maes Lowri a'r ardal ehangach (blaenoriaeth)
  • Cornel y Cŵps a Ffordd Llanbadarn
  • Ffordd y Gogledd a’r ardal

Aberystwyth Conservation area:

 

Following discussion with the Community Enhancement Project Officer regarding pilot Article 4 areas, the following areas were RECOMMENDED:

  • ‘Old Town’ Aberystwyth - Laura Place and wider area (priority)
  • Cooper’s Corner and Llanbadarn Road
  • North Road and area

 

 

8.2

Sesiwn wybodaeth Cynlluniau Lle

 

6pm 25.4.2018 Siambr y Cyngor Tref

Place Plan Briefing:

 

6pm 25.4.2018 Town Council Chamber

 

 

8.3

Ymgynghoriad Tai – Tai i Bawb (gorffen 18.5.2018)

 

 

Housing Consultation – Housing for All (ends 18.5.2018)

 

 

 

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

General Management Committee

 

  1. 4.2018

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Steve Davies

Cyng. Dylan Lewis

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Sara Hammel

Cyng. Claudine Young

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mark Strong

Cyng. Michael Chappell

Cyng. Sue Jones Davies

 

Yn mynychu:

Cyng. Alun Williams

Cyng. Rhodri Francis

Cyng. David Lees

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Steve Davies

Cllr. Dylan Lewis

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Sara Hammel

Cllr. Claudine Young

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mark Strong

Cllr. Michael Chappell

Cllr. Sue Jones Davies

 

In attendance:

Cllr. Alun Williams

Cllr. Rhodri Francis

Cllr. David Lees

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Mari Turner

Cyng. Mair Benjamin

 

Apologies

 

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Mari Turner

Cllr. Mair Benjamin

 

 

3

Datgan Diddordeb: dim

Declaration of Interest: none

 

 

4

Cyfeiriadau personol:

 

Cynhaliwyd taith lwyddiannus Jiwbilî Parc Natur Penglais ddydd Sul. Llongyfarchiadau iddynt ar eu gwaith da

 

Personal references:

 

A successful Parc Natur Penglais Jubilee walk had been held on Sunday. Congratulations on their good work.

 

 

5

Cyfarfod baw cŵn

 

ARGYMHELLWYD:

 

  • trefnu’r cyfarfod ar ôl sefydlu’r Maer a chytunwyd ar y dyddiad 22 Mai.

 

  • Gwahodd y Warden Cŵn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

 

Dog fouling meeting

 

It was RECOMMENDED that:

 

  • the meeting should be organised after Mayor Making and the date of 22 May was agreed.

 

  • the Dog Warden be invited to the next General Management Committee meeting

 

Trefnu cyfarfod

Organise meeting

6

Ymgynghoriad Parc Ffordd y Gogledd

 

  • Roedd y daflen a'r holiadur wedi'i diweddaru ac ar gael i gynghorwyr a dylid ei rhoi ar y wefan hefyd. Roedd ymatebion yn dod i mewn ac roedd GAG yn bwriadu cyflwyno cynllun.

 

  • Roedd Cathryn Morgan wedi cynnig helpu i drefnu digwyddiad ymgynghori yn y parc ar adeg briodol. Yn y cyfamser roedd hi'n helpu’r Cyngor trwy gysylltu â phartneriaid amrywiol i drefnu digwyddiad ymgynghori ar gyfer maes chwarae Penparcau ym mis Mai / Mehefin.

 

  • Byddai cynghorwyr yn edrych ar drefnu diwrnod ymgynghori ar y stryd.

 

  • Ni ddylid symud y rhaffau a'r polion nes bod cynllun cymeradwy ar gyfer y parc, ond, er mwyn cadw costau i lawr, dylid lladd y gwair bob 3-4 wythnos (yn amodol ar gyngor gan Gyngor Sir Ceredigion).

North Road Park consultation

 

  • The updated flyer and questionnaire was available to councillors and should also be put on the website. There were responses coming in and GAG intended submitting a plan.

 

  • Cathryn Morgan had offered to help organise a consultation event at the park at an appropriate time. In the meantime she was helping the Council by liaising with various partners to organise a consultation event for Penparcau playground in May/June.

 

  • Councillors would look at organising a street consultation day.

 

  • The ropes and poles should not be removed until there was an approved plan for the park, but, to keep costs down, grass cutting should take place every 3-4 weeks (subject to advice from Ceredigion County Council).

