CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 27 EBRILL 2015.
Yn bresennol:
Cyng Brenda Haines
Cyng Endaf Edwards
Cyng Mair Benjamin
Cyng Martin W. Shewring
Cyng Ceredig Davies
Cyng Brian Davies
Cyng J.A. Davies
Cyng Wendy Morris
Cyng Brendan Somers
Cyng Jeff Smith
Cyng Alun Williams
Cyng Mererid Jones
Cyng Mark A. Strong
Cyng Kevin Roy Price
Ymddiheuriadau:
Cyng Sue Jones-Davies
Cyng Steve Davies
Cyng Lucy Huws
Hefyd yn bresennol:
Mr Jim O’Rourke
Cofnod 189 - Cyflwyniad gan Mr Jim O’Rourke.
Croesawodd y Maer Mr O’Rourke a symudodd ymlaen i esbonio'r cynlluniau arfaethedig i ail-fuddsoddi yn Adeilad yr Amgueddfa gyda'r nod o godi gwerth £250.000 o arian yn ychwanegol at y £750.000 mewn cymorth grant.
Roedd aelodau eisiau gwybod faint o ariannu yr oedd disgwyl i Gyngor Tref Aberystwyth gyfrannu at y prosiect.
Penderfynwyd y dylai unrhyw gais ddod gan Gyngor Sir Ceredigion.
Cyflwynodd Cyng Alun Williams gynnig i gefnogi'r datblygiad a chafodd ei gefnogi.
Cofnod 190- Datgan Diddordeb
Cyng Mair Benjamin - Cyllid
Cofnod 191- Materion personol
Mynegodd Cyng Wendy Morris ddiolch anferth i Cyng Brenda Haines am y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod ei thymor fel Maer.
Mynegodd Cyng Haines ei diolch i Delyth Davies am ei gwaith fel cyfieithydd i'r cyngor.
Cofnod 192 - Adroddiad o Weithgareddau'r Maer
Dosbarthwyd adroddiad o ymrwymiadau'r Maer ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Llawn i aelodau.
Rhoddwyd caniatâd i dreuliau gael eu talu i'r Dirprwy Faer i fynychu digwyddiad swyddogol yng Nghaerdydd.
Rhoddwyd caniatâd hefyd i argraffu taflen Gwasanaeth Sul y Maer.
Cofnod 193 - Cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2015.
Cymeradwywyd cofnodion y Cyngor Llawn.
Cofnod 194 - Materion yn codi o'r cofnodion
Penderfynwyd y dylai cofnod 179 a chofnod 180 yn cael eu huno.
Dylai Cofnod 181 yn ymwneud â chais cynllunio A140905 gynnwys cyfeiriad at gais Clwb Pêl-droed Aberystwyth.
Cofnod 182 – Hysbysodd Cyng Mark Strong aelodau y byddai plac Hermann Ethe yn ei le erbyn diwedd yr wythnos ac y dylai datganiad i'r wasg gael ei baratoi ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Cofnod 182 – Gwobr Tref Wych. Nododd Cyng Wendy Morris bod paratoadau ar droed ar gyfer 4 Mai 2015.
Cofnod 182 – Swydd Achlysurol. Cyng Ceredig Davies i gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi.
Cofnod 182 – Mae dau Diffibriliwr wedi'u prynu ond roedd angen penderfynu ar eu lleoliad. Gallai hyfforddiant am ddim ar eu defnydd gael eu darparu. Trafodwyd posibilrwydd y gallai hyfforddiant gael ei gynnal cyn y cyngor llawn nesaf.
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Cyngor Llawn 23 Mawrth 2015.
Cofnod 195 - Adroddiad Cynllunio – Ebrill 2015
Roedd disgwyl i dri chais gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Ebrill 2015. Serch hynny, canslwyd y cyfarfod oherwydd nad oedd cworwm. Yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Cynllunio'r cyngor, ymgynghorodd y Cadeirydd trwy e-bost â'r Is-gadeirydd ac aelodau ar gyfer wardiau Gogledd a Rheidol ac anfonwyd yr ymatebion a ganlyn at Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer dau o'r ceisiadau:
A140906
Newid defnydd Fflat 1 i 3 fflat
Fflat 1, Trefdraeth, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
Nid oes gan Gyngor Tref Aberystwyth wrthwynebiad i'r newid defnydd arfaethedig, ond mae'n pryderu nad yw'r cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys ardaloedd i storio a hwyluso casglu gwastraff.
