CYNGOR TREF ABERYSTWYTH
COFNODION CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD
11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 24 CHWEFROR 2014
am 6.30pm.
Yn bresennol:
Y Cyng. Wendy Morris – Twiddy
Y Cyng. Brenda Haines
Y Cyng. Mair Benjamin
Y Cyng. Endaf Edwards
Y Cyng. Brendan Somers
Y Cyng. Mererid Jones
Y Cyng. Alun Williams
Y Cyng. Ceredig Davies
Y Cyng. Martin Shewring
Y Cyng. Sue Jones – Davies
Y Cyng. Sarah Bowen
Y Cyng. Kevin Roy Price
Y Cyng. Lucy Huws
Y Cyng. Steve Davies
Y Cyng. Jeff Smith
Y Cyng. Brian Davies
Ymddiheuriadau:
Y Cyng. Dylan Lewis
Y Cyng. Mark Strong
Y Cyng. Aled Davies
Croesawodd y Maer Y Cyng. Brendan Somers i'w gyfarfod cyntaf o'r cyngor.
Cofnod 151: Datgan Diddordeb.
Y Cyng. Ceredig Davies......................................................Cyllid (ad-dalu).
Y Cyng. Kevin Roy Price.....................................................Cyllid (ad-dalu).
Cofnod 152: Cyfeiriadau Personol.
Croesawodd y Maer Y Cyng. Brian Davies yn ôl ar ôl cyfnod o salwch a dymunodd wellhad cyflym iddo.
Cyfnod 153: Adroddiad y Maer.
Dosbarthwyd adroddiad i aelodau.
Cofnod 154: Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2014.
Cofnod 134 yn cyfeirio at: Dim ateb nac ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Swyddfa i ofyn am ymateb.
Cofnod 136 yn cyfeirio at: Angen i greu "Taflen" i hyrwyddo'r digwyddiad.
Cofnod 137 yn cyfeirio at: Cofnodion Cyllid wedi'u hepgor. I'w cynnwys yn y copi Terfynol.
Cofnod 145 yn cyfeirio at: Rhoddodd Y Cyng. Mair Benjamin y diweddaraf ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Cofnod 148 yn cyfeirio at: Mae “Wheelscape” y tendr aflwyddiannus am y cytundeb wedi gofyn am wybodaeth am y cais buddugol gan “Freestyle”. Mae'r wybodaeth hon yn sensitif yn fasnachol ac NI ddylai gael ei rhyddhau gan ei bod yn cael ei hystyried wedi'i heithrio rhag Rhyddid Gwybodaeth.
Cofnod 149 yn cyfeirio at: Roedd Y Cyng. Mererid Jones wedi ceisio cyngor gan "Un Llais Cymru" cyn penodi Carl Williams yn Ddirprwy Swyddog Ariannol Cyfrifol.
Cofnod 155: Materion yn codi o'r cofnodion.
Rhoddodd Y Cyng. Mererid Jones y diweddaraf ar Gae Kronberg a phroblemau gyda'r cynllun amlinellol:
(a) Angen derbyn cadarnhad ar berchnogaeth y tir na ellir ei ddatblygu.
(b) A oes modd plannu coed yn yr ardal?
(c) A oes modd gosod "Ardal Bicnic" yn yr ardal?
Cofnod 156: Cofnodion Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2014.
COFNODION CYFARFOD O'R PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 3 CHWEFROR 2014 AM 6.30 PM
Yn bresennol:
Cynghorydd Endaf Edwards
Cynghorydd Ceredig Davies
Cynghorydd Kevin Price
Cynghorydd Jeff Smith
Cynghorydd Lucy Huws
Cynghorydd Brenda Haines
Cynghorydd Wendy Morris-Twiddy
Cynghorydd Mair Benjamin
Ymddiheuriadau:
Cynghorydd Sue Jones-Davies
Cynghorydd Steve Davies
Cynghorydd Mererid Jones
Cynghorydd Mark Strong
Cynghorydd Martin Shewring
- Gohebiaeth
Derbyniwyd yr ohebiaeth a ganlyn gan Gyngor Sir Ceredigion.
