Mae hanes yr awrdurdod lleol yn Aberystwyth yn estyn yn ôl at roddiad Siartr y Fwrdeistref ym 1277. Ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Aberystwyth ym 1835, ond fe'i hailenwyd fel Cyngor Tref Aberystwyth yn sgîl ad-drefniant llywodraeth leol ym 1974, pan drosglwyddwyd ei asedion a rhan fawr o'i awdurdod i Gyngor Sir Dyfed ac i Gyngor Dosbarth Ceredigion. (Ym 1996, pan ddiddymwyd Dyfed, meddiannodd y cyngor dosbarth ei awdurdod ac fe'i hailgyfansoddwyd fel Cyngor Sir Ceredigion.) Heddiw, mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cadw ystod eang o gyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal, ac mae e'n dal Siartr y Fwrdeistref mewn ymddiriedolaeth dros y dref.
Cymerwyd y benodau Dan y Siartrau, Y Pentreflys, Gwelliannau Cynnar a Hanes Diweddar 1872-1974 (gyda chaniatâd) o'r llyfr Aberystwyth Borough 1277 — 1974. Ysgrifennwyd y testun gwreiddiol gan Howard C. Jones ac fe'i cyhoeddwyd gan y Cambrian News (Aberystwyth) Cyfyngedig. Cyfaddaswyd y testun i'w ddiweddaru. Daliwr cyfrefol yr hawlfraint yw Cambrian Printers Cyfyngedig.