A140907
Cadw defnydd yr annedd fel yr adeiladwyd
The Hive, Heol Beehive, Trefechan
Dim gwrthwynebiad.
Bydd y trydydd cais yn cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn ar 27 Ebrill 2015:
A150079
Dymchwel adeilad cyfredol a chodi stand 500 sedd yn lle'r un cyfredol, cyfleusterau lolfa/bar, cyfleusterau clwb ieuenctid, cyfleusterau newid/pêl-droed/campfa newydd a 57 o fflatiau gyda pharcio gan gynnwys parcio o dan grofft a chyfleusterau cymunol. Disgwylir y bydd cyfran o'r fflatiau yn rhai fforddiadwy.
Maes Pêl-droed Aberystwyth, Coedlan y Parc, Aberystwyth
COFNOD 196
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd yn yr Ystafell Gyfarfod, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth Ddydd Llun 13 Ebrill 2015 am 6.30 pm.
YN BRESENNOL:
Cyng Ceredig Davies
Cyng Wendy Morris
Cyng Martin W Shewring
Cyng Sue Jones-Davies
Cyng Endaf Edwards
Cyng Mair Benjamin
Cyng Jeff Smith
Cyng Steve Davies
Cyng Brendan Somers
Cyng Alun Williams
Cyng Mererid Jones
Cyng Brian Davies
YMDDIHEURIADAU;
Cyng Mark Strong
HEFYD YN BRESENNOL:
Cyng Brenda Haines
Cyng Lucy Huws
Gohebiaeth:
(a) Darllenwyd neges e-bost gan Mr Caleb Spencer yn holi am ddyfodol Parc Bwrdd Sgrialu. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb.
(b) Hysbysiad o Waith i'r Coed i'w wneud gan Adran Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion yn “Carregwen”, Ffordd Llanbadarn. Byddai cyfarfod safle yn cael ei gynnal Ddydd Gwener 17 Ebrill a byddai'r cyngor yn ymateb yn dilyn y cyfarfod hwn.
(c) Roedd neges e-bost gan Mr Owain Rees yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â'r rhandiroedd. Gellid mynd i'r afael â'r mater hwn wrth drafod y rhandiroedd yn ddiweddarach ar yr agenda.
(d) Roedd neges e-bost gan Mr Dylan Jones o Fforwm Penparcau yn ymwneud â'r rhandiroedd a gellid mynd i'r afael â'r neges hon yn ddiweddarach yn yr agenda.
(e) Roedd neges e-bost gan Mr Alun Tansey eto yn cyfeirio at y rhandiroedd a gellid mynd i'r afael â hi yn ddiweddarach yn yr agenda.
Rhandiroedd: Coedlan 5 a Min-y-Ddol Penparcau.
Hysbyswyd yr aelodau yn bresennol bod 3 o randiroedd i'w gosod o hyd.
Cytunwyd y dylai Cyngor Tref Aberystwyth lunio "Polisi Rhandiroedd"
Cytunodd Cyng Mererid Jones i ddrafftio polisi er mwyn i aelodau ei darllen a chynnig sylwadau arni.
Cytunodd aelodau y dylid mynd i'r afael â negeseuon e-bost a dderbyniwyd o dan ohebiaeth yn ymwneud â'r rhandiroedd ar ôl llunio a derbyn y Polisi Rhandiroedd. Byddai'r mater o rannu rhandiroedd hefyd yn cael ei gynnwys yn y polisi arfaethedig.
Parc Bwrdd Sgrialu:
Ar hyn o bryd roedd Anna Bullen yn gweithio gyda “Free Style” gyda'r bwriad o wella'r cynnig a'i ailgyflwyno erbyn mis Gorffennaf 2015. Byddai'r cynnig newydd yn cael ei ystyried ym mis Rhagfyr 2015.
Cytunwyd y gallai'r parc cyfredol gael ei gadw mewn cyflwr da ac y gellid ymchwilio i ddarparu biniau sbwriel.
Cynnal tir o dan reolaeth Cyngor Tref Aberystwyth:
Argymhellwyd y dylai'r Panel Staffio hysbysebu am unigolyn cynnal a chadw i gynnal ardaloedd o dan reolaeth Cyngor Tref Aberystwyth i gynnwys casglu sbwriel.
