Aberystwyth Council

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)

General Management Committee (hybrid)

 

  1. 4.2023

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1

Presennol

 

Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd)

  1. Talat Chaudhri
  2. Jeff Smith

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Matthew Norman

 

Yn mynychu:

Cyng. Alun Williams

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)

Present

 

Cllr. Kerry Ferguson (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

  1. Jeff Smith

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Matthew Norman

 

In attendance:

Cllr. Alun Williams

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Steve Williams (Facilities and Assets Manager)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)

 

 

2

Ymddiheuriadau

 

Cyng. Connor Edwards

Cyng. Brian Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Sienna Lewis

 

Apologies

 

Cllr. Connor Edwards

Cllr. Brian Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Sienna Lewis

 

 

3

Datgan Diddordeb:

 

Dim

Declaration of Interest:

 

None

 

 

4

Cyfeiriadau personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 

5

Bandstand – rhaglen haf

 

Ni fyddai Cyngor Ceredigion yn cynnig cyfradd gostyngol hanner pris am logi’r Bandstand ac roedd y gost fesul sesiwn hefyd wedi cynyddu. Y gost y llynedd oedd £57 y sesiwn ond eleni fyddai’n £122 y sesiwn gyda chyfanswm o £3172 am 26 sesiwn gyda'r nos.

 

Roedd cynghorwyr yn bryderus ynghylch effaith hyn ar y lefelau a'r math o weithgaredd yn y Bandstand ac eisiau gwybod pwy oedd wedi gwneud y penderfyniad.

ARGYMHELLWYD:

 

  • Cysylltu â'r Aelod Cabinet.
  • Ymchwilio i leoliadau eraill. Dylid hysbysu Cyngor Ceredigion.

 

Bandstand – summer programme

 

Ceredigion Council would not be offering a discounted half price rate for hire of the Bandstand and the cost per session had also increased. The cost last year was £57 per session but this year would be £122 per session at a total cost of £3172 for 26 evening sessions.

 

Councillors were concerned about the impact of this on the levels and type of activity in the Bandstand and wanted to know who had made the decision.

 

 

It was RECOMMENDED that:

 

  • The Cabinet Member be contacted.
  • Other venues be investigated. Ceredigion Council to be informed.

 

Cysylltu

Contact

6

Coed – Stryd Portland

 

Roedd gan Grŵp Aberystwyth Gwyrddach bryderon ynghylch iechyd y coed yn Stryd Portland ac ynghylch rhai bylchau. ARGYMHELLWYD cysylltu â Chyngor Ceredigion i weld a oedd unrhyw waith wedi'i gynllunio neu'n bosibl.

Trees – Portland Street

 

The Greener Aberystwyth Group had concerns regarding the health of the trees in Portland Street and regarding some gaps. It was RECOMMENDED that Ceredigion Council be contacted to see if any works were planned or possible.

 

Cysylltu

Contact

7

Ymgynghoriad: Hywel Dda – Safle Ysbyty Newydd. Dyddiad cau 19 Mai 2023

 

Roedd cynghorwyr o’r farn unfrydol y dylid canolbwyntio ar uwchraddio Glangwili a Llwynhelyg oherwydd:

  • Hygyrchedd: o ran pellter a natur y rhwydwaith ffyrdd ee yn ddiweddar nid oedd cynghorydd wedi gallu teithio y tu hwnt i Dde Ceredigion oherwydd llifogydd ond eto byddai'r lleoliadau a gynigir yn annog pobl i ddefnyddio ceir. Mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn nalgylch Bronglais yn ymweld â Glangwili i gael gwasanaethau arbenigol. Byddai'r lleoliadau arfaethedig yn ei gwneud hi'n fwy anodd fyth i gleifion o lefydd fel Tywyn a Llanidloes.
  • Colli gwasanaethau: Bydd gwasanaethau yn cael eu symud i lawr i'r ysbytai newydd yn ddirybudd – mae llawer o gleifion yn cael eu hanfon i Ysbyty Glangwili ar hyn o bryd.
  • Cydraddoldeb: cost cludiant ac argaeledd. Mae cysylltiadau bws da gyda Chaerfyrddin ond nid i leoliadau newydd yr ysbytai. Mae yna lawer na allant deithio pellteroedd hir yn gorfforol ac mae gwasanaethau ambiwlans eisoes dan bwysau
  • Staffio: atyniad ysbyty newydd sbon ar gyfer staff a'r effaith ar lefelau staffio yn yr ysbytai eraill
  • Y goblygiadau ariannol: mae'n wastraff arian

 

Mae prynhawn agored (2pm-7pm) yn cael ei gynnal yn y Morlan ar 21 Ebrill

Consultation: Hywel Dda – New Hospital Site. Deadline 19 May 2023. 

 

Councillors were of the unanimous view that the focus should be on upgrading Glangwili and Withybush because of:

  • Accessibility: in terms of both distance and the nature of the road network eg a councillor had recently been unable to travel beyond South Ceredigion due to flooding yet the locations proposed would encourage people to use cars. Many service users in the Bronglais catchment area visit Glangwili for specialist services. The proposed locations would make it even more difficult for patients from places such as Tywyn and Llanidloes.
  • Loss of services: Services will be moved down to the new hospitals without warning – many patients are sent to Glangwili currently.
  • Equalities: the cost of transport and availability. There are good bus links with Carmarthen but not to the new hospital locations. There are many who physically cannot travel long distances and ambulance services are already stretched
  • Staffing: the attraction of a brand new hospital for staff and the impact on staffing levels at the other hospitals
  • The financial implications: it represents a waste of money

 

An open afternoon (2pm-7pm) is being held at the Morlan on 21 April

 

Ymateb

Respond

8

Gohebiaeth

 

Dim

Correspondence

 

None