Penderfyniadau cynllunio:
A130154 – wedi'i gymeradwyo
A130640 – wedi'i gymeradwyo
A130835LB – wedi'i gymeradwyo
A130798 – wedi'i gymeradwyo
A130891 – wedi'i gymeradwyo
Hysbysiad o Waith Coed – Ymgynghoriad:
The Tollhouse, Ffordd Llanbadarn
Derbyniwyd yr ohebiaeth a ganlyn gan y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, yn ymwneud â'r apeliadau a ganlyn:
A130126 - wedi'i ganiatáu
A130591 – wedi'i wrthod
A130701 – wedi'i wrthod
Nododd y cyfarfod bod problem gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer siopau tecawê yn hwyr yn nos yng nghanol tref Aberystwyth (mae'r broblem hon yn arbennig o berthnasol i gais A130701, Marco’s, 11 Heol y Wig). Mae'r amserau cau yn amrywio o 11.00 pm i 4.00 am. Mae'n ymddangos bod Cyngor Sir Ceredigion wedi ceisio'n aflwyddiannus i sicrhau'r un amser cau ar gyfer pob siop. Mae'r siopau hynny sydd â chaniatâd cynllunio i gau am 11.00pm yn parhau ar agor er mwyn herio'u caniatâd cynllunio. Bydd y cadeirydd yn ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn iddynt orfodi caniatâd y siopau hyn.
- Ymgynghoriad Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft y Cynllun Datblygu Lleol: Tai Fforddiadwy, Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Man Agored
Roedd y dogfennau ymgynghori i fod i gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn cyn bod ymateb yn cael ei anfon at CSC. Serch hynny, oherwydd hyd y dogfennau hyn a'r ffaith bod yr ymgynghoriad yn parhau ar agor hyd at 28 Chwefror 2014, gofynnodd y cadeirydd i aelodau edrych ar y rhain ac anfon unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt ato er mwyn gallu eu coladu ac anfon ymateb at CSC. Mae fersiynau copi caled ar gael yn y swyddfa a bydd y cadeirydd yn anfon neges e-bost at aelodau gyda chysylltiadau at y dogfennau.
- Ystyried ceisiadau cynllunio
A130705 / A130706LB (Cynlluniau Diwygiedig) Trosi, a gwneud mân newidiadau i adeilad cyfredol y prom i ddarparu 18 ystafell wely gwesty, bwyty a derbynfa. Dymchwel estyniadau cefn ac adeiladu estyniad 5 llawr yn eu lle yn cynnwys 45 ystafell wely a gwaith cysylltiedig. Newidiadau i Faes Parcio Stryd y Baddon i ddarparu 40 o lefydd parcio.
Gwesty'r Bae, 36 Glan-y-Môr, Aberystwyth.
Gwrthwynebiad. Nid yw cefn y datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal. Dylai'r cefn fod llawr yn is gyda tho ar oleddf. Serch hynny, mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwerthfawrogi bod y tu blaen gwreiddiol yn cael ei gadw.
A130741AV (Cynlluniau Diwygiedig)
Arddangos arwydd
Lloyds Pharmacy, 8 Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad.
A130960
Dymchwel un simnai brics
Tŷ Talbot, Stryd y Farchnad, Aberystwyth
Gwrthwynebiad. Rydym o'r farn y byddai'r cynnig yn lleihau dimensiwn fertigol treflun Aberystwyth.
A130994
Datblygu adeilad 4 llawr yn cynnwys 22 uned fforddiadwy, trefniadau mynediad a gwaith cysylltiedig
Safle'r Tabernacl, Dan Dre, Aberystwyth
Fe wnaeth Mr Keith Davies, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Ceredigion, annerch y cyfarfod ac ateb cwestiynau aelodau yn ymwneud â'r cais hwn.
Dim gwrthwynebiad. Mynegwyd pryderon, serch hynny, yn ymwneud â nifer o faterion: diffyg parcio yn yr ardal; lleoliad y safle gyferbyn ag ardal wasanaethu siop fwyd Tesco (rhan o safle Maes Parcio Dan Dre), a fyddai'n arwain at dagfeydd cynyddol, yn enwedig gan fod y ffordd yn culhau yn yr ardal hon; dichonolrwydd casglu sbwriel o'r safle. Dymunwn weld y ffordd yn cael ei lledu yn agos at yr orsaf betrol ar Dan Dre. Mae'n aneglur pa gyfleuster mwynderau (megis iard) fyddai ar gael i breswylwyr. Rydym yn gofyn fel amod yn y denantiaeth nad oes gan breswylwyr geir (yn debyg i amod sydd eisoes yn cael ei chymhwyso yn Aberteifi). Rydym hefyd yn gofyn i ddatblygwyr gadw nodweddion gwreiddiol y safle hyd y gellir, gan gynnwys waliau a rheiliau yn Stryd Powell. Byddem hefyd yn hoffi gweld yr angel efydd yn cael ei ddychwelyd i'w blinth gwreiddiol, wrth ben Stryd Powell i'r safle a bod plac yn cael ei godi i nodi defnydd blaenorol ar y safle.
A140020
Codi estyniad cefn dau lawr
23 Coedlan Tri, Penparcau, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad.
A130976
Mae'r cais ar gyfer defnydd cymysg (B1 a A2) o ystafelloedd swyddfa 007, 008 a 009 yn yr adeilad y cyfeirir ato (Tŷ Harbwr). Y caniatâd cynllunio cyfredol yw B1.
