Y Pentreflys
O gyfnod y siartrau diweddarach hyd at y flwyddyn 1835, rheolid materion y dref gan y Pentreflys, a gyfarfu ddwywaith bob blwyddyn, adeg y Pasg a thros Ŵyl Fihangel. Nid yw'n glir sut y datblygodd, gan nad yw ei gofnodion yn mynd yn ôl ond at 1690. Er hynny, gwyddom fod gan Aberystwyth Faer - swyddog llywyddol y Pentreflys - cyn belled yn ôl â 1584 yng nghyfnod y Frenhines Elisabeth I. Yr oedd llywodraeth y gorfforaeth yn perthyn i'r llysoedd hyn, a benodai swyddogion y dref ac a derbyniai bwrdeisiaid. Câi'r Pentreflys ei alw a'i ddal gan y Maer. Yr oedd 12 bwrdais neu fwy yn y rheithgor, a gâi eu dethol ac a gymerai llw gan y Maer. Ym 1833, aelodau'r gorfforaeth oedd y Maer, y crwner, siambrlen (trysorydd), clerc y dref, dau sarsiant-wrth-arfau, dau ysborionwr a nifer amhenodol o fwrdeisiaid. Cyfarfyddai'r Pentreflys yn Neuadd yr Urdd, a godwyd drwy orchymyn Llysoedd Chwarter Sir Aberteifi tua'r flwyddyn 1690 ac a ailgodwyd ym 1770. Safai'r neuadd ar gyffordd y Stryd Fawr a Heol y Wig, yn y fan lle codwyd Cloc y Dref wedyn. Weithiau torrai'r Pentrelys ei gyfarfodydd i ymneilltuo dros yr heol i Westy'r Llew (Neuadd Padarn yn awr).
The Bwrdeisiaid
Yn 1277 sefydlodd siartr gyntaf Aberystwyth yr hawl i benodi bwrdeisiaid. Yn ystod cyfnod y Pentreflysoedd, meddent ar bedair braint o leiaf: pleidlais i ethol A.S., hawl masnachu, rhyddhad o dollau marchnad a thollau yd o fewn y Fwrdeistref, a hawl pori ar y comin neu'r gors. Bwriad gwreiddiol y Pentreflysoedd oedd gweld tangwystlon y bwrdeisiaid oedd wedi rhoi addewidion cilyddol am ymddygiad da y cyfan ohonynt. Yr unig ffordd y câi bwrdais ei dderbyn i ryddfraint y Fwrdeistref oedd ei gyflwyno gan y rheithgor yn y Pentreflys. Ym 1833, y ffi mynediad oedd 10 swllt a chwe cheiniog.
Ni ddylid cymryd, serch hynny, mai sefydliad democrataidd oedd hwn. Am gannoedd o flynyddoedd yr oedd rheoli materion y dref yn nwylo'r teulu Pryse o Gogerddan, y prif dirfeddiannwr. Penodwyd meiri o'r teulu Pryse yn fynych. Yr oedd dau yn aelodau seneddol dros etholaeth y fwrdeistref yn y 18fed ganrif a daliodd y teulu y sedd yn ddi-fwlch o 1818 i 1855. Yr oedd materion y dref ynghwlm wrth ffawd y teulu Pryse, yn enwedig ym mlynyddoedd terfynol y Pentreflys.
Esboniodd y Comisiwn Brenhinol ar Gorfforaethau Trefol ym 1833 sut y canhaliai'r teulu Pryse reolaeth lwyr. Llenwid swydd y Maer gan yr ychydig ddynion pennaf fyddai'n rheoli yn eu tro. Gan fod y Maer yn dethol y rheithgor, gwnaeth yn siŵr o ddethol dynion fyddai'n parhau'r system. "Yn gyffredin mae mwyafrif o'r rheithgor wedi bod yn fwrdeisiaid anhrigiannol, tenantiaid Mr. Pryse, yr aelod presennol, sydd o'r un blaid wleidyddol â'r ychydig ddynion sy'n rheoli," meddai adroddiad y comisiynwyr. "Cyfaddefwyd bod yr holl rai yr oedd ganddynt farnau yn erbyn rhai'r blaid sy'n rheoli yn y gorfforaeth yn cael eu cadw allan yn drylwyr. Mae'n debyg mai hyrwyddo dylanwad y blaid hon yw'r prif bwrpas ymarferol y mae'r gorfforaeth wedi bodoli ar ei gyfer ers nifer sylweddol o flynyddoedd." Mewn gwirionedd, yr oedd y rheithgor wedi dod yn sêl bendith. Ar ddiwedd bob Pentreflys, ciniawai'r rheithgor a'r swyddogion gyda'i gilydd ar draul y gorfforaeth. Yn y blynyddoedd 1830 byddai hyn yn costio o leiaf £2 y flwyddyn i'r dref - swm sylweddol yn y dyddiau hynny.
