Aberystwyth Council

Rhyddfreinwyr Anrhydeddus

Penodwyd rhyddfreinwyr anrhydeddus o 1912 o dan Deddf Rhyddfraint Anrhydeddus Bwrdeistrefi 1885 ond wedi hynny o dan Deddfau Llywodraeth Leol 1933, 1972 fel y diwygiwyd.

1912 Syr John Williams, 1af Barwnig, o Ddinas Llundain, Llywydd Cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol, Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth
1912 Yr Arglwydd David Davies, 1af Barwn Davies, cyn-A.S., gwleidydd a chymwynaswr cyhoeddus
1912 Yr Arglwydd Stuart Rendel, 1af Barwn Rendel, cyn-A.S., gwleidydd a chymwynaswr cyhoeddus, Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth
1922 David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain Fawr ac Iwerddon
1923 Is-Gyrnol. Lewis Pugh Evans, Croes Fictoria (4 Hydref 1917 ger Zonnebeke, Gwlad Belg)
1923 Matthew Vaughan-Davies, Arglwydd Ystwyth (1af Barwn Ystwyth), cyn-A.S. dros Sir Aberteifi
1923 Syr Herbert Lewis, cyn-A.S. dros Brifysgol Cymru ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1928 Stanley Baldwin, Prif Weinidog Prydain Fawr ac Iwerddon
1936 Syr David Charles Roberts, Uwch Siryf Sir Aberteifi
1936 Yr Arglwydd Ernest Edmund Henry Malet Vaughan, 7af Iarll Lisburne, Uwch Siryf Sir Aberteifi, Arglwydd Raglaw Sir Aberteifi
1951 Syr Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (llun gyda'r wobr)
1955 Catrawd y Gwarchodlu Cymreig
1965 Syr David James, Pantyfedwen, dyngarwr a chymwynaswr
2011 Herr Fritz Pratschke, Krönberg, am gyfrannu dros 40 mlynedd i waith gefeillio
2015 Monsieur Jean Guezennec, St Brieuc, am gyfrannu dros 40 mlynedd i waith gefeillio

Awgwymwyd enwau eraill fel rhyddfreinwyr dichonol, yn enwedig Bing Crosby a Bob Hope ym 1952. Ym 1969, gwrthododd Tywysog Cymru pan gynigiodd y Cyngor Ryddfraint y Fwrdeistref iddo am ei fod yma fel myfyriwr a dymunai gael ei drin felly: ni fyddai'r Cyngor fel arfer yn rhoi'r Rhyddfraint i fyfyriwr.