Llyfrgelloedd
Mae sawl llyfrgell yn Aberystwyth a ddarperir gan sefydliadau gwahanol. Mae'r Canolfan Alun R. Edwards, a leolir yn Hen Neuadd y Dref, yn llyfrgell benthyca a ddarperir gan y Cyngor Sir. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell hawlfraint y deyrnas unedig ac fe'i noddir gan Lywodraeth Cymru. Darperir Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol gan Brifysgol Aberystwyth ac fe'u lleolir ar gampws Penglais, yn ogystal a Llyfrgell Thomas Parry a leolir ar gampws Llanbadarn.
Canolfan Alun R. Edwards

Dyma llyfrgell gyhoeddus a ddarperir gan y Cyngor Sir, a, gan ymaelodi, mae gan preswylwyr Ceredigion yr hawl i fenthyg llyfrau. Mae'r Canolfan Alun R. Edwards hefyd yn gartref i archifau Sir Ceredigion. Trodd yr adeilad, ag ail-adeiladwyd ym 1957 yn dilyn tan difrifol, o gartref y Cyngor Tref a swyddfeydd y Cyngor Sir i lyfrgell newydd sbon yn 2012.
Llyfgell Genedlaethol Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1907, fel unig llyfrgell hawlfraint yng Nghymru. Mae'r llyfrgell yn gartref i filiynau o lyfrau, yn ogystal a gasgliadau amrywiol o ddogfenni, llythyrau, lluniau a chofnodion o bob agwedd o hanes Cymru. Ymysg eraill, mae'r llyfrgell yn gartref i Lyfr Ddu Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, y llyfr gyntaf i gael ei hargraffu yn Gymraeg, a'r cyfieithiad gyntaf o'r Beibl. Ar sail unigrywiaeth y deunyddau, ni ellid benthyg deunyddau o'r llyfrgell.
Llyfrgell Hugh Owen

Llyfrgell Hugh Owen yw prif llyfrgell Prifysgol Abeystwyth, gyda amrywiaeth eang o lyfrau ar amryw bwnc.
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Mae Llyfrgel y Gwyddorau Ffisegol yn gartref i gasgliadau y Prifysgol ar fathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg. Mae gan y llyfrgell golygfeydd panoramig ar draws Bae Ceredigion. Mae'r adeilad y Gwyddorau Ffisegol hefyd yn gartref i'r gasgliad Scott-Blair o lyfrau am ddynameg hylifoedd.
Llyfrgell Thomas Parry