Dathliadau Tref Wych:
Adroddodd Cyng Wendy Morris bod baner ar gyfer yr achlysur bellach yn ei le a bod cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal i drafod y rhaglen.
Byddai'r Diwrnod o Ddathlu yn cael ei gynnal ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc 4 Mai 2015 rhwng 10.00 a 4.00pm yn Stryd y Popty.
Roedd taflenni yn cael eu cynhyrchu i'w dosbarthu a byddai'r Cambrian News yn cyhoeddi golygyddol yn eu rhifyn nesaf.
Roedd cyllideb o £500.00 wedi'i neilltuo ar gyfer y digwyddiad.
Byddai briff terfynol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y cyngor llawn.
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor (Arwisgo'r Maer) a Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Maer.
Byddai cyfarfod blynyddol y cyngor yn cael ei gynnal Ddydd Gwener 15 Mai 2015 am 6.30pm yn y Morlan, Morfa Mawr. Byddai Gorymdaith y Maer yn dechrau o du allan i Hen Neuadd y Dref yn brydlon am 10.30am Ddydd Sul 24 Mai 2015. Roedd gweithrediad Cau Ffyrdd treigl yn gweithredu ar gyfer yr orymdaith.
Goleuadau Nadolig:
Gohirwyd y drafodaeth tan y cyfarfod nesaf.
Hysbysfwrdd Allanol:
Derbyniwyd dyfynbrisiau am £270.00 a £400.00. Gofynnodd aelodau i ddyfynbrisiau eraill gael eu casglu.
Prydles Stryd y Popty:
Mae'r brydles ar y gweill, serch hynny, mae oedi wedi digwydd.
Rhaglen Adloniant yr Haf:
Cyflwynodd Cyng Alun Williams Rhaglen Adloniant yr Haf ar gyfer Aberystwyth sydd wedi'i llunio gan Fenter Aberystwyth o fewn y gyllideb y cytunwyd arni o £5000.00
Roedd aelodau yn teimlo'n frwdfrydig dros y rhaglen ac yn ei chroesawu, serch hynny, roedd angen archwilio'r posibilrwydd o leoliadau tywydd gwlyb.
Ardaloedd Chwarae:
Ni phasiwyd unrhyw ddatblygiadau.
Bagiau Duon ar gais Cyng Mair Benjamin:
Penderfynwyd ysgrifennu at Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am esboniad i'r newidiadau diweddar wrth gynnal cyflwyniad sbwriel ar strydoedd Aberystwyth gyda sylw penodol i'r lôn rhwng Stryd Cae Glas a Maesyrafon.
Materion sy'n Weddill:
- Gŵyl Feicio i dderbyn caniatâd i godi baner.
- Mae Gŵyl Feicio wedi gofyn am ddefnyddio Atebolrwydd Cyhoeddus Cyngor Tref Aberystwyth. Bydd Cyng Mererid Jones yn ymchwilio i'r sefyllfa.
- Cynhaliwyd trafodaeth i helpu i sicrhau bod cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio â chworwm. Cytunwyd cyfeirio at Reolau Sefydlog yng nghyfarfod nesaf y cyngor llawn i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Rhoddodd y Cyng Ceredig Davies ddiweddariad i'r aelodau ers y cyfarfod blaenorol.
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Cofnod 197.
CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd Ddydd Llun 20 Ebrill 2015 am 6.30pm.
Yn bresennol:
Cyng Mererid Jones
Cyng Ceredig Davies
Cyng Mark Strong
Cyng Brendan Somers
Cyng Endaf Edwards
Cyng Kevin Price
Hefyd yn bresennol:
Cyng Jeff Smith
Cyng Sue Jones-Davies
Ymddiheuriadau:
Cyng Brian Davies
Cyng Wendy Morris
1 Datgan Diddordeb
Mererid Jones & Sue Jones-Davies – Masnach Deg Aberystwyth
Brendan Somers – Cymdeithas Flodau Aberystwyth a Charnifal
Mair Benjamin – Fforwm 50+
Penderfynwyd nad oedd yn rhaid i unigolion a oedd yn gynrychiolwyr ar grwpiau gefeillio ddatgan diddordeb gan eu bod yn cynrychioli'r Cyngor Tref
- Gohebiaeth
Roedd y Cadlanciau Awyr wedi anfon neges e-bost yn gofyn am gopi o'n Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus er mwyn paratoi i'r Dathliad Tref Wych. Penderfynwyd rhoi copi iddynt.
