Aberystwyth Council

 

Cyngor Tref     ABERYSTWYTH   Town Council

 

 

Cofnodion Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (o bell)

Minutes of the Meeting of Full Council (remote)

 

13.9.2021

 

 

COFNODION – MINUTES

 

65

Yn bresennol:

 

Cyng. Alun Williams (Cadeirydd)

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Mari Turner

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Alexandra Banfi (Cambrian News)

 

Present:

 

Cllr. Alun Williams (Chair)

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Mari Turner

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Alexandra Banfi (Cambrian News)

 

 

66

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Steve Davies

Cyng. Danny Ardeshir

Cyng. Mark Strong

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Claudine Young

 

Apologies:

 

Cllr. Steve Davies

Cllr. Danny Ardeshir

Cllr. Mark Strong

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Claudine Young

 

 

 

67

Datgan diddordeb:

 

81.1: Y Cynghorwyr Endaf Edwards a Jeff Smith

 

Declaration of interest:

 

81.1: Cllrs Endaf Edwards and Jeff Smith

 

 

 

68

Cyfeiriadau personol:

 

Darparodd y Maer adroddiad gweithgaredd byr.

 

Personal references:

 

The Mayor provided a brief activity report.

 

 

69

Atgoffwyd cynghorwyr o bolisi'r Cyngor na ddylai cynghorwyr unigol siarad am fwy na 2 funud mewn eitem drafod.

Councillors were reminded of the Council’s policy that individual councillors should not speak for longer than 2 minutes within a discussion item.

 

 

70

Cofnodion o Gyfarfod  y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 19 Gorffennaf 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag ychwanegu teitl yr Athro Mererid Hopwood (46).

 

Minutes of the Meeting of Full Council held Monday 19 July 2021 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with the addition of Prof. Mererid Hopwood’s title (46).

 

 

71

Materion yn codi o’r cofnodion

Dim

Matters arising from the minutes

None

 

72

Cofnodion o Gyfarfod  y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 6 Medi 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda dau newid:

  1. Nid oedd y Cyng. Sue Jones-Davies yn bresennol

4: ‘TJ Davies’ i’w newid i ‘John ​​Davies’.

Minutes of the Planning Committee meeting held Monday 6 September 2021 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with two corrections:

 

1: Cllr Sue Jones-Davies was not present

4: ‘TJ Davies’ to be replaced by ‘John Davies’.

 

 

73

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Dim

 

Matters arising from the minutes:

 

None

 

74

Cofnodion o Gyfarfod  y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 26 Gorffennaf 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag un newid:

 

  1. dylid defnyddio ‘chair’ yn y Saesneg yn hytrach na ‘chairman’

 

Minutes of the General Management Committee Meeting held Monday 26 July 2021 to confirm accuracy

It was RESOLVED to approve the minutes with one amendment:

 

  1. 5. ‘chair’ to be used as opposed to ‘chairman’

 

 

75

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes:

 

None

 

 

76

Cofnodion o Gyfarfod  y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 6 Medi 2021 i gadarnhau cywirdeb

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion gyda'r diwygiadau canlynol:

1: Nid oedd y Cyng Charlie Kingsbury yn bresennol

4: ‘TJ Davies’ i’w newid i ‘John ​​Davies’.

  1. 1: roedd angen mwy o fanylion: roedd bolardiau mewn rhai strydoedd yn gwneud i'r dref edrych yn flêr

Minutes of the General Management Committee Meeting held Monday 6 September 2021 to confirm accuracy

It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendments:

 

1: Cllr Charlie Kingsbury was not present

4: ‘TJ Davies’ to be replaced by ‘John Davies’.

  1. 1: more detail was needed: bollards in some streets were making the town look untidy

 

 

77

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes:

 

None

 

 

78

Ystyried gwariant Mis Awst

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

 

Byddai'r Clerc yn ymchwilio i'r defnydd o'r pwynt trydan yn Sgwâr Glyndwr a rhoddwyd pwerau dirprwyedig iddi ofyn am gael ei symud os nad oedd ei angen. Nid oedd darlleniad y mesurydd wedi datgelu unrhyw ddefnydd hyd yn hyn.

 

Consider August expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

The Clerk would investigate the use of the electric point in Glyndwr Square and was given delegated powers to request removal if not needed. The meter reading had revealed no usage to date.

 

Ymchwilio

Investigate

 

 

79

Ystyried cyfrifon Gorffennaf

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

Y Clerc i ymchwilio i ddefnydd yr heddlu o’r swyddfa yn y Neuadd Goffa. Nodwyd bod y cyhoedd yn cefnogi presenoldeb heddlu ym Mhenparcau.

 

Gefeillio St Brieuc i'w ychwanegu fel eitem agenda’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Roedd preswylydd wedi mynegi diddordeb.

Consider July accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

The Clerk to investigate police use of the Neuadd Goffa office. It was noted that there was public support for a police presence in Penparcau.

 

St Brieuc Twinning to be added as a General Management Committee agenda item. A resident had expressed an interest.