 

 

 

Rhoi ar y wefan

Add to website

 

 

 

7

Diogelu Data:

 

ARGYMHELLWYD y dylid ychwanegu gwybodaeth at ddyletswyddau'r Is-bwyllgor Technoleg ac y byddai'r Is-Bwyllgor Technoleg a Gwybodaeth yn cael ei ail-enwi i edrych ar ofynion Diogelu Data. Roedd angen i gynllun fod ar waith erbyn 25 Mai 2018.

 

Data Protection

 

It was RECOMMENDED that Information should be added to the duties of the Technology Sub Committee and that the renamed Technology and Information Sub Committee would meet to look at the Data Protection requirements. A plan needed to be in place by 25 May 2018.

 

 

8

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol:

 

ARGYMHELLWYD bod y polisi drafft yn cael ei fabwysiadu

 

Social media policy:

 

It was RECOMMENDED that the draft policy be adopted.

 

 

 

9

Meinciau - archwiliad

 

Cytunwyd yn flaenorol gosod mainc ar ben uchaf y Stryd Fawr. Byddai hyn yn cael ei weithredu cyn gynted ag y bo modd.

Er mwyn galluogi trafodaeth bellach, byddai cynghorwyr yn archwilio'r meinciau yn eu wardiau (ffotograffau ac ati)

Benches audit:

 

Placing a bench in Upper Great Darkgate Sreet had been agreed previously. This would be actioned as soon as possible.

To inform further discussion, councillors would audit the benches within their wards (photographs etc)

 

 

 

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir.

Contact CCC

 

Cynghorwyr i nodi meinciau

Councillors to note benches

10

Swyddfa:

 

  • Ystordy: er mwyn creu mwy o ofod storio mae angen clirio nifer o eitemau nas defnyddiwyd allan o'r ystafell storio. Yn amodol ar y rhestr brydles, rhoddwyd caniatâd i'r Clerc weithredu.

 

  • Mynediad trwy’r lifft: awgrymwyd llen metel ond efallai y byddai hyn yn risg tân. Cytunwyd i ofyn am gyngor gan swyddog tân

 

  • Dylai cadair argyfwng fod ar gael yn y swyddfa. Byddai hyn yn cael ei ymchwilio.

Office:

 

  • Storeroom: in order to create more storage space various unused items needed to be cleared out of the store room. Subject to the lease inventory the Clerk was given permission to use her discretion.

 

  • Lift access: a metal shutter had been suggested but was possibly a fire risk. It was agreed to seek advice from a fire officer

 

  • An evacuation chair should be available in the office. This would be investigated.

 

 

 

11

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

  1. 1

Adroddiad arolygu ROSPA 2018:

roedd y materion a nodwyd yn cael sylw gan CSC ond roedd angen i'r Pwyllgor Meysydd Chwarae gyfarfod i drafod opsiynau arwyneb ayb.

 

ROSPA inspection report 2018:

the issues noted were being addressed by CCC but the Playgrounds Committee needed to meet to discuss surfacing options etc.

 

Trefnu cyfarfod

Organise meeting

  1. 2

Mainc Coffa:

y geiriad Cofio'r Cyng. Emily Jayne Price 'Yn wastad'. Byddai'r cyfieithiad Cymraeg yn cael ei redeg heibio'r cyfieithydd. Dylai'r deunydd a ddefnyddir ar gyfer y plac fod yn anghyrydol megis dur di-staen.

Memorial Bench:

the wording Remembering Cllr Emily Jayne Price ‘Always’ was agreed.  The Welsh translation would be run past the translator. The material used for the plaque should be non-corrosive such as stainless steel.

 

 

  1. 3

Adolygiad Cyngor Tref a Chymuned: Dylai ymateb y Cyngor gynnwys y canlynol:

 