Tŷ Harbwr, Y Lanfa, Trefechan, Aberystwyth
Dim gwrthwynebiad.
Dylai unrhyw sylwadau ar y Cynllun Datblygu Lleol gael eu hanfon ymlaen at Y Cyng. Endaf Edwards cyn 12 pm Ddydd Gwener 28 Chwefror 2014.
Gofynnodd Y Cyng. Mair Benjamin beth oedd y diweddaraf ar yr ardal wasanaethu i Tesco. (gyferbyn â Datblygiad y Taberncal). Nid oedd y diweddaraf wedi'i dderbyn hyd yma. Cais i ddilyn i fyny.
Gofynnodd Y Cyng. Ceredig Davies a oedd ymateb wedi'i dderbyn gan yr Adran Priffyrdd yn ymwneud â lledu'r ffordd a oedd yn amod yn y caniatâd cynllunio ar gyfer Datblygiad y Tabernacl.
Cafodd cais Gwesty'r Bae ei dynnu yn ôl cyn Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion. Roedd y perchennog eisiau amser i ail-lunio'r cynlluniau o ganlyniad i ddifrod storm diweddar. Efallai y bydd y cais yn cael ei gyflwyno yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Cofnod 157: Cofnodion Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2014.
COFNODION PWYLLGOR RHEOLAETH GYFFREDINOL A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 10 CHWEFROR 2014 AM 6.30pm.
Yn bresennol:
Y Cyng. Ceredig Davies
Y Cyng. Brenda Haines
Y Cyng. Mair Benjamin
Y Cyng. Sue Jones-Davies
Y Cyng. Martin Shewring
Y Cyng. Wendy Morris-Twiddy
Y Cyng. Endaf Edwards
Y Cyng. Steve Davies
Y Cyng. Kevin Roy Price
Y Cyng. J.A.Davies
Y Cyng. Mererid Jones
Y Cyng. Jeff Smith
Ymddiheuriadau:
Y Cyng. Dylan Lewis
Y Cyng. Lucy Huws
Y Cyng. Brian Davies
Y Cyng. Mark Strong
1 Ymddiheuriadau
Fel y gwelir yn y gofrestr bresenoldeb.
2 Datgan Diddordeb
Dim
2a.Gohebiaeth
*Nid yw'r “Morlan” ar gael ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a Chyflwyno'r Maer Ddydd Gwener 9 Mai 2014.
Ystyriwyd: “Morlan” Dydd Sadwrn 10 Mai 2014.
Neuadd Goffa ac Eglwys Santes Anne Ddydd Gwener 9 Mai. (Rhaid gwirio Trwydded Yfed). Neuadd Goffa yn costio £12.00 yr awr, nid yw cost Santes Anne yn hysbys ar hyn o bryd. Neuadd Goffa ar gyfer Cyflwyno'r Maer. Y Cyng. Brenda Haines i wirio a yw'R Drindod Sanctaidd ar gael ar gyfer Gwasanaeth y Sul y Maer ar 11 Mai a hefyd gofyn a fyddai'n bosibl i'w Chaplan gynnal y gwasanaeth.
Gorymdaith y Maer 10 Mai 2014. Awgrymwyd y gallai'r swyddfa fod yn gyfrifol am y trefnu.
*Llythyr gan Mr Allan Lewis yn ymwneud â Marchnad y Ffermwyr yn nodi bod angen datrysiad i gynnal ac ariannu'r farchnad a'i fod yn edrych ar Gyngor Tref Aberystwyth i ystyried opsiynau. Gofynnodd aelodau bod cyfrifoldebau a goblygiadau ariannol angen eu hystyried cyn symud ymlaen ymhellach.
3 Y Diweddaraf ar Eiddo.
Dywedodd Y Cyng. Ceredig Davies ei fod wedi cyfarfod â Mr Huw Bates y cyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran Cyngor Tref Aberystwyth. Gofynnodd aelodau am eglurhad ar rent blynyddol cynhwysol o £15000.00 a'r Taliadau Gwasanaeth. Roedd angen eglurhad hefyd ynglŷn â phwy ddylai lofnodi'r brydles ar ran y cyngor wrth gwblhau'r trosglwyddiad.