- Cyfrifon Mawrth 2015
Dosbarthwyd cyfrifon drafft ar gyfer 2014-15 a oedd yn cynnwys cyfrifon rheoli Mawrth 2015. Cytunwyd cymeradwyo cyfrifon rheoli Mawrth 2015 a chyfrifon drafft 2014-15 - yn amodol ar archwiliad.
- Penodi Archwilydd Mewnol
Cytunwyd y byddai Emyr Phillips yn parhau i wasanaethu fel Archwilydd Mewnol i Gyngor Tref Aberystwyth.
- Penodi Archwilydd Allanol
Cytunwyd y byddai BDO yn parhau i weithredu fel ein harchwilwyr allanol.
- Adolygu Rheoliadau Ariannol
Cymeradwywyd y Rheoliadau Ariannol yn amodol ar y diwygiadau a ganlyn yn cael eu gwneud: -
3.4 Gall Clerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol wario hyd at £200 ar ei fenter/ei menter ei hun.
6.5 Bydd y Cyngor yn cadw cronfa barod o £100 ar y mwyaf.
11.1 (1) Ble mae hynny'n bosib, ac os yw'r gwerth yn is na £2,000 ac yn uwch na £200, bydd y Clerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol yn gofyn am ddau amcangyfrif.
- Ceisiadau Grant Blynyddol
Partneriaethau
Roedd cais wedi'i dderbyn gan Gyngor Sir Ceredigion i barhau i ariannu Marchnad y Ffermwyr Aberystwyth ar £7,000. Cytunwyd ar yr ariannu.
Gefeillio
O ystyried cronfeydd wrth gefn ariannol cryf pob un o'r pwyllgorau gefeillio, cytunwyd i ddosbarthu £1,500 yr un.
Cytunwyd y byddai gweddill yr arian gefeillio yn cael ei wario ar arwyddion Aberystwyth newydd i gynnwys gefeillio gydag Esquel, ac i'r arian gael ei gadw wrth gefn rhag ofn y bydd cais i efeillio gydag Arklow.
Ceisiadau cyffredinol
Gadawodd unigolion a oedd wedi datgan diddordeb o dan (1) yr ystafell yn ystod trafod eu sefydliad unigol.
Y swm uchaf y gellir ei ddosbarthu o dan y pennawd hwn yw £5,000 a rhaid i geisiadau fod yn unol â'r meini prawf grant.
- Masnach Deg Aberystwyth - £300
- Fforwm Penparcau - £5,000 yn amodol ar dderbyn cofnodion ar gyfer 2013-14 a 2014-15.
- Carnifal Aberystwyth - £5,000
- Cymdeithas Flodau Aberystwyth a'r Cylch - £300 gyda nodyn atgoffa i ofyn i Gyngor Cymuned Llanbadarn am gyfraniad ac y byddai croeso mawr iddynt gynnal y digwyddiad yn ardaloedd ward Aberystwyth a Phenparcau.
- Fforwm 50+ - £200 a chynnig i ddefnyddio'r ystafell gyfarfod.
- Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion (i ariannu Môr i'r Tir) - £2,000
- Clwb Bowlio Aberystwyth - £200
- 2il Grŵp Sgowtiaid Penparcau - £3,000 tuag at gost rhedeg y grŵp (nid at gostau teithio).
- RAY Ceredigion - £1,500 tuag at ddigwyddiadau 8 Clwb Dydd Sadwrn ym Mhenparcau.
- Cymdeithas Gorawl Aberystwyth - £500 (Cefnogaeth i'r gyllideb Celfyddydau)
- Ffoto Aberystwyth - £750 (Cefnogaeth i'r gyllideb Celfyddydau)
- Pared Gŵyl Ddewi - £900 a'r cynnig i ddefnyddio'r ystafell gyfarfod.
Ni chafodd unrhyw geisiadau eu gwrthod.
- Unrhyw fater arall
Polisi rhandiroedd
Mân ddiwygiadau wedi'u nodi ond cafodd yr eitem ei hoedi hyd at gyfarfod diweddarach.
