Dan y Siartrau
Mae hanes Bwrdeistref Aberystwyth yn dechrau â rhoddiad Siartr gan y Brenin Edward I ar Ragfyr 28ain, 1277, a gyhoeddodd fod y dref yn fwrdeistref rydd.
Nid dyna, afraid dweud, oedd dechrau hanes ein hardal. Erbyn 1277 yr oedd ganddi eisioes hanes hir a diddorol trwy gryn filoedd o flynyddoedd o'r blaen.
Credir bod y gwladychwyr cyntaf yn helwyr cyntefig a chasglwyr fu byw ar lan y mor ym Mhen-yr-Angor, efallai tua 7,000 neu 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Defnyddient y cerrig crynion o fflint ar y traeth a gwnaethant ohonynt gyllyll bychain, ysgrafelli ac offer turio, sef y prif offer oedd ganddynt.
Ni wyddom ond ychydig iawn o'r oesoedd cynnar pell hyn, a rhaid inni neidio filoedd o flynyddoedd ymlaen i'r aneddfa nesaf y gwyddom rywbeth amdani. Ar Bendinas bu hon, lle adeiladodd ffoaduriaid o wledydd Ewrop bentref mewn bryngaer gadarn tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu dwy ran iddo, cytiau amrwd yn yr uchaf, a'r isaf ar gyfer ych, defaid a geifr. Yr adeg hon, yr oedd y dyffryn islaw yn gorslyd neu goediog, lle crwydrai anifeiliad gwylltion lawer.
Mae'r aneddfa bwysig nesaf yn gysylltiedig â Phadarn Sant, a sefydlodd eglwys neu fynachty Llanbadarn Fawr tua 1,400 o flynyddoedd yn ôl. Arhosodd fel man canol crefyddol nodedig am flynyddoedd.
Mae cryn dipyn o'r hyn a wyddom am y cyfnod pwysig nesaf, y Goresgyniad Normanaidd, wedi ein cyrraedd trwy'r croniclau a ysgrifennwyd gan fynaich Llanbadarn Fawr ac Ystrad Fflur. Heidiodd y Normaniaid dros Geredigion am y tro cyntaf yn 1073, ond bu aml atalfa i'w hymdrechion i ddal yr ardal a degawdau o ryfel o'i herwydd. I gadarnhau eu gafael yng ngogledd y sir, codasant gastell dros dro o bridd a phren yn Nhan-y-bwlch tua'r flwyddyn 1110. Yr adeg hon, llifai afon Ystwyth i'r môr ger Plas Tan-y-bwlch, ac enw cywir y castell hwn oedd Castell Aberystwyth gan hynny. Cafodd y castell ei ddinistrio a'i ailgodi sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd cythryblus dilynol.
Pan wnaeth y Brenin Edward I ymgais penderfynol i ddarostwng Cymru yn ystod ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, cyfeiriodd dri gwthiad o'i fyddinoedd at gadarnle brodorol Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru: un ar hyd glan môr Gogledd Cymru, un trwy Ganolbarth Cymru, a thrydydd ar hyd glan môr y gorllewin. Pan archwiliodd y Saeson fanteision milwrol ardal Aberystwyth, megis gorsaf i fyddin glan môr y gorllewin, ni fu'n dda ganddynt safle castell Tan-y-bwlch, ac yn hytrach detholasant fryncyn bach ger aber Rheidol, a chodasant y castell maen enfawr arno a welwn yno hyd heddiw. Ymwelodd y Brenin Edward I â'r castell tra câi ei godi ym 1277, a gorchmynnodd, yn ôl arfer y Normaniaid, fod tref gaerog fach i'w chodi tan ei gysgod. Dyma fu dechrau Aberystwyth. Yn y cychwyn, enw'r dref fach oedd Llanbadarn Gaerog, ac i'r dref o'r enw hwn y rhoddwyd y brenin siartr, ar Ragfyr 28ain, 1277, a gyhoeddodd mai bwrdeistref rydd ydoedd. Yn un ffordd neu'r llall, glynwyd enw'r hen gastell yn Nhan-y-bwlch wrth y castell newydd, a chydag amser trosglwyddwyd yr enw i'r dref gaerog fach hefyd. Gan hynny, erbyn Oes y Tuduriaid, clywn am dref Aberystwyth ac am Gastell Aberystwyth, er dylai fod Aber Rheidol, wrth gwrs, gan mai wrth aber Rheidol y mae hi. Adroddwyd hanes adeiladu'r castell Normanaidd, ei gynllun a'i hanes dilynol mewn llyfryn a gyhoeddwyd yn 1973 o'r teitl The Castle and Borough of Aberystwyth gan C. J. Spurgeon.
Y Siartr Gyntaf
Cyhoeddodd y siartr gyntaf, a ysgrifennwyd mewn Lladin, y dylai fod gan y dref nid yn unig furiau a ffosydd, ond hefyd urdd masnachol, marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol, ac y dylai fwynhau rhyddfreiniau bwrdeistref Trefaldwyn.
Rhedai'r mur o'r castell o amgylch gwaelod bryn y dref ac yn ôl i'r castell, yn dilyn cwrs cyfredol Tan-y-Cae, Stryd y Felin, Stryd y Ffynnon Haearn, Stryd y Popty, Maes Alfred, Tai Crynfryn a Stryd y Brenin, gyda phyrth ar Stryd y Bont, y Stryd Fawr (Stryd y Porth Tywyll) a Stryd y Porth Bach. Rhwng chwech a naw troedfedd o drwch oedd y mur ei hunan. O fewn ei derfyn, ni chaniateid i unrhyw Gymro ddal tir neu randir; ni fu ond milwyr Eingl-Normanaidd, masnachwyr a'u teuluoedd yn byw y tu mewn. Serch hynny, daeth Cymry yn eu pryd i gartrefu yn y fwrdeistref - efallai bod hyn yn fwy tebyg yn Aberystwyth nag mewn mannau eraill. Erbyn y blynyddoedd 1300 cynnar, Cymry oedd yn meddu ar 43 y cant o'r daliadau yn Aberystwyth ac fe'u hystyrid fel bwrdeisiaid yn yr un modd â'r gwladychwyr o Loegr.
