Argraffu 

 

Cyngor Tref     ABERYSTWYTH   Town Council

 

 

Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (o bell oherwydd Covid19)

Meeting of Full Council (remote due to Covid19)

 

27.7.2020

 

 

COFNODION – MINUTES

 

54

Yn bresennol:

 

Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brendan Somers

Cyng. Mari Turner

Cyng. Steve Davies

Cyng. Rhodri Francis

Cyng. Claudine Young

 

Yn mynychu:

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)

 

Present:

 

Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brendan Somers

Cllr. Mari Turner

Cllr. Steve Davies

Cllr. Rhodri Francis

Cllr. Claudine Young

 

In attendance:

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Meinir Jenkins (Deputy Clerk)

 

 

55

Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Brenda Haines

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Alex Mangold

 

Apologies:

 

Cllr. Brenda Haines

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Alex Mangold

 

 

 

56

Datgan diddordeb:  Dim

 

Declaration of interest:  None

 

 

 

57

Cyfeiriadau personol: Dim

 

Personal references: None

 

 

58

Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 13 Gorffennaf 2020 i gadarnhau cywirdeb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

Minutes of the Meeting of Full Council held Monday 13 July 2020 to confirm accuracy

 

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 

 

59

Materion yn codi o’r cofnodion

 

  1. 40.5: Troseddau cysylltiedig â chyffuriau. Byddai'r Cadeirydd yn cysylltu eto â Chomisiynydd yr Heddlu. Nodwyd bod yr heddlu'n cymryd camau pendant a bod angen dull cymunedol.

 

Roedd arwyddion maes parcio’r rhandiroedd wedi'u harchebu a byddent yn cael eu rhoi i fyny yn fuan.

 

Matters arising from the minutes

 

  1. 40.5: Drug related crime. The Chairman would contact the Police Commissioner again. It was noted that the police were taking assertive action and that a community approach was needed.

 

The allotment car park signage had been ordered and would be put in place shortly.

Gweithredu

Action

60

Ystyried cyfrifon Mis Mehefin

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon

 

Consider June accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts

 

 

61

Ystyried gwariant Gorffennaf

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant

 

Consider July expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure

 

 

 

62

Baner diolch

 

Roedd baner fertigol yn cael ei harchebu'n lleol a byddai cymaint o ieithoedd â phosib yn ymddangos

 

Thank-you banner

 

A vertical banner was being ordered locally and as many languages as possible would be featured.

 

Gweithredu

Action

63

Compostiwr Ridan

 

Darparwyd gwybodaeth o ran maint a gofynion mynediad. PENDERFYNWYD edrych ar faes parcio’r rhandir fel lleoliad posibl. Roedd angen mwy o wybodaeth ynghylch a fyddai'n denu llygod ffyrnig ai peidio, a dylid ei drafod gyda'r Gymdeithas Rhandiroedd.

 

Ridan composter

 

Information was provided in terms of size and access requirements, and it was RESOLVED to explore the allotment car park as a possible location. More information was needed about whether or not it would attract vermin, and it should be discussed with the Allotment Association.

 

Gweithredu

Action

64

Ffens maes parcio’r rhandir

 

Roedd rhoi ffens yr un fath â'r ffens bresennol o werth a oedd angen tri dyfynbris. PENDERFYNWYD darparu'r dyfynbrisiau erbyn cyfarfod mis Medi

Allotment car park fence

 

To match the existing fence would be of a value that required three quotes. It was RESOLVED to provide the quotes by the September meeting

 

Gweithredu

Action

65

Cau meysydd chwarae

 

PENDERFYNWYD gadw'r meysydd chwarae ar gau, gan nad oedd yn ddiogel eu hailagor eto. Byddai'r Cynghorwyr Alun Williams a Charlie Kingsbury yn paratoi datganiad i'r wasg yn amlinellu'r rhesymau ac yn awgrymu dewisiadau amgen.

Playgrounds closure

 

Councillors RESOLVED to keep the playgrounds closed, as it was not yet safe to re-open them. Cllrs Alun Williams and Charlie Kingsbury would prepare a press release outlining the reasons and suggesting alternatives.

 

Gweithredu

Action

66

Parc Ffordd y Gogledd (baw cŵn)

 

Roedd arwyddion ‘Rhaid cadw pob ci ar dennyn’ wedi cael eu archebu ond dylid ymchwilio i bwerau gorfodi hefyd. Roedd angen sgwrs gyda'r heddlu i weld pa gamau y gallent, neu yr oeddent yn barod i'w cymryd, gan fod baeddu cŵn yn broblem ar draws y dref yn gyffredinol.

