Swyddi
CLERC DAN HYFFORDDIANT / DIRPRWY CLERC
Gradd / Cyflog: LC2 (SCP 18) £27,344 pro rata (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos) neu opsiwn rhan amser
Wedi'i leoli yn: Swyddfa'r Cyngor Tref, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth SY23 2BJ
DYDDIAD CAU: 5pm 16 Mawrth 2023
Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ar adeg gyffrous yn ei ddatblygiad, mae Cyngor Tref Aberystwyth yn ceisio penodi Clerc dan Hyfforddiant / Dirprwy Glerc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cefnogaeth lawn i ymgymryd â'r holl hyfforddiant angenrheidiol i gael cymhwyster Cilca er mwyn ymgymryd â rôl y Clerc a bod yn gyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol ac ariannol y Cyngor Tref. Cyflwynir graddfa gyflog Clerc ar yr adeg hon.
Gan weithio o swyddfeydd y Cyngor Tref yn Aberystwyth rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt brofiad o weinyddiaeth llywodraeth leol, y gyfraith a rheolaeth ariannol, neu eu bod yn barod i ddysgu amdanynt.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â meddylfryd cymunedol, gyda sylw i fanylion, sgiliau TG rhagorol ac sy'n barod i ddilyn cyfleoedd hyfforddi parhaus.
I gael mwy o fanylion, y disgrifiad swydd llawn a’r ffurflen gais, e-bostiwch Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 624761. Ni dderbynnir CVs.
Dyma rai o gyflogwyr eraill yn ardal Aberystwyth: -
Prifysgol Aberystwyth
Mae'r Brifysgol yn cyhoeddi swyddi gwag yn gwasanaethau fel eu llyfrgelloedd ayyb ac ym maes academaidd fel ymchwilio a dysgu.
https://jobs.aber.ac.uk/
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei rhedeg yn hollol o Aberystwyth fel dyweda'r Siartr Brenhinol sy'n ei chorffori.
https://www.llgc.org.uk/about-nlw/work-with-us/jobs/
Mudiad Meithrin
Aberystwyth yw'r lle y mae prif swyddfa y sefydliad hwn ond mae llawer o'i swyddi yn ardaloedd fel Rhondda Cynon Taf a Drenewydd (Sir Drefaldwyn).
http://www.meithrin.cymru/jobs/
Ceredigion County Council
Mae'r Cyngor Sir yn gweithredu llawer o wasanaethau yn Aberystwyth ac o gwmpas y sir County fel addysg (dysgu am oes ac ysgolion), llyfrgelloed cyhoeddus a chadw ffyrdd.
www.ceredigion.gov.uk/English/Resident/Jobs-Careers/Pages/default.aspx
Swyddle
Mae'r Swyddle.com yn wefan ar gyfer chwilio am swydd a chyhoeddi swyddi.
http://swyddle.com/jobs/