  • Mae Cynghorau Tref yn cael eu 'bownsio' i mewn i gymryd cyfrifoldebau ychwanegol. Nid oes proses gynllunio briodol ac ni roddir digon o amser na rhybudd.
  • Nid oedd yr adolygiadau ffin wedi eu trefnu o’r gwaelod i fyny ac dyna’r math o ad-drefnu sydd ei angen
  • Mae'r adolygiad o ffiniau wardiau ar gyfer cynghorau sir a phwerau cynghorau cymuned yn digwydd mewn ffordd anniben. Mae ffiniau'r ward yn cael eu hadolygu mewn rhai mannau ar draws Ceredigion, gan gynnwys Aberystwyth a Llanbadarn Fawr, ar sail ffiniau'r cyngor cymuned sydd eu hunain, mae’n debyg, yn cael eu hadolygu mewn blwyddyn neu ddwy. Mae'r ffiniau hyn yn rhai mympwyol hanesyddol oherwydd nad ydynt wedi'u hadolygu ers amser hir, ac heb ystyriaeth o’r ffactorau daearyddol wrth sicrhau'r gynrychiolaeth ddemocrataidd mwyaf effeithiol ar gyfer y cymunedau hynny. Gofynnir i ni adolygu pwerau cynghorau cymuned heb wybod canlyniadau'r adolygiad o uno cynghorau sir neu'r pwerau a allai fod ganddynt yn dilyn yr adolygiad hwnnw. Yn fyr, mae angen cynnal yr holl adolygiadau hyn mewn modd cydlynol a heb ofyn cwestiynau arweiniol sy'n ymddangos i arwain cynghorau i gytuno â nhw yn hytrach na gwirfoddoli eu barn eu hunain.

O ganlyniad, teimlwn fod natur  rhanedig yr amrywiol adolygiadau hyn yn mynd i’n gadael gyda system o lywodraeth leol sydd ymhell o fod yn ddelfrydol ac a allai fod yn llai effeithiol a llai cynrychioliadol na'r system gyfredol. Mae angen ail-ddylunio pob un o'r adolygiadau hyn ar unwaith a chychwyn ar ymgynghoriad llawn sy'n gofyn am farn pobl yn hytrach na gofyn cwestiynau cyfyngedig o fewn fframwaith rhagofynedig.

 

Roedd y Clerc hefyd wedi codi'r materion canlynol yn y cyfarfod ymgynghori:

 

  • Roedd Cynghorau Sir mewn sefyllfa dda i roi cyngor arbenigol i Gynghorau Tref a Chymuned ar feysydd fel cyfraith cyflogaeth a diogelu data ac ati. Byddai comisiynu gwasanaethau oddiwrth yr Awdurdod Lleol neu ddarparwr lleol arall yn cefnogi'r economi a swyddi lleol yn ogystal â chynnal galluedd yr Awdurdod Lleol.
  • Mae’r Archwiliad Blynyddol yn llawdrwm a dylid ddangos mwy o ffydd yn yr archwiliad mewnol annibynnol gan fod gweithwyr proffesiynol yn atebol i'w cyrff rheoli.
  • Roedd y berthynas rhwng y Cyngor Tref a Sir yn aml yn cael eu harwain gan bersonoliaethau yn hytrach na chael prosesau priodol.

Town and Community Council Review: The Council’s response should include the following:

  • Town Councils are being ‘bounced’ into taking extra responsibilities. There is no proper planning process and insufficient time or warning is given.

 

  • The boundary reviews were not ‘bottom-up’ and ‘bottom-up reorganisation is what is needed

 

  • The review of both ward boundaries for county councils and the powers of community councils is happening in a haphazard way. The ward boundaries are being reviewed in some places across Ceredigion, including Aberystwyth and Llanbadarn Fawr, on the basis of community council boundaries that we understand will themselves be reviewed in a year or two from now. These boundaries are themselves historical and effectively arbitrary because they have not been reviewed for so long, and without consideration of geographical factors in ensuring the most effective democratic representation for those communities. We are being asked to review the powers of community councils without knowing the results of the review of likely mergers of county councils or the powers that they might have following that review. In short, all these reviews need to be carried out in a coordinated fashion and without asking leading questions that appear designed to make councils agree with them rather than volunteer their own opinions.

As a result, the partial and fractured nature of these various reviews is likely, we feel, to leave us with a system of local government that is far from ideal and which may risk being less effective and less representative than the current system. There is an immediate need to redesign all of these reviews and embark on a full consultation that asks people's views instead of asking limited questions within a predetermined framework.

 

The Clerk had also raised the following issues at the consultation meeting:

 

  • County Councils were well placed to provide expert advice to Town and Community Councils on areas such as employment law and data protection etc. Commissioning services from the Local Authority or other local provider would support the local economy and jobs as well as maintain capacity within the Local Authority. 
  • The Annual Audit was heavy handed and more trust should be placed on the independent internal audit as professionals are answerable to their management bodies.
  • The relationships between Town and County Council were often personality led as opposed to having proper processes.

 

 

  1. 4

Ffordd y Gogledd: Derbyniwyd llythyr ynglŷn â baw cŵn a materion traffig.