Gwarchodwyr
Cyfeiliornus fyddai cymryd, er hynny, bod dynion y Pentreflys yn esgeuluso ei ddyletswyddi o ran pethau eraill. Dengys y cofnodion eu bod yn wirioneddol warchodwyr y dref o ran hawliau masnachu, golwg y dref, trefn gyhoeddus ac unrhyw dresmasiadau eraill a effeithiodd "tref, bwrdeistref a rhyddfraint Aberystwyth." Dyletswydd y rheithgor oedd tynnu sylw cyhoeddus at y cyfryw faterion a gwnaethant felly drwy "gyflwyniadau." Cyhoeddwyd cofnod o'r rhain gan y Welsh Gazette ym 1902 mewn llyfr o'r enw "Aberystwyth and Its Court Leet" gan y Parch. George Eyre Evans. Penodwyd y swyddogion yn flynyddol, ond ailetholwyd rhai yn flynyddol am flynyddoedd lawer.
Ysborionwyr
Swydd enillfawr iawn oedd hon ac yr oedd y rhai a ddetholwyd fel arfer yn wardeiniaid eglwysi ac yn oruchwylwyr y tlodion. Rhannwyd y dref mewn tair rhan, a seiliwyd ar Stryd y Bont, y Stryd Fawr a gweddill y dref. Talai'r ddau ysborionwr ffi o £10 i'r gorfforaeth bob blwyddyn am fraint eu swyddi. Yr oedd pob deiliad tŷ yn gyfrifol am gael gwared â'i ysbwriel ei hunan a thalent i'r ysborionwr i wneud y gwaith. Er hynny, cyflogai'r ysborionwyr y tlodion i wneud y gwaith y talai pobl y dref iddynt eu hunain amdano.
Masnachu a Marchnadoedd
Yr oedd yn fater o bwys i'r bwrdeisiaid amddiffyn eu hawliau masnachu neilltuedig, yn y marchnadoedd Dydd Llun ac yn y ffeiriau fel ei gilydd. Tynnai Pentreflysoedd sylw yn aml at fasnachu diawdurdod gan unigolion yn y dref. Gwaherddid masnachu i unrhyw un nad oedd yn fwrdeisiad heb ganiatâd y bwrdeisiaid. Cadwai'r Pentreflys lygad barcud ar weinyddiaeth stondinau'r farchnad ac ar yr holl bwysau, mesurau a thollau. Cedwid hawliau'r bwrdeisiaid dros y comin a'r gors yn ddiogel â chenfigen hefyd. Mae'r cofnodion yn llawn rhybuddion i rai diawdurdod a adawai i'w hanifeiliaid bori ar y comin neu a dorrai tyweirch oddi arno. Yr oedd y comin yn cynnwys y Maesglas, lle mae'r Stryd Uchel, Garth y Mor, Ffordd Penmaesglas a Stryd y Tollty yn awr, yn ogystal ag ardaloedd eraill islaw mur y dref. Yr oedd y gors yn ymestyn dros ardaloedd isel lle mae Coedlan y Parc, Ffordd Alexandra, Rhodfa'r Gogledd a Morfa Mawr yn awr.
Eiddo ar Brydles
Un o asedion mwyaf gwerthfawr y dref, hyd at y cyfnod diweddar, oedd Ystad y Gorfforaeth, y tir oedd yn perthyn i'r dref ac ar brydles i deiliaid tai ac eraill. Yn ystod mwy na 160 o flynyddoedd, byddai'r gorfforaeth yn derbyn enillion da o'r rhenti tir a diau yr oedd hyn wedi cyfrannu at gadw'r trethi lleol yn is. Yn y blynyddoedd 1960, bu ymgais yng Nghyngor y Fwrdeistref i werthu'r rhydd-ddaliadau, ond yn sgîl trafodaeth hir gwrthodwyd y syniad. Er hynny, rhoddodd y Ddeddf Diwygio'r Drefn Brydlesol o 1967 i ran fwyaf y deiliaid tai yr hawl i brynu'r rhydd-ddaliadau. Cannoedd o deiliaid tai a wnaeth hyn. Buddsoddwyd yr arian o'r gwerthiant a darparai'r llog, ynghyd â'r rhenti tir, enillion cyson, a ddaeth yn £35,000 yn flwyddyn olaf Cyngor y Fwrdeistref, 1974.