4 Y Diweddaraf ar Randiroedd.
Mewn cyfarfod diweddar rhwng Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion ac aelod dirprwyedig o Gyngor Tref Aberystwyth i ail-werthuso’r prosiect rhandiroedd, cytunwyd y dylai'r fenter gael ei galw o hyn ymlaen yn “Gerddi Frondeg” gyda'r potensial i blannu ym mis Chwefror 2015. Rhaid gweithredu "memo dealltwriaeth" ac argymhellwyd y dylai Adran Gyfreithiol y Brifysgol ymgymryd â'r dasg hon. Roedd angen ffi sefydlu o £45.000 gyda chyfraniad yn cael ei awgrymu o £15.000 gan Gyngor Tref Aberystwyth. Deallwyd y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal cyfarfod gyda deiliaid Rhandiroedd Minyddol i'w hysbysu o'r adroddiad pridd yn ymwneud â'u plotiau priodol. Argymhellwyd ymhellach y dylid gwahodd Cyngor Cymuned Faenor i benodi dau gynghorydd i'w cynrychioli er mwyn eu cadw yn gwbl hysbys o gynnydd y fenter hon ar y cyd.
5 Muga ac Adizone Minyddol.
Ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud ar y mater hwn. Awgrymwyd felly y dylid galw cyfarfod gyda holl ddefnyddwyr y cyfleusterau hyn.
6 Parc Bwrdd Sgrialu.
Roedd dadansoddiad pridd o'r ardal wedi profi'n dda a fyddai'n isafu ar y costau cynnal a chadw. Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal Ddydd Mawrth 11 Chwefror gydag aelodau perthnasol a'r contractwr a benodir i gynnal y gwaith gosod.
7 Baneri Stryd.
Roedd pryderon wedi'u mynegi am "Yswiriant" ar gyfer baneri o'r fath. Hysbyswyd aelodau cyhyd â bod gwifrau catena yn ddigonol yna gellid codi'r baneri. Serch hynny, byddai angen cynnal asesiad risg yn flynyddol i sicrhau sicrwydd yswiriant digonol.
8 Parc Ffordd y Gogledd.
Hysbyswyd aelodau bod canghennau coed wedi torri i ffwrdd naill ai o ganlyniad i fandaliaeth neu o ganlyniad i'r stormydd diweddar. Nododd Y Cyng. Ceredig Davies ei fod yn barod i dorri'r canghennau a oedd wedi cwympo hyd nes y byddant yn gallu cael eu symud. Gofynnwyd i'r Cyng. Aled Davies ymchwilio i ddarparu arwydd ar gyfer y parc.
9 Goleuadau ar y Promenâd.
Gallai newid y Goleuadau Addurn o bosibl gael ei wneud fel rhan o'r ariannu sydd ar gael ar ôl difrod y storm. Gofynnwyd i dri chwmni goleuadau roi tendrau anffurfiol ar gyfer y cynllun goleuadau. Diolchodd aelodau i'r Cyng. Ceredig Davies am yr holl waith caled yr oedd wedi'i wneud ar y mater hwn.
10 Baner y Promenâd.
Roedd angen tynnu i lawr a newid y faner gyfredol ar Diroedd y Castell a chynigiodd y Cynghorwyr Aled Davies a Martin Shewring i ymchwilio. Hysbysodd Y Cyng. Mair Benjamin yr aelodau bod ganddi faner newydd.
11 Materion sy'n weddill.
(a) Parêd Gŵyl Dewi. Nodwyd y byddai'r Maer yn derbyn gwahoddiad gan y trefnwyr i gymryd rhan yn y parêd.
(b) Dodrefn Swyddfa. Penderfynwyd na ddylid gwneud unrhyw gynnydd pellach hyd nes y byddai'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau a'r eiddo wedi'i drosglwyddo i'r cyngor.
(c) Ras Feicio 23/25 Mai 2014. Hysbyswyd aelodau bod cyfarfod ar 5 Chwefror gydag aelodau'r Brifysgol a beicwyr Aberystwyth wedi cadarnhau y byddai'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Mai 2014. Argymhellodd Y Cyng. Ceredig Davies bod Cyngor Tref Aberystwyth yn manteisio'n llawn ar y cyhoeddusrwydd a'r deunydd cyhoeddusrwydd a fyddai'n cael ei gynhyrchu ar gyfer y digwyddiad er budd y dref.
(d) Gefeillio. Atgoffaodd y Maer yr aelodau a oedd yn bresennol o'r Digwyddiad Gefeillio sy'n cael ei gynnal yn y Morlan Ddydd Sadwrn 22 Mawrth.
(e) Llinellau Melyn. Atgoffwyd aelodau i gyflwyno'u hargymelliadau ar gyfer gweithredu Llinellau Melyn.
Cywiriad i'r Cofnodion: Parêd y Maer i'w gynnal ar 11 Mai ac nid 10 Mai 2014.
Y Diweddaraf: Defod urddo yn Neuadd Santes Anne. Derbyniad yn y Neuadd Goffa.
Parêd: Bydd yn dechrau o Ganolfan Alun R. Edwards (Hen Neuadd y Dref) am 10.15am i Eglwys Sam Mihangel. Y Cyng. Ceredig Davies i drefnu.