Dylid danfon ymateb yn amlinellu gweithredoedd arfaethedig y Cyngor ynghylch baeddu cŵn ac yn cynnwys cyfarwyddid i ffonio 101 ar gyfer materion traffig.

North Road: A letter had been received regarding dog fouling and traffic issues. 

A response to be sent outlining Council’s proposed actions regarding dog fouling and include instructions to phone 101 for traffic issues.

 

Danfon ymateb

Send response

 

  1. 5

Band Arian Aberystwyth: cais am gefnogaeth i berfformiadau yn y Bandstand ym mis Gorffennaf ac Awst. Dylid cysylltu â CSC ac ystyried y cais yn y Pwyllgor Cyllid.

 

Aberystwyth Silver Band: a request for support for performances at the Bandstand in July and August.  Contact CCC and consider in the Finance Committee.

 

Eitem i’r Pwyllgor Cyllid

Finance Committee agenda item

  1. 6

Cyclefest: derbyniwyd cwyn gan fusnes yn y dref ynglŷn â sŵn a rhwystrau. Byddai hyn yn cael ei anfon ymlaen at CSC gyda chais eu bod yn ystyried pryderon busnesau.

Cyclefest: complaint received from a town business regarding noise and barriers. This would be forwarded to CCC with a request that they consider the concerns of businesses.

 

Danfon at y Cyngor Sir

Send to CCC

  1. 7

Amrywiol o faterion: Cododd y Cyng David Lees:

 

  • Lleoliad cerflun y Tabernacl: perchenogaeth i'w gadarnhau cyn ystyried lleoliadau eraill
  • Oergell gymunedol: dylid pasio’r syniad at Aber Surplus
  • Ffynhonnau dŵr yfed

 

Y Cynghorydd Lees i ddatblygu'r cynigion i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor GM

Various issues: Cllr David Lees raised:

 

  • The location of the Tabernacle statue: ownership to be confirmed before consideration of alternative locations
  • Community fridge: pass idea on to Aber Surplus foods
  • Drinking water fountains

 

Cllr Lees to develop the proposals for consideration at the next GM Committee meeting

 

Gwneud ymholiadau

Make enquiries

  1. 8

Pryderon Diogelwch Ffyrdd ger Park Kronberg: ymateb i'r e-bost gan amlinellu arwyddion a nodweddion diogelwch cyfredol

 

Road safety concerns by Parc Kronberg: respond to the email, outlining current signage and safety features

 

 

  1. 9

Ymgynghoriad cofrestru cŵn CSC: cefnogwyd y cynnig

CCC Dog registration consultation: the proposal was supported

 

 

  1. 10

Ymgynghoriad Treth ar Blastig (yn dod i ben 18.5.2018): i'w ystyried ymhellach ond ni ddylid gosod costau ar y defnyddiwr

Plastic Tax consultation ( ends 18.5.2018):  to be considered further but costs should not be placed on the consumer

 

 

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau

Finance and Establishments committee

 

  1. 4.2018

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Dylan Lewis

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. David Lees

 

Yn mynychu:

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

 

Present

 

Cllr. Dylan Lewis

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. David Lees

 

In attendance:

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

Cyng. Steve Davies

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Rhodri Francis

 

Apologies

Cllr. Steve Davies

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Rhodri Francis

 

 

3

Datgan buddiannau:

 

Nodwyd o fewn yr eitem ar yr agenda

Declarations of interest:

 

Noted within the agenda item

 

 

4

Cyfeiriadau Personol: Dim

 

Personal references: None

 

5

Ystyried Cyfrifon Mis Mawrth

 

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cofnodion.

 

Y gost o ddarparu blodau i'w drafod

Consider Monthly Accounts for March

 

It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.

 

The costs of providing flowers to be discussed.

 

 

6

Rhoddion Gefeillio

 

ARGYMHELLWYD bod y bedair partneriaeth gefeillio yn derbyn £1500 yr un yn unol gyda’r gyllideb a gytunwyd.

 

Twinning donations

 

It was RECOMMENDED that the four twinning partnerships receive £1500 each as allocated in the agreed budget.

 

 

7

Ceisiadau grant

Grant Applications

 

 

7.1

Clwb Nofio i Bawb: llogi pwll nofio ar gyfer grŵp anabledd.

