Gwasanaeth Rhwydwaith Di-Wifr
Mae Cyngor Aberystwyth yn gweithredu rhwydwaith di-wifr (eduroam™) yn ei holl adeiladau gweinyddol a chanolfannau gwasanaeth: Swyddfeydd y Cyngor, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth, SY23 1BJ.
Mae'r holl ddefnydd a wneir o'r rhwydwaith yn cael ei reoli gan Reoliadau Gwasanaethau Technegol Cyngor Aberystwyth a Pholisi Defnydd Derbyniol JANET (Saesneg).
Dylai defnyddwyr y gwasanaeth rhwydwaith di-wifr hefyd gyfeirio at Bolisi Cyfathrebu Di-Wifr y Gwasanaethau Technegol a pholisi eduroam™ (Saesneg).
Mae mynediad ar gael i:
- Maer a Chynghorwyr Cyngor Aberystwyth
- Staff Cyngor Aberystwyth
- Aelodau pwyllgorau penodedig Cyngor Aberystwyth
- Ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol â chanddynt manylion mynediad eduroam™ (prifysgolion, addysg a gwasanaethau cyhoeddus)