Y Diweddaraf ar Brydles: Yn aros am y diweddaraf gan y landlord sydd wedi derbyn copi diwygiedig. Trafodwyd cael gwared ar y rhanwyr ystafell. Y Cyng. Ceredig Davies i roi'r diweddaraf i aelodau.
Rhandiroedd: Ceredigion i ysgrifennu at Gynghorau Faenor, Aberystwyth a Llanbadarn er mwyn i gynrychiolwyr eistedd ar y Grŵp Rheoli Rhandiroedd newydd. Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ym Minyddol ar 5 Mawrth 2014.
Baneri Stryd: *Problemau oherwydd nad oes gwifren catena o'r Dolphin oherwydd ailddatblygiad.
*Angen system at pan fydd y baneri yn cael eu codi.
*Y Cyng. Mair Benjamin i adrodd yn ôl ar ba un a oedd Masnachwyr y Farchnad eisiau prynu baner. Byddai'r cyngor wedyn yn canfod lleoliad dichonadwy iddi.
*Dywedodd Y Cyng. Ceredig Davies bod angen cais ffurfiol gan y Masnachwyr Marchnad.
*Yr eitemau baner blaenorol i'w cynnwys yn agenda nesaf y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Goleuadau Addurn: Roedd cais wedi'i gyflwyno i Steffan Roberts o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Baner: Y Cyng. Martin Shewring i godi baner cyn Dydd Gŵyl Dewi. Angen sicrhau bod y baneri yn gadarn.
Ras Feicio: Ariannu pellach wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn y swyddfa ar 5 Mawrth i drefnu graddfa amser/ariannu.
Cofnod 158: Cofnodion Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2014.
COFNODION Y PWYLLGOR CYLLID A SEFYDLIAD A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD LLUN 17 CHWEFROR 2014 AM 6.30pm.
Yn bresennol:
Y Cyng. Mererid Jones
Y Cyng. Mair Benjamin
Y Cyng. Ceredig Davies
Y Cyng. Wendy Morris – Twiddy
Y Cyng. J.A.Davies
Y Cyng. Endaf Edwards
Y Cyng. Brian Davies
Y Cyng. Dylan Lewis
Y Cyng. Alun Williams
Y Cyng. Kevin Roy Price
Ymddiheuriadau:
Y Cyng. Brenda Haines
Y Cyng. Mark Strong
1 Datgan Diddordeb.
Ni chafwyd datganiadau o ddiddordeb.
2 Gohebiaeth.
(a) Llythyr gan Un Llais Cymru yn gwahodd y Cyngor Tref i adnewyddu'i haelodaeth ar gost o
£1,450.00. Penderfynodd aelodau wahodd cynrychiolydd o Un Llais Cymru i fynychu cyfarfod i drafod y gwasanaethau y maen nhw'n gallu eu darparu.
(b) Llythyr gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn gofyn am gyfraniad tuag at y sefydliad. Penderfynwyd eu gwahodd i wneud cais gan ddefnyddio ffurflen gais y Cyngor Tref.
(c) Gohebiaeth gan Arad Goch yn gofyn am gefnogaeth i'w digwyddiad "Drysau Agored". Penderfynwyd cefnogi mewn egwyddor o bosibl trwy gyfrannu at gost bwffe yn ystod y digwyddiad cau ond roedd angen rhagor o wybodaeth. Y Maer i drafod gydag Arad Goch.
(d) Gohebiaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am gadarnhad i barhau i reoli cyflogres y Cyngor Tref. Penderfynodd Aelodau i barhau â'r trefniant hwn sy'n bodoli ers amser maith.
(e) Ffurflenni wedi'u derbyn gan y Gronfa Loteri Fawr er mwyn tynnu £21,000 i lawr fel rhan o'r cais Parc Bwrdd Sgrialu.
3 Adolygu Cyfrifon ar gyfer mis Ionawr 2014.
Roedd tanwariant ar nifer o benawdau cyllideb ond roedd rhai eitemau dros ben o hyd. Gwnaed cais am ragor o wybodaeth ar Gynlluniau Partneriaeth oherwydd bod peth amwysedd a oedd modd eu cyflwyno, yn enwedig materion yn ymwneud â CCTV.
Derbyniwyd cyfrifon.
4 Cwestiynau ar Faterion Ariannol.
Ni chafwyd cwestiynau ar faterion ariannol nad oeddynt wedi'u trafod yn llawn o dan eitemau agenda blaenorol.
5 Materion wedi'u Cyfeirio.
(a) Goleuadau Addurn y Promenâd : Bwrw ymlaen â'r prosiect yn amodol ar gyfraniad ariannol ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion.