 

Nodyn: Mae angen sicrwydd bod hyn yn fuddiol i'r rhai sy'n byw yn Aberystwyth. Dylent wneud cais i Gynghorau Cymuned eraill

All-in Swimming Club: pool hire for disability group.

 

Note: Reassurance is needed that this benefits those living in Aberystwyth. They should apply to other Community Councils

 

£500

7.2

Gigs Cantre’r Gwaelod: tri gig o safon yn y Bandstand i hyrwyddo diwylliant Cymreig

 

Nodyn: Dylid prisio tocynnau yn rhesymol

Gigs Cantre’r Gwaelod: three quality gigs in the Bandstand to promote Welsh culture.

Note: Tickets should be kept reasonably priced

£1800

7.3

Radio Bronglais: Offer darlledu a gwelliannau mynediad.

 

Datganodd y Cyng Dylan Lewis ddiddordeb.

Radio Bronglais: Broadcasting equipment and access improvements.

Cllr Dylan Lewis declared an interest.

£1000

7.4

Grŵp Cyfeillgarwch Aberystwyth: llogi ystafell a theithiau

 

Nodyn: Gan fod Arian i Bawb yn darparu arian ar gyfer y math hwn o grŵp, dyrannwyd yr arian ar gyfer y cafnau blodau yn yr orsaf.

Aberystwyth Friendship Group: room hire and trips.

Note: As Awards for All provides funding of up to £10,000 for this kind of group the money was allocated for the flower tubs in the station.

£125

7.5

Fforwm 50+ Aberystwyth: siaradwyr a theithiau.

 

Nodyn: Ni roddwyd arian gan fod Arian i Bawb yn cynnig hyd at £10,000 ar gyfer y math hwn o grŵp

Aberystwyth 50+ Forum: speakers and trips.

Note: No money allocated as Awards for All provides funding of up to £10,000 for this kind of group.

-

7.6

Cymdeithas Gofal Care Society: Gwasanaeth Cymorth Argyfwng.

 

Nodyn: Ni ddyrannwyd unrhyw arian gan nad yw cyllideb grantiau y Cyngor Tref yn ddigon o faint i gefnogi ceisiadau mawr am arian refeniw.

Cymdeithas Gofal Care Society: Crisis Support Service.

 

Note: No money was allocated as the Town Council’s grant budget is not large enough to support largescale revenue funding applications.

 

-

7.7

Radio Aber: radio gymunedol

 

Radio Aber: Community radio

 

£1000

7.8

Clwb Bowlio (Plas crug): Gwobr cystadleuaeth agored Cwpan y Gorfforaeth

Bowling Club (Plas crug): Corporation Cup open competition prize money

£350

7.9

Cymdeithas Pysgotwr Bae Ceredigion Cyf: Gwyl Fwyd Môr Aberystwyth 2018

Cardigan Bay Fisherman’s Association Ltd: Aberystwyth Sea2shore Food Festival 2018

 

£1800

7.10

Seindorf Arian Aberystwyth: Extravaganza Pres 2018

Aberystwyth Silver Band: Brass Extravaganza 2018

 

£2000

7.11

Grŵp Cymorth Parc Natur Penglais: Gwella llwybrau

Parc Natur Penglais Support Group: Path improvement

 

£1090

7.12

Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth: Digwyddiadau misol i ddenu aelodau newydd + gweithgaredd yn y Bandstand

 

Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth: Monthly events to attract new members + Bandstand activity

£600

7.13

Cynghrair Criced Nos Aberystwyth a'r Cylch: Cystadleuaeth Cwpan a Phlât.

 

Nodyn: dylai'r wobr gael ei enwi 'gwobr Cyngor Tref Aberystwyth' a dylid holi cynghorau cymuned eraill am gyllid.

 

Aberystwyth & District Evening Cricket League: Cup and Plate Competition.

 

Note: the prize should be named ‘the Aberystwyth Town Council prize’ and they should apply to the other community councils for funding.

 

£200

7.14

Canolfan Methodistiaid St Paul Caffi Talu fel y mynwch: offer cegin

 

Nodyn: y cynnig yn ddibynnol ar dderbyn gwybodaeth ariannol priodol. Fel arall yr arian i fynd tuag at yr Ambiwlans Awyr

St Paul’s Methodist Centre Pay as you Will cafe: equipment.

Note: offer subject to receipt of appropriate financial information.  Otherwise the money to go towards the Air Ambulance

£400

7.15

Cymdeithas Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth: perfformwyr a hyrwyddo

 

Cymdeithas Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth: performers and promotion

£1000

7.16

Cymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd Aberystwyth (AHCS): Digwyddiadau diwylliannol a dosbarthiadau addysgu.