Diweddaraf ar yr hysbysfwrdd
Dim gwybodaeth bellach wedi'i derbyn. Dirprwy Swyddog Ariannol Cyfrifol i ddilyn i fyny.
Plac Ethe
Roedd James Memorial wedi derbyn y briff. Aros am y plac a'r anfoneb
Dodrefn y cyngor
Nodwyd bod eitemau yn parhau i gael eu storio yn Ynyslas y mae angen eu dychwelyd i swyddfeydd y Cyngor. Lluniau i'w dosbarthu yn y cyfamser a Rheolaeth Gyffredinol i ddilyn i fyny.
Materion prydles
Mae'r landlord wedi cynnig gosod cegin yn y brif ystafell gyfarfod, er y flaenoriaeth fyddai newid y toiled yn gegin. Mae'r landlord wedi cynnig cyfnod heb rent yn ystod peintio ac addurno'r swyddfa.
Hysbyseb am swydd
Nodwyd y byddai angen hysbysebu swydd y Clerc eto. Cytunwyd cymeradwyo'r gwariant ar hysbyseb yn y Cambrian News ac i archwilio cost o hysbysebu gyda Lleol.net.
Gwobrau Aber yn Gyntaf
Nododd Cyng Alun Williams y byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn noddi'r Wobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn y Gwobrau Aber yn Gyntaf a drefnir gan Fenter Aberystwyth. Bydd enwebiadau yn cael eu gwneud yn ystod y bythefnos nesaf a hynny ar gyfer enwebiadau busnes ac nid grwpiau gwirfoddol.
Polisïau
Nododd Cyng Mark Strong bod angen adolygu polisïau'r Cyngor.
Bydd Cyng Mererid Jones yn rhoi rhestr i'r cynghorwyr o bolisïau iddynt eu hadolygu.
Nodwyd bod un ymgeisydd wedi datgan mai'r dyddiad cau ar gyfer grantiau oedd 30 Ebrill 2015. Cytunwyd y byddai grantiau yn cael eu dosbarthu yn gynnar ar gais gan Fforwm Penparcau ddwy flynedd yn ôl. Byddai unrhyw geisiadau hwyr yn cael eu hystyried wrth eu derbyn.
Nododd Cyng Alun Williams bod enwebiadau ar gyfer "Gwobrau Aber yn Gyntaf" bellach ar agor a bod angen enwebu busnesau o'r ardal.
Nodwyd y byddai sefydliadau sy'n derbyn grantiau yn cael eu gwahodd i gyflwyniad gyda chyhoeddusrwydd gan y Cambrian News.
PENDERFYNWYD derbyn Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau.
Cofnod 198
Ceisiadau Cynllunio.
Datganodd Cyng Mark Strong ddiddordeb fel aelod o Gymdeithas Gofal sydd â phartneriaeth gyda Tai Ceredigion a gadawodd yr ystafell gyfarfod.
Cais Cynllunio A150079 - Caniatâd cynllunio amlinellol Tai Ceredigion am 33 fflat o amgylch y Clwb Pêl-droed. Roedd aelodau yn pryderu am y materion a ganlyn:- Llifogydd, gor-ddatblygu a mynediad.
PENDERFYNWYD gwahodd y datblygwyr i'r cyfarfod cynllunio nesaf a chodi'r materion sydd o bryder i aelodau.
Cais Cynllunio A15058 – Newidiadau i Siop y Llawr Gwaelod (Slaters Bakery). Y Cynnig oedd ailddatblygu'r fflat. Ni fyddai estyniad i'r adeilad cyfredol. Nodwyd y byddai parcio ar gael serch hynny mynegwyd pryderon am yr allanfa dân (a oedd un i gael)? Nodwyd ymhellach y dylai'r holl geisiadau gynnwys ardal storio gwastraff y tu fewn fel na fyddai biniau yn cael eu storio y tu allan.
Cytunodd y Cyngor i'r ymateb a ganlyn:- Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn pryderu y byddai defnyddio Biniau Olwynion fel storfa yn annog storio gwastraff mewnol, gan greu risg iechyd amgylcheddol. Mae gan y Cyngor bryderon hefyd yn ymwneud â'r allanfa dân y mae angen mynd i'r afael â hi.