(b) “Prosiect Gerddi Frondeg” ar hyd Ffordd Clarach: Mae'r prosiect yn dal i gael ei symud ymlaen, o bosibl wrth ehangu nifer y partneriaid sy'n gysylltiedig. Rhoddwyd pwyslais ar yr angen i sefydlu modiwl rheoli cryf o'r dechrau.
(c) Menter Aberystwyth: byddai cynrychiolwyr o Fenter Aberystwyth yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod gyda Chyngor Tref er mwyn trafod materion o ddiddordeb ar y cyd. Gallai'r cyfarfod gyda'r cyngor naill ai fod yn un gyda'r Cyngor Llawn neu bwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
6 Rhagamcaniadau at ddiwedd Mawrth 2014.
Ni chafwyd trafodaeth ar y mater hwn ac fe'i hoedwyd hyd at y cyfarfod nesaf.
7 Marchnata a Brandio'r Dref.
Pwysleisiodd Y Cyng. Kevin Price yr angen i gael brand a delwedd gyson ar gyfer y Cyngor Tref, yr angen i gael hunaniaeth gorfforaethol cyfarwydd. Dirprwywyd Y Cyng. Kevin Price i ehangu ar y cysyniad a gofynnwyd i'r holl gynghorwyr roi eu mewnbwn.
8 Adolygiad Blynyddol o'r Rheolau Ariannol.
Ar ôl adolygu'r rheoliadau ariannol penderfynwyd eu diwygio yn y modd a ganlyn:
Bydd yr holl gyfeiriadau at Swyddog Ariannol Cyfrifol yn cyfeirio materion at y Clerc yn cael eu diwygio i Swyddog Ariannol Cyfrifol yn cyfeirio materion at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Pwynt 3.4 Dileu'r gair "eithafol"
Pwynt 3.4 Gostwng cyfyngiad y gwariant o £500 i £200.
Pwynt 3.4 Diwygio “Bydd y Clerc yn adrodd y weithred wrth y cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl hynny” i “Bydd y Clerc yn adrodd y weithred ar unwaith wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Pwynt 11.1 (b) (f) Diwygio “un aelod o'r cyngor” i “ddau aelod o'r cyngor”
Pwynt 15.1 Diwygio “mewn ymgynghoriad â'r Clerc” i “mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd Cyllid”
Pwynt 18.1 Diwygio “o bryd i'w gilydd” i “yn flynyddol neu ar unrhyw amser er mwyn bodloni gofynion statudol”
9 Adolygu amserlen polisïau.
Penderfynwyd bod angen adolygu holl bolisïau'r cyngor erbyn 1 Medi 2014 a byddai'r gwaith yn cael ei wneud gan y pwyllgor priodol neu'r cyngor. Cytunwyd ar raglen waith o ddau bolisi i'w hadolygu bob mis fesul pwyllgor.
Cyflwynwyd rhestr o bolisïau i'r pwyllgor a phenderfynwyd eu dyrannu yn y drefn a ganlyn.
Panel Staffio; Rhif Polisi 1, 4, 11, 14, 15, 16, 17, 20, 21, 22.
Pwyllgor Cyllid; Rhif Polisi 2
Rheolaeth Gyffredinol; Rhif Polisi 3, 6, 7, 8, 12, 13, 18, 19.
Cyngor Llawn; Rhif Polisi 5, 9, 10, 23, 24, 25.
2 (a): Dylai ddweud £1,405 nid £1,450. Nid yw Un Llais Cymru ar gael ar gyfer cyfarfod Cyllid ym mis Mawrth. Cyfarfod 5pm i'w ystyried.
5 (c): Menter Aberystwyth yn hapus i fynychu cyfarfod Rheolaeth Gyffredinol ar 10 Mawrth.
9: Cywiro sillafu yn y Saesneg - “Review” ac nid “Revue”
Cofnod 159: Ceisiadau Cynllunio.
“A 140061” Arddangos arwydd - Monsoon, Y Stryd Fawr, Aberystwyth. Newid enw i “Monsoon Accessories”. Ni fydd yr arwydd yn cael ei oleuo. Bydd blaen y siop gyfredol yn cael ei gadw.
Dim gwrthwynebiad. Arwyddion dwyieithog i'w darparu ble fo'n berthnasol. Fe wnaeth Y Cyng. Ceredig Davies ymatal rhag pleidleisio.
Cofnod 160: Gohebiaeth.
Gala Lights: Ad-daliad o £1,944.00 i'r cyngor am flychau “Torri Allan" (break – out) nad ydynt wedi'u gosod.
Cau Ffordd: Hysbysiad.
Cynhadledd Chwarae - 24/3/14: Gwahoddiad Ray Ceredigion i'r holl gynghorwyr.
Parêd Gŵyl Dewi – 1/3/14: Cwrdd am 12 hanner dydd ym Mercher y Wawr.