Nodyn: dylid cynnal digwyddiadau a ariennir gan y Cyngor yn Aberystwyth

Aberystwyth Hindu Cultural Society (AHCS): Cultural events and teaching classes.

Note: events funded by the Council should be held in Aberystwyth

 

£1000

7.17

CAB: Treuliau a hyfforddiant gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth Aberystwyth

CAB: Aberystwyth Citizens Advice volunteer expenses and training

 

£4000

7.18

GAG: labeli dwyieithog ar gyfer coed ar lwybrau coed a llwybrau troed

Greener Aberystwyth Group GAG: bilingual labels for trees on tree trail and footpaths

£450

7.19

Eisteddfod Calan Mai: Nawdd i’r gystadleuaeth gorawl

Eisteddfod Calan Mai: sponsorship of the choral competition

£225

7.20

Noddfa (Aberaeron): Trafnidiaeth gan yrwyr gwirfoddol i ddod ag aelodau i Noddfa.

Nodyn: allan o’r ardal

Noddfa (Aberaeron): Transport by volunteer drivers to bring members to Noddfa.

Note: out of area

-

7.21

RAY Ceredigion: Clwb Dydd Sadwrn misol ym Mhenparcau i drigolion lleol

 

Nodyn: dylai'r arian fynd tuag at blant sy'n byw o fewn ardal y Cyngor Tref.

RAY Ceredigion: Monthly Saturday club in Penparcau for local residents.

Note: the money should go towards children that live within the Town Council area.

£500

7.22

Ambiwlans Awyr Cymru i Blant:

Nodyn: Er bod hwn hefyd yn ariannu refeniw, teimlodd y rhan fwyaf o’r aelodau ei fod yn wasanaeth achub bywyd a dylid ei helpu hyd nes ei fod yn cael ei ariannu'n ganolog.

Children’s Wales Air Ambulance:

Note: Whilst this was also revenue funding the marjority of members felt it was a life saving service and should be helped until it was funded centrally.

£1960

 

8

Archwiliad flynyddol

 

Derbyniwyd y gwaith papur archwilio gan Grant Thornton.

 

Annual Audit:

 

The audit paperwork had been received from Grant Thornton.

 

 

9

Cofrestr Risg

 

Cyflwynodd y Clerc gofrestr wedi'i ddiweddaru a byddai’n cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn.

Risk Register

 

A reviewed Risk Register was presented and would be considered by Full Council.

 

 

 

 

10

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

 

  1. 1

Gyda’n Gilydd;

 

ARGYMHELLWYD y byddai'r Cyngor yn talu costau llogi'r Bandstand hyd at uchafswm o £104.

Great Get Together:

 

It was RECOMMENDED that the Council would pay the costs of hiring the Bandstand up to a maximum of £104.

 

 

  1. 2

Rhaglen haf y Band Arian:

 

ARGYMHELLWYD y byddai'r Cyngor yn talu costau llogi'r Bandstand (£468) a ffi y band o £100 fesul 9 perfformiad wythnosol ar nos Fawrth (£900). Dylid gofyn iddynt a fyddent hefyd yn fodlon chwarae ar noson arall.

Silver Band summer programme:

 

It was RECOMMENDED that the Council would pay the costs of hiring the Bandstand (£468) and the band’s fee of £100 for 9 weekly Tuesday night performances (£900). They should be asked if they would also be willing to play on another evening.

 

 

  1. 3

Adnewyddu’r Clwb Cychod:

 

Dylid gyflwyno cais ffurfiol am grant erbyn Mis Ebrill 2019

Boat Club Renovation:

 

They should submit a formal grant application by April 2019

 

 

  1. 4

Glanhau’r traethau:

 

ARGYMHELLWYD y dylid talu’r £3500 i’r Cyngor Sir ond gyda chais eu bod yn codi'r darnau llai o polysterene a phlastig.

Beach cleaning:

 

It was  RECOMMENDED that the £3500 should be paid to CCC but with a request that they pick up the smaller pieces of polysterene and plastic.

 

 

  1. 5

Cynhadledd SLCC ac ULlC 16.5.2018:

 

ARGYMHELLWYD y dylai'r Clerc fynychu.

SLCC and OVW Joint Conference 16.5.2018:

 

It was RECOMMENDED that the Clerk should attend.