Cais Cynllunio A150199 - Cyflwynodd Starbucks gais newydd i'w logo gael ei gymeradwyo. Pan gafodd y cais blaenorol ei ystyried, tynnodd Cyng Wendy Morris sylw at y ffaith nad oedd penderfyniad y cyngor yn unfrydol. Nododd Cyng Jeff Smith bod yr adeilad wedi'i adnewyddu gan ddefnyddio arian cyhoeddus ac y byddai'r arwydd yn parhau yn ei le ar ôl iddynt adael.
Yr ymateb i'r Awdurdod cynllunio yw fel a ganlyn:- Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwrthwynebu yn gryf, mae'r cyngor o'r farn bod maint y logo arfaethedig i'w beintio ar y wal yn amhriodol ac y byddai'n dominyddu'r olygfa i gerddwyr sy'n edrych i fyny'r Stryd Fawr a chan hynny nid yw'n unol â Chanol Tref Aberystwyth.
Cofnod 199
Gohebiaeth:
(a) Cymorth Cynllunio Cymru - Roedd llythyr yn cynnig hyfforddiant i gynghorwyr os byddai'n cael ei gynnal gan Gyngor Tref Aberystwyth. Roedd hyfforddiant wedi'i gynnal ym mis Mawrth 2013. Penderfynodd aelodau nad oedd angen hyfforddiant y tro hwn.
(b) Llythyr yn gofyn am Ryddid y Dref ar gyfer Ms Jean Guezennec o St Brieuc. Roedd angen cynhyrchu sgrôl. Cafodd y cais ei gymeradwyo a byddai Cyng Wendy Morris yn trafod o ran gwneud trefniadau.
(c) Llythyr gan Mr Paul Meredith yn gofyn am gael ei roi mewn cysylltiad â hanesydd lleol. Awgrymodd aelodau Mr Will Troughton yn y Llyfrgell Genedlaethol.
(d) Llythyr gan Mrs Margaret Bateman yn mynegi ei gwerthfawrogiad am y blodau yn Aberystwyth.
(e) Llythyr gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gofyn am ganiatâd i godi baner ar y Stryd Fawr yn hyrwyddo eu Sioe Tymor yr Haf rhwng canol Gorffennaf a diwedd Awst. Cefnogodd yr aelodau y cais.
(f) Llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn nodi na fyddent yn creu baner ar gyfer Gŵyl Feicio Aber oherwydd y goblygiadau o ran cost. Nodwyd cynnwys y llythyr.
(g) Llythyr gan Stondinwyr Marchnad y Ffermwyr Aberystwyth yn gofyn am 5 diwrnod masnachu ychwanegol. Cafodd y cais ei gymeradwyo.
(h) Derbyniwyd dyfynbris o £3,500 ar gyfer glanhau Prom Aberystwyth a'r traethau am gyfnod o 10 wythnos.
(i) Llythyr gan Heddlu Dyfed Powys yn ymwneud â Gorsaf Heddlu Penparcau yn gofyn am gyfarfod gyda Cyng Mererid Jones. Penderfynwyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gydag aelodau ward Penparcau.
(j) Llythyr gan Glwb Strôc Aberystwyth yn diolch i'r cyngor am eu cymorth wrth sicrhau man cyfarfod o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd a roddwyd.
(k) Dosbarthwyd rhestr i aelodau o newidiadau i enwau strydoedd gan Gyngor Sir Ceredigion.
(l) Llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn gwahodd cwestiynau gan aelodau yn ymwneud â chau Ysgol Cwmpadarn.
(m) Llythyr yn hysbysu aelodau o'r dyddiad olaf o 27 Ebrill 2015 ar gyfer gwrthwynebiadau i'r INTRtri – triathalon ar 24 Medi 2015.
(n) Great tour 2015. - Mae "Tour of Britain Coast 2015" a fydd yn Aberystwyth ar 2 Medi angen pwynt cyswllt. Cytunwyd trafod gyda'r swyddfa.
(o) Singathon - Cafodd cais i gynnal y digwyddiad yn Sgwâr Owain Glyndŵr ar 1 Awst 2015 ei gymeradwyo gan y cyngor a oedd hefyd yn dymuno pob llwyddiant i'r digwyddiad.
(p) Llythyr gan Ann Harris yn diolch i'r cyngor am roi cyfle iddi annerch y cyngor.
