Aberystwyth Council

Labyrinth Aberystwyth

Mae'r labyrinth yn gynddelw hynafol a geir mewn nifer o ffurfiau celf a diwylliannau o gwmpas y byd. Credir bod enghreifftiau cynnar yn dyddio cyn belied a 4000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir y labyrinth enwocaf gyflawn yn Eglwys Gadeiriol Chartres yn Ffrainc a adeiladwyd tua 1200 OC. Defnyddiwyd y labyrinth gan bererinion fel taith symbolaidd i Jerwsalem gyda'r bwriad o ddod o hyd i Grist yn y Ganolfan. Fodd bynnag, yn y 15-20 mlynedd diwethaf dechreuodd y labyrinth cael ei ddefnyddio yn fwy eang i ddibenion myfyrdod ac ysbrydol. Gellir ei ddefnyddio fel myfyrdod cerdded neu ffordd o ddod o hyd i'ch canolbwynt ysbrydol.

Mae'r cynllun a'r deunyddiau a ddefnyddir i adeiladu'r labyrinth yn ein hatgoffa o ddau ddiwydiant pwysig iawn, a chwaraeodd ran fawr yn Aberystwyth blynyddoedd lawer yn ôl. Mae'r pyst pren yn cynrychioli hwylbrenni o longau a adeiladwyd yn Aberystwyth. Yn fis Mai 1778 rhoddwyd darn o dir i John Jones o Wrecsam am y diben o wneud rhaffau, sefydlwyd labyrinth ar y tir yma heddiw. Mae'r ardal hon yn ymestyn o Deiars Cambrian i faes parcio clinig Ffordd y Gogledd. Mae'r goeden a blannwyd yn ganol y labyrinth yn rhodd gan dref efeillio Aberystwyth, sef Kronberg, fel arwydd ein cyfeillgarwch parhaus.

Gwelir Labyrinth Aberystwyth o Ffordd y Gogledd.
Gwelir Labyrinth Aberystwyth o Ffordd y Gogledd.

Mae llawer o resymau i gerdded y labyrinth, gan gynnwys:

  • Rhoi diolch
  • Ymlacio
  • Breuddwydio
  • Gofyn am arweiniad
  • Alaru coiled
  • Gweddio ac i fod gyda Duw
  • DIM OND AM HWYL

Beth bynnag yw eich rheswm, rydym ni o Gyngor Tref Aberystwyth yn dymuno profiad pleserus i chi.