1.00pm yng Nghloc y Dref. Anfon e-bost at yr holl gynghorwyr. Un Llais Cymru: Cyrsiau hyfforddi ar gael i'r holl gynghorwyr.
Cymorth i Ddioddefwyr: Yn gofyn am gyfraniad. Llythyr wedi'i anfon yn gofyn am gais ym mis Ebrill.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant: Yn gofyn am gyfraniad.
Cymdeithas Celfyddydau Ceredigion: Nid yw'r amgueddfa ar gael yn y flwyddyn gyfredol. Yn gofyn am “Gas Showrooms” a fydd ar gael yn ôl Cyng. Alun Williams. Gofyn i Geredigion am leoliadau gwag, e.e. Boots. Hefyd i ysgrifennu at Elaine yn awgrymu'r adran Datblygiad Economaidd.
Un Llais Cymru: Yn gofyn am straeon cadarnhaol o brofiadau'r cyngor gydag Un Llais Cymru.
Dathliad Diwrnod Cymdogaeth.
Trevor Purt (Hywel Dda): Ymateb i lythyr Simon Thomas.
Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr: Mae cais am VC eisoes wedi'i godi ar gyfer Lewis Evans. Awgrymu ysgrifennu at yr ŵyr yn esbonio bod cofeb ddilys i'w chael.
Cynhadledd Un Llais Cymru: Y dyddiad ar gyfer cynigion yw erbyn 17 Ebrill 2014. Cynhadledd ar 4/10/14. Y Cyng. Mererid Jones i fynychu.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cynghrair Cymunedau Cymraeg: 1 Mawrth 2014 rhwng 10.00am a 3.30pm. Cyng. Jeff Smith yn methu mynychu. Cyng. Mark Strong i ddirprwyo.
Datblygiad Tabernacl: Llythyr gan Neil Taylor yn gwrthwynebu'r datblygiad. Nodwyd mai copi oedd hwn a chan hynny dim ond ei gydnabod sydd ei angen.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda 1/2/14: Llythyr gan Mark Drakeford yn datgan bod adolygiad yn cael ei gynnal i bennu cylch gwaith. Datganodd Cyng. Alun Williams ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod. Nododd Cyng. Ceredig Davies mai dim ond cyfeirio'n yn ôl at Fwrdd Iechyd Hywel Dda y mae Mark Drakeford. Datganodd Cyng. Martin Shewring bod angen tystiolaeth i bennu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb. Ysgrifennu yn ôl at Mark Drakeford yn datgan siom y cyngor gyda'i ymateb. Rhaid nodi nad yw Hywel Dda yn atebol i unrhyw un.
Walk for Life. 27 Ebrill 2014: Roedd y llythyr yn gofyn i'r cyngor drefnu taith gerdded yn ein hardal leol. Penderfynwyd cyfeirio'r llythyr at bwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Race for Life. 18 Mai 2014: Yn gofyn am hyrwyddo'r digwyddiad trwy'r Cyngor Tref.
Noah’s Ark: Yn gofyn i'r Maer Etholedig ystyried Noah’s Ark yn elusen enwebedig iddi.
Jackie Sharman – Parking Eye: Llythyr i gael ei ysgrifennu yn datgan nad yw'r Cyngor yn gyfrifol am hyn. Copi i'w anfon at Adran Rheoli Traffig a Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion.
Gŵyl Agor Drysau – 1 – 4 Ebrill 2014: Llythyr i'w anfon at y trefnwyr yn gofyn am swm penodol ac yna'i anfon ymlaen at y Pwyllgor Cyllid. Byddai unrhyw gynghorwyr sydd ar gael i helpu gyda'r orymdaith yn cael eu gwerthfawrogi'n ddiolchgar.
Cofnod 161: Cwestiynau yn ymwneud â chylch gwaith y Cyngor.
Cofnod 162: Cyllid.
Datgan diddordeb gan – Cynghorydd Kevin Price, Cynghorydd Jeff Smith a'r Cynghorydd Ceredig Davies.
Penderfynwyd dal sieciau yn ôl ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion ac Anna Bullen hyd nes y byddai rhai materion wedi'u datrys. Serch hynny, yn dilyn trafodaeth penderfynwyd gwneud y taliadau.
Cofnod 163: Adroddiadau ar lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion.
Alun Williams: - Yr Amwythig – Pwyllgor Cyswllt Aberystwyth Ddydd Gwener 28 Chwefror am 11.15am ym Machynlleth.
Adroddiad ESTYN llwyddiannus - Ceredigion yw'r unig ddosbarthiad "RHAGOROL" yng Nghymru.