(q) Prydles – Hysbyswyd aelodau bod y brydles bellach wedi'i harwyddo.
Cofnod 200 - Gwariant y Cyngor
Dosbarthwyd y rhestr a ganlyn a'i chymeradwyo gan aelodau:-
Talwyd i |
Rheswm |
Swm (£) |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
Cyflogau hyd at fis Mawrth 2015 |
920.51 |
Cyngor Sir Ceredigion |
Trwydded ar gyfer Gwobr Tref Wych |
150.00 |
M & B Barker |
Rhent 24/3/15 – 24/6/15 |
4,500.00 |
Purchase Power |
Peiriant Ffrancio |
292.54 |
Viking Direct |
Offer swyddfa |
12.70 |
Cyng Mair Benjamin |
Treuliau i gyfarfod Arriva |
28.50 |
SARPA |
Aelodaeth |
8.00 |
Masnach Deg Aberystwyth |
Grant 2015 – 16 |
300.00 |
Fforwm Penparcau |
Grant 2015 – 16 |
5000.00 |
Carnifal Aberystwyth |
Grant 2015 – 16 |
5000.00 |
Clwb Flodau Aberystwyth a'r Cylch |
Grant 2015 – 16 |
300.00 |
Fforwm 50+ |
Grant 2015 – 16 |
200.00 |
Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion |
Grant 2015 – 16 |
2000.00 |
Clwb Bowlio Aberystwyth |
Grant 2015 – 16 |
200.00 |
2il Grŵp Sgowtiaid Penparcau |
Grant 2015 – 16 |
3000.00 |
RAY Ceredigion |
Grant 2015 – 16 |
1,500.00 |
Cymdeithas Gorawl Aberystwyth |
Grant 2015 – 16 |
500.00 |
FFoto Aber |
Grant 2015 – 16 |
750.00 |
Pared Gŵyl Dewi |
Grant 2015 – 16 |
900.00 |
Grŵp Gefeillio Esquel |
Grant 2015 – 16 |
1,500.00 |
Grŵp Gefeillio St Brieuc |
Grant 2015 – 16 |
1,500.00 |
Grŵp Gefeillio Kronberg |
Grant 2015 – 16 |
1,500.00 |
Cofnod 201- Adroddiadau ar Lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion.
Dymuna Cyng Mark Strong adolygu polisïau i sicrhau bod Cyngor Tref Aberystwyth yn unol â pholisïau cydraddoldeb. Mae Cyng Strong hefyd yn gweithio i ostwng cyflymder yn ei ward trwy ymgyrch.
Hysbysodd Cyng Alun Williams aelodau o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 1 Mai 2015 rhwng 10.00 am a 3.00 pm. Nododd hefyd bod ymgynghoriad rhanddeiliaid yn cael ei gynnal rhwng misoedd Mai a Medi fel rhan o Fwrdd Prosiect yr Hen Goleg.
Cofnod 202 - Adroddiad ar lafar gan y Cadeirydd Staffio.
Roedd proses gyfweld wedi'i chynnal ond nid oedd y panel wedi gallu penodi. Byddai'r swydd yn cael ei hail-hysbysebu gyda dyddiad cau o 7 Mai 2015. Byddai hysbysebion yn cael eu gosod yn y Cambrian News, Golwg, Golwg 360 a'r Cymro.
Cofnod 203- Eglurhad o Delerau ac Amodau defnyddio Ystafelloedd Cyfarfod y Cyngor Tref.
Nododd Cyng Brendan Somers bod angen i'r cyngor sefydlu canllawiau yn ymwneud â phwy all ddefnyddio'r ystafell gyfarfod a phryd.
Nododd Cyng Alun Williams bod yr adeilad yn ardal y gellir ei defnyddio ond bod angen cyhoeddusrwydd ehangach.
PENDERFYNWYD cyfeirio'r mater at gyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Cofnod 204- Rheolau Sefydlog.
Nododd Cyng Endaf Edwards bod pedwar Cyfarfod Cynllunio wedi cael eu gohirio ers 2013 gan nad oeddynt â chworwm. Mae wedi adolygu Rheolau Sefydlog ac mae angen eglurhad ar yr aelodaeth sy'n ofynnol i fwrw ymlaen â'r cyfarfodydd.