North Road Park (dog fouling)

 

All dogs must be kept on leads’ signage had been ordered but enforcement powers should also be investigated. A conversation with the police was needed to see what action they could, or were prepared to take, as dog fouling was an issue across town generally.

 

Gweithredu

Action

67

Cynnig: Dileu hiliaeth mewn ysgolion

Cyng Rhodri Francis

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol cefnogi'r cynnig, i ddileu hiliaeth mewn sefydliadau addysgol, gyda rhai newidiadau, a'r camau gweithredu canlynol:

 

 

  • Bod sesiynau Ymwybyddiaeth ar Hiliaeth yn cael eu cynnal ym mhob sefydliad addysgol yn ardal Aberystwyth ar gyfer yr holl ddisgyblion, myfyrwyr a staff.

 

  • Cynghorwyr sy'n cynrychioli Cyngor Tref Aberystwyth ar fyrddau llywodraethu ysgolion i ddod â hyn ymlaen yn eu priod gyfarfodydd lle maent yn llywodraethwyr.
  • Ysgrifennu llythyr i adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion, y Brifysgol ac ERW yn eu hannog nhw i gynnal sesiynau Ymwybyddiaeth ar Hiliaeth.

 

  • Y Cyngor Tref i gyhoeddi datganiad yn rhoi enghreifftiau o hiliaeth llechwraidd

Motion: Eradicating racism in schools

Cllr Rhodri Francis

 

It was RESOLVED unanimously to support the motion to eradicate racism within educational institutions, with some amendments, and the following actions:

 

  • That Race Awareness sessions take place in all educational institutions in the Aberystwyth area for all pupils, students, and staff.

 

 

  • Councillors who represent Aberystwyth Town Council on the school governing boards to bring this forward at their respective meetings where they are governors.
  • Write a letter to the education department at Ceredigion County Council, the University and ERW urging them to organise Race Awareness sessions.
  • The Town Council to publish a statement giving examples of insidious racism

 

Gweithredu

Action

68

Apêl Marie Curie

 

Teimlwyd y dylid cefnogi elusennau lleol felly PENDERFYNWYD gwahodd Hosbis Gartref i'r cyfarfod ym mis Medi

Marie Curie Appeal

 

It was felt that local charities should be supported, and it was therefore RESOLVED to invite Hospice at Home to the meeting in September

 

Eitem agenda

Agenda item

69

Gohebiaeth

Correspondence

 

 

69.1

Penparcau – enwi’r datblygiad newydd: PENDERFYNWYD cynnig ‘Cae Gwenallt’ fel enw priodol i goffáu’r bardd Gwenallt a oedd yn byw yn yr ardal.

Penparcau – naming the new development: it was RESOLVED to offer ‘Cae Gwenallt’ as an appropriate name to commemorate the poet Gwenallt who lived in the area.

 

Ymateb

Respond

69.2

Tîm Cydlyniant Cymunedol: yn cynnal arolwg o gryfder cymunedol ar ôl Brexit ac yn ystod pandemig Covid-19. Byddai holiadur yn cael ei ddosbarthu.

Community Cohesion Team: were carrying out a survey of community strength post Brexit and during the Covid-19 pandemic. A questionnaire would be distributed.

 

 

69.3

Adloniant haf: byddai cyllideb adloniant haf y Cyngor yn cael ei defnyddio i ariannu adloniant stryd yn cynnwys telynorion a gitâryddion.

Summer entertainment: the Council’s summer entertainment budget would be used to fund street entertainment to include harpists and guitarists.

 

Gweithredu

Action

69.4

Lansiad Radio Aber: byddant yn darlledu ym mis Tachwedd. Dylid eu gwahodd i gyfarfod ym mis Medi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf

Radio Aber launch: they will be broadcasting in November. They should be invited to a September meeting to provide an update

 

Eitem agenda

Agenda item

69.5

Crime Cymru: Roedd yr enw wedi newid i Gŵyl Crime Cymru Festival a’r dyddiadau i 30 Ebrill - 2 Mai. Roedd digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd cyn yr ŵyl yn cael ei ystyried ar gyfer 2 Tachwedd. Dylid ychwanegu cyllid Cyngor Tref i’r digwyddiad fel eitem agenda ym mis Medi

Crime Cymru:  The name had changed to Gŵyl Crime Cymru Festival and the dates changed to 30 April – 2 May.  A pre-festival public engagement event was being considered for 2 November. Town Council funding for the event should be added as an agenda item in September

 

Eitem agenda

Agenda item