Aberystwyth Council

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau (hybrid)

Minutes of the Finance and Establishments Committee (hybrid)

 

  1. 7.2023

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Sienna Lewis (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Brian Davies

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

 

Yn mynychu

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Present

 

Cllr. Sienna Lewis (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Brian Davies

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

In attendance

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Matthew Norman

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Mark Strong

Cyng. Alun Williams

 

Apologies

 

Cllr. Matthew Norman

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Mark Strong

Cllr. Alun Williams

 

 

3

Datgan buddiannau:

 

5. Y Cyng Brian Davies ynghylch y cyfrifon rhandiroedd

 

Declarations of interest:  

 

  1. Cllr Brian Davies regarding the allotment accounts

 

 

4

Cyfeiriadau Personol:

 

Graddio: llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i holl raddedigion Aberystwyth

Personal references:

 

Graduation: congratulations and best wishes were extended to all Aberystwyth graduates

 

 

 

5

 

Cyfrifon Mis Mehefin

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo cyfrifon Mis Mehefin.

 

Pwyntiau a godwyd:

  1. Roedd cyllid grant bellach wedi'i dderbyn a fyddai'n ail-gydbwyso'r gyllideb Digwyddiadau
  2. Roedd incwm rhandiroedd yn uchel. Byddai'r rheswm yn cael ei ddarparu yn y Cyngor Llawn
  3. Costau ymgynghori: roedd y symud o Peninsula i Work Nest yn ddrytach ond yn rhedeg o fis Mehefin i fis Mehefin.
  4. Dathliadau a derbyniadau: Roedd dathliadau Sefydlu'r Maer wedi costio mwy ac roedd mwy o weithgarwch

June accounts

 

It was RECOMMENDED that the June accounts be approved.

 

Points raised:

  1. Grant funding had now been received which would rebalance the Events budget
  2. Allotments income was high. The reason would be provided at Full Council
  3. Consultancy charges: the move from Peninsula to Work Nest was more expensive but ran from June to June.
  4. Celebrations and receptions: Mayor Making had cost more and there had been increased activity.

 

 

 

6

Taliadau cynghorwyr 2023-24

Dosbarthwyd adroddiad talu drafft. Roedd y taliadau yn cynnwys:

  • £1500 i'r Maer
  • £500 i'r Dirprwy Faer
  • £500 yr un i Gadeiryddion Pwyllgorau Cynllunio, Cyllid a Staffio
  • £156 i bob cynghorydd oni bai ei fod yn cael ei wrthod yn ysgrifenedig.

Amlygodd y Clerc yr anhawster o gael gwybodaeth gan gynghorwyr o dan amgylchiadau megis salwch tymor hir. Os na ddarperir manylion personol ni ellir prosesu'r taliad drwy'r gyflogres.

Byddai cyngor yn cael ei geisio gan Un Llais Cymru.

Councillor Allowances 2023-24

A draft payment schedule was circulated. Expenditure included:

  • £1500 for the Mayor
  • £500 for the Deputy Mayor
  • £500 each for the Planning, Finance and Staffing Committee Chairs
  • £156 for all councillors unless refused in writing.

The Clerk highlighted the difficulty of getting information from councillors under circumstances such as long term ill health. If personal details are not provided the payment cannot be processed through payroll.

Advice would be sought from One Voice Wales.

Cysylltu gydag ULlC

Contact OVW

7

Murlun – cais am arian

Roedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad blaenorol (18.10.2021/25.10.2021) i gefnogi murlun gwerth hyd at £1000 gyda’r amodau canlynol:

  • Y comisiynir artist / artistiaid lleol
  • rhoir blaenoriaeth i'r Gymraeg mewn unrhyw ysgrifen
  • y bydd y Cyngor Tref yn cael cyfle i gymeradwyo briff dylunio cyn talu arian
  • fod y dyluniadau'n adlewyrchu diwylliant, tirwedd, gwerthoedd a threftadaeth leol.

ARGYMHELLWYD rhoi cymorth ariannol i'r murlun ar gyfer Stryd y Farchnad ond hefyd cysylltu ag Ymddiriedolaeth Pantyfedwen am gefnogaeth.

Mural – funding application

Council had made a prior resolution (18.10.2021/25.10.2021) to support a mural up to the value of £1000 with the following provisos:

  • local artist/s be commissioned
  • the Welsh language be given priority in any text
  • the town council gets the opportunity to approve a design brief before money is paid
  • designs reflect local culture, landscape, values and heritage

It was RECOMMENDED that the mural for Market Street was given funding support but that Pantyfedwen Trust also be contacted for support.

 

8

Costau dathlu canmlwyddiant y gofeb rhyfel

ARGYMHELLWYD dyrannu hyd at £800 i dalu costau hanfodol y dathlu a'r arddangosfa

War Memorial centenary costs

It was RECOMMENDED that up to £800 be allocated to cover the essential costs of the celebration and exhibition

 

9

Ffensio’r meysydd chwarae – Penparcau a Plascrug

ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r gwariant o £20,425 ar gyfer ffensio.

Playground fencing – Penparcau and Plascrug

It was RECOMMENDED that the expenditure of £20,425 for fencing be approved.

 

10

Atgyweiriadau ‘wetpour’ – maes chwarae'r Castell

ARGYMHELLWYD cymeradwyo'r gwariant o £8,029 ar gyfer atgyweirio a gwella’r ‘wetpour’

Wetpour repairs – Castle playground

It was RECOMMENDED that the expenditure of £8,029 for wetpour repairs and improvements be approved.

 

11

TCC ar gyfer parciau a meysydd chwarae

Codwyd nifer o gwestiynau a byddai'r rhain yn cael eu hanfon at y Clerc cyn trafodaeth yn y Cyngor Llawn

CCTV for parks and playgrounds

Various questions were raised and these would be sent to the Clerk prior to discussion at Full Council

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

12

Neuadd Gwenfrewi – gwaith angenrheidiol

Roedd gwaith ymchwiliol yn cael ei wneud ar hyn o bryd i'r sylfeini lle'r oedd arwyddion o ansefydlogrwydd.

Neuadd Gwenfrewi – essential works

Investigative work was currently taking place into the foundations where there were signs of instability.

 

13

Gohebiaeth

 

Correspondence

 

13.1

Cais am arian ar gyfer ymweliadau gan ysgolion Yosano ac Aberystwyth: i'w drafod yn y Cyngor Llawn

Request for funding for Yosano and Aberystwyth school exchanges: to be discussed at Full Council

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council agenda

 

13.2

Arwydd ‘Southgate’: cytunwyd na ddylai fod cysylltnodau yn y Gymraeg: Porth y De / PORTH Y DE

Southgate sign: it was agreed that there should be no hyphens in the Welsh: Porth y De / PORTH Y DE