Marchnad Dydd Llun
I ddychwelyd at siartr 1277, meddai'r urdd masnachol a seflydwyd ganddi, ymlith rhyddfreiniau eraill, ar hawliau masnachol neilltuedig ymhlith Cymry gwledig yr ardal - cyhyd at Aeron yn y de ac at Ddyfi yn y gogledd. Daeth hyn â newid sydyn ym bywyd economaidd y Cymry. Sefydlwyd y farchnad wythnosol ar gychwyn cyntaf y fwrdeistref ac mae'n parhau hyd heddiw. Yn naturiol, yr oedd gan gwnstabl y castell y dewis cyntaf o'r nwyddau gwerthadwy y daethpwyd â hwy i'r farchnad. Anfonid ymenyn, wyau, cig eidion ac ieir i'r castell bob dydd Llun am bris isel gosod.
Sefydlodd Edward I ddwy ffair flynyddol hefyd yn Aberystwyth, un a barodd am bedwar diwrnod dros y Sulgwyn, a'r llall am wyth niwrnod dros Ŵyl Fihangel. Mae ffair mis Tachwedd sy'n dal ymlaen heddiw yn gyswllt â'r ail.
Er bod mur y dref yn amgáu ardal sylweddol, cymerodd ganrifoedd i'w llenwi â thai. Yn negawd cyntaf y blynyddoedd 1300 yr oedd 112 o fwrdeisiaid, ond ymddengys fod y Pla Du, 40 mlynedd wedyn, wedi haneru eu nifer. Nid unig drigolion y fwrdeistref oedd y bwrdeisiaid. Yr oedd gweision a chaethweision hefyd, a garsiwn y castell. Nid yw'n bosibl amcangyfrif y boblogaeth yn yr adegau hyn. Yr oedd Aberystwyth yn fan canol pysgota pwysig a rhaid bod nifer o fythynnod pysgotwyr yn yr ardal.
Yn y cyfnod yr oedd gan y castell ei bwysigrywdd milwrol a gweinyddol, ni allwn siarad am Aberystwyth fel bwrdeistref hunanlywodraethol. Rhoddai'r castell annedd i'r amryw lysoedd y câi'r gyfraith a'r llywodraeth eu gweinyddu ynddynt gan swyddogion brenhinol. Serch hynny, yr oedd hawliau'r bwrdeisiaid yn bwysig. Ar wahân i ryddfreiniau masnachol, fe'u hamddiffynnent rhag eu harestio ar gyfer dyledion dan rai amgylchiadau a rhag eu barnu'n euog mewn achosion eraill.
Gwerthfawrogai'r bwrdeisiaid eu siartr uwchlaw popeth arall, a'u harfer fyddai gofyn i frenhinoedd newydd i'w chadarnhau, er nad oedd hyn yn wir angenreidiol. Cafodd siartr Aberystwyth ei chadarnhau neu ei lledu gan Edward III, Rhisiart II, Harri V, Harri VI, Edward IV a Harri VIII. Gwaharddodd siartr Rhisiart II o 1380 unrhyw ran i'r Cymry (o ran egwyddor, beth bynnag) mewn awdurdodaeth ddinesig, hawliau dros borfeydd cyffredin, hawliau pren a hawliau tyweirch.
Bu effeithiau pwysig ar Aberystwyth o'r Ddeddf Uno o 1536 ac o ddeddfwriaeth ddilynol. Am y tro cyntaf, penodwyd Ynadon Heddwch yng Nghymru, ac yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn foneddigion Cymreig. Am y tro cyntaf hefyd, rhoddwyd yr hawl i Gymru i anfon cynrychiolwyr i'r Senedd. Yr oedd dau Aelod Seneddol i Geredigion, un dros y sir, ac un dros y bwrdeistrefi. Aeth enwau'r dau A.S. cyntaf ar goll, ac mae'r cofnod cyntaf sy gennym o A.S. dros sedd Bwrdeistrefi Aberteifi yn rhoi enw Jenkyn ap Rhees, a etholwyd ym 1542. Yn y cychwyn, ni fu ond gan fwrdeisiaid tref Aberteifi yr hawl i bleidleisio, tra bu raid i Aberystwyth a'r bwrdeistrefi eraill gyfrannu taliadau at gyflogau'r aelodau seneddol. Wedyn caniateid i'r bwrdeistrefi i gyd gymryd rhan a phleidleisio. Cyfunwyd sedd Bwrdeistrefi Aberteifi â sedd y sir ym 1885.
Ar ôl 1536 cafodd y castell ei amddifadu, fel cestyll Cymreig eraill, o ran fwyaf ei bwysigrwydd gweinyddol ac yn gyflym daeth ei breswylio i ben. Yr oedd preswylwyr eto yn y Rhyfel Cartref ond, wedi iddo sefyll dros y brenin, fe'i dinistriwyd gan luoedd Cromwellaidd. Mewn gwirionedd, ni chollwyd y castell ond dwywaith gan y Goron, am y tro cyntaf yng ngwrthryfel y Cymry ym 1282-3 ac eto pan y'i daliwyd gan Owain Glyndŵr ym 1404-8.