 

 

 

Cysylltu gyda’r heddlu

Contact the police

 

 

Eitem agenda RhC

GM agenda item

80

Ceisiadau Cynllunio

 

Dim

Planning applications

 

None

 

 

81

Neuadd Gwenfrewi

 

Neuadd Gwenfrewi

 

 

81.1

Cynnig: rhoi’r arteffactau a’r llyfrau

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig gan y Cyng. Talat Chaudhri a oedd yn gofyn am i'r rhifyn o Eiriadur Saesneg Walker a ddaethpwyd o hyd iddo yn yr eglwys gael ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Fe wnaeth y Cynghorwyr Endaf Edwards a Jeff Smith ddatgan diddordeb.

Motion: Donation of artefacts/books

It was RESOLVED to approve the motion presented by Cllr Talat Chaudhri which requested that the edition of the Walker’s English Dictionary found in the church should be donated to the National Library.

 

Cllrs Endaf Edwards and Jeff Smith declared an interest.

 

81.2

Latest update

 

  • Roedd gwaith clirio wedi digwydd y tu mewn a'r tu allan i'r eglwys a diolchwyd i bawb a gymerodd ran. Nodwyd y dylid cadw cofnod ffotograffig o'r holl weithgaredd.

 

  • Byddai pensaer cadwraeth yn edrych ar y safle yn y dyfodol agos

Adroddiad diweddaraf

 

  • Clearance work had taken place both inside and outside the church and everyone involved were thanked. It was noted that a photographic record should be kept of all activity.

 

  • A conservation architect would be taking a look at the site in the near future

 

 

82

Rhandiroedd

 

  • Roedd cais grant y Cyngor i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Mi fyddai’n darparu sied newydd, gwaith clirio, pwll, a systemau dalgylch dŵr glaw ar gyfer pob rhandir.
  • Roedd ychydig o newid tenantiaethau yn digwydd oherwydd afiechyd yn gysylltiedig ag oedran a rhai materion cydymffurfio â rheolau tenantiaeth a oedd yn golygu rhywfaint o symud yn y rhestr aros.

 

Canmolodd cynghorwyr y rheolaeth dda o’r safle a’r berllan a’r mannau gwyrdd cyfagos

 

Allotments

 

  • The Council’s grant application to Welsh Government had been successful which would provide a new shed, clearance works, a pond, and rainwater catchment systems for each plot.
  • Quite a few tenancy changeovers were taking place due to age related ill health and some tenancy compliance issues which meant some movement in the waiting list.

 

Councillors praised the good management of the site and adjacent orchard and green spaces.

 

 

 

 

 

 

 

 

83

Parc Ffordd y Gogledd: eitem caeedig i ystyried dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith grant

PENDERFYNWYD cynnig y contract i'r cwmni a oedd wedi cyflwyno'r dyfynbris rhataf yn amodol ar gadarnhad o'r manylebau a'r gallu i'w gwblhau o fewn yr amserlen.

North Road Park: Closed item to consider quotes for grant funded works.

 

It was RESOLVED to offer the contract to the company who had presented the cheapest quote subject to confirmation of the specifications and ability to complete within the timescale.

 

Trefnu

organise

84

Staffio: Eitem caeedig i ystyried cyflogi aelod/au staff ychwanegol

Oherwydd baich cynyddol y gwaith PENDERFYNWYD cyflogi Clerc dan hyfforddiant llawn amser a Rheolwr Cyfleusterau a Phrosiectau.

Staffing: Closed item to consider recruitment of additional staff member/s

Due to the increased burden of work, it was RESOLVED to employ a full time Trainee Clerk and a Facilities and Projects Manager.

 

Trefnu

Organise

85

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

85.1

Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Plascrug: PENDERFYNWYD y dylai'r Cynghorydd Alex Mangold barhau fel cynrychiolydd y Cyngor Tref

Plascrug Primary School Governing Body: it was RESOLVED that Cllr Alex Mangold should continue as the Town Council representative

Hysbysu’r Cyngor Sir

Inform the County Council

 

85.2

Gwobrau Aber Gyntaf: I'w gynnal ar 30 Medi yn Neuadd y Celfyddydau. Roedd y Cyngor Tref fel y prif noddwr yn cael cynnig chwe lle a dylid anfon enwau mynychwyr at y Cynghorydd Kerry Ferguson.

Aber First Awards: To be held on 30 September in the Arts Hall. The Town Council as the main sponsor was being offered six places and attendee names should be sent to Cllr Kerry Ferguson

 

Anfon enwau cynghorwyr yn mynychu

Send attendee names

85.3

Llyfrgell Genedlaethol: roedd y Prif Weithredwr a'r Llyfrgellydd, Pedr ap Llwyd wedi ymateb yn gadarnhaol i wahoddiad y Cyngor Tref i edrych ar weithio mewn partneriaeth. Byddai’r Clerc yn anfon dewis o ddyddiadau cyfarfod ato.

National Library: the Chief Executive and Librarian, Pedr ap Llwyd had responded positively to the Town Council’s invitation to explore partnership working. The Clerk would send him a selection of meeting dates.

 

Anfon dyddiadau

Send dates