Gan hynny, mae dyled anferth ar Aberystwyth i'r Pentreflys, a brydlesai rhan fawr o'r hen gomin rhwng 1813 a 1834 ac a adawai i'r dref ehangu yn fawr. Bu prydlesi tir am dai yn para am 99 o flynyddoedd a phrydlesi tir am 40 mlynedd. I ddechrau, rhoddwyd y prydlesi pan dalwyd "dirwyon" ac yr oedd y rhent tir wedi ei osod yn isel iawn mewn gwirionedd. Ond fel y darganfu'r Comisiynwyr ym 1833, enillodd rhai o'r prif fwrdeisiaid gryn elw o ganlyniad i'r polisi hwn. Cyn 1808, yr oedd y comin yn dir heb ei amgáu â chan y brwdeisiaid hawliau arbennig drosto. Honnwyd yr hawliau hyn hefyd gan y trigolion, perchnogion tai a deiliaid tir yn y fwrdeistref hefyd. Taerai'r gorfforaeth â'r rhain am eu hawliadau, ac wedi cyfreithiad a gostiodd £3,729 i'r dref, sefydlwyd hawl y gorfforaeth ar feddiant neilltuedig ar y tiroedd. I godi'r arian hyn, penderfynodd y Pentreflys osod y tir ar brydlesi hir wrth dderbyn taliadau o "ddirwyon". Gosodwyd y dirwyon a'r rhenti gan yr ychydig ddynion pennaf a chlerc y dref. Cafodd Job Sheldon ddwy lain werthfawr, un islaw Dan Dre oedd yn cynnwys yr ardal lle mae Iard y Gorfforaeth yn awr. Meddai'r Comisiynwyr ym 1833, "Ni chyfarwyddwyd y trafodion yn y cyfryw fodd a allai fod heb yr amheuon lleiaf. Yn rhan amlaf yr achosion, ni wnaethpwyd unrhyw brisiad, ac ni wahoddwyd unrhyw gystadleuaeth." Derbyniodd clerc y dref a Sheldon yr arian o'r dirwyon ac fe'i defyddiasant i dalu gweddill dyledion oedd ar y gorfforaeth iddynt.
Mur y Dref
Yn y 18fed ganrif, yr oedd yn chwith gan y Pentreflys bod muriau'r dref, y castell a phyrth y dref yn aml fynd yn adfail. Gwaethant ymdrechion i rwystro pobl rhag cymryd meini ohonynt i godi eu tai eu hunain. Mae llawer achos pan dynnodd y rheithgor sylw at "poendodau cyhoeddus" mewn cysylltiad â'r muriau, a ddiflannodd o'r diwedd ar ddechrau'r blynyddoedd 1800. Yr oedd cyflwr budr y strydoedd yn aml beri achos i gwynion, a llawer gwaith y cafodd perchnogion tai eu cyhuddo, neu hyd yn oed eu dirwyo, am adael tomenni tail neu ysbwriel yn y stryd. Cyn i ymddiriedolwyr gymryd gofal dros y Porthladd ym 1780, ambell waith y cwynodd y Pentreflys am boendodau megis cyrff llongau wedi eu gadael i bydru. Mae'n ddiddorol nodi bod parcio yn broblem hyd yn oed yn y 13eg ganrif - pan oedd y broblem yn gysylltiedig â cheffylau wedi eu gadael yn y stryd fawr ac yn atal certi rhag mynd heibio. Yr oedd heolydd ag angen eu trwsio ar brydiau a gorchmynnodd y Pentreflys i'r trigolion eu hatgyweirio.
Cosbau
Yr oedd gan y Pentreflys awdurdodaeth dros rai mân droseddau, ond at ei gilydd câi'r gyfraith ei gweinyddu gan ynadon trwy Lysoedd Chwarter Sir Aberteifi. Dywedwyd lawer gwaith wrth y Pentreflys bod cyffion y dref ag angen eu hatgyweirio. Weithiau dynodid benywod trafferthus yn wragedd tafotrwg difoes gan y Pentreflys, a mwy nag unwaith mynnodd y rheithgor gael darparu stôl drochi - ond ni ddigwyddodd erioed. Bu raid i'r Pentreflys ddod â chrwydriaid a chardotwyr o'u blaen a dywedid wrth y cwnstabliaid a benodwyd gan y Pentreflys am roi rhybudd llym iddynt. Ym 1833 yr oedd nifer y cwnstabliaid yn chwech, ond dywedid mai aneffeithiol iawn oeddynt. Digyflog oedd y rhan fwyaf, gan fod hyn ychydig flynyddoedd cyn i gorff o Heddlu Bwrdeistrefol gael ei sefydlu.
Gydag y daeth Deddf y Corfforaethau Trefol i rym, daeth y Pentreflys i ben ar ddiwedd 1835.