Mae gwaith atgyweirio yn parhau ar y Promenâd. Bydd y gwaith atgyweirio yn costio £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ynghyd â £400 mil Bwrdd Adfywio Strategol ac Ariannu Twristiaeth. Bydd yn rhaid i Gyngor Sir Ceredigion ariannu diffyg o £0.5 miliwn.
Nid oes Ras Dydd Gŵyl Dewi eleni gan fod Parêd Gŵyl Dewi wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae'r ffocws ar y Parêd.
Ceredig Davies: - Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ceredigion wedi postio hysbysiadau o fynediad Ffordd Glyndŵr yn ymwneud â Datblygiad Dan Dre. Cyfarfod i drafod pryniannau gorfodol yn Ffordd Glyndŵr i'w gynnal ar 11 Mawrth. Teimlodd Cyng. Mair Benjamin y dylai'r mater hwn aros hyd at ar ôl cyfarfod 11/3/14.
Cofnod 164: Adroddiadau ysgrifenedig gan gynrychiolwyr i gyrff allanol.
Masnach Deg Aberystwyth. – Cyng. Mererid Jones.
Un Llais Cymru. – Cyng. Mererid Jones.
Is-bwyllgor Cae Kronberg. – Cyng. Mererid Jones a Chyng. Sue Jones-Davies.
Ardal Adfywio Aberystwyth. – Y Cyng. Alun Williams.
Cwestiynau yn codi o adroddiadau:
Y Cyng. Ceredig Davies: Datblygiad y bandstand. Nodwyd bod y peirianyddion eisiau ailedrych ar y cynlluniau. A wnaeth yr adolygiad ddigwydd cyn Cynllunio?
Y Cyng. Alun Williams: Wedi adolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chafodd ei adrodd wrth gynllunio.
Y Cyng. Mair Benjamin: A oes angen i ni wario cymaint o arian ar adeilad sydd ond yn agored am ran o'r flwyddyn? Mae'n rhaid iddo fod ar agor yn amlach. A oes modd i ni weld yr Adroddiad Strwythurol?
Y Cyng. Alun Williams; Bydd yr adeilad cyfan yn agored trwy gydol y flwyddyn.
Y Cyng. Wendy Morris – Twiddy: Pan fydd y cynllun busnes ar gael bydd gennym ni gyd ddiddordeb yn ei weld.
Y Cyng. Lucy Huws: Pa mor bendant yw'r cynllun?
Y Cyng. Alun Williams: Y cais wedi derbyn caniatâd cynllunio, ond efallai y bydd cyfleoedd i addasu'r cynllun.
Y Cyng. Sarah Bowen: Yn credu y dylai gael ei adael fel y mae, ond rhaid gwneud rhywbeth oherwydd nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml ar hyn o bryd.
Y Cyng. Endaf Edwards: Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu gwrthwynebu gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor Tref ym mis Hydref 2013.
Y Cyng. Brian Davies: Mae ardal y toiledau wedi'i lleihau.
Clwb Pêl-droed Aberystwyth.
Gofynnodd Y Cyng. Mair Benjamin am y diweddaraf.
Datganodd Y Cyng. Mererid Jones ddiddordeb fel aelod o Dai Ceredigion.
Cofnod 165: Penodi Maer Etholedig ar gyfer y Flwyddyn Faerol 2014-15.
Cynigiodd Y Cyng. Ceredig Davies Y Cyng. Brenda Haines
Fe wnaeth Y Cyng. Sue Jones-Davies eilio'r cynnig hwn.
Cefnogodd 13 aelod y cynnig.
1 (un) ymataliad.
Cofnod 166: Penodi Dirprwy Faer Etholedig ar gyfer y Flwyddyn Faerol 2014-15.
Cynigiodd Y Cyng. Brian Davies Y Cyng. Endaf Edwards.
Fe wnaeth Y Cyng. Brendan Somers eilio'r cynnig.
Cynigiodd Y Cyng. Martin Shewring Y Cyng. Martin Shewring.
Pleidleisiodd 14 aelod o blaid Y Cyng. Endaf Edwards.
Cofnod 167: Darpariaeth CCTV yn Aberystwyth.
Cyngor Sir Ceredigion yn tynnu £150 mil o gefnogaeth yn ôl ar gyfer y ddarpariaeth a fydd yn gorffen ar ddiwedd mis Mawrth 2014.
8 Camera................................................. £5,716.00 y flwyddyn.
£5,000.00 cyswllt rhwydwaith
£13,000.00 cyswllt cynnal a chadw.
Cyfraniad Cyngor Tref Aberystwyth y flwyddyn £11,716.00
Pryderon:
- Dim cyfleuster monitro – Bydd y camerâu yn gyfeiriadol h.y. yn cael eu recordio yn gyson fel bod yr heddlu yn gallu'u defnyddio fel offeryn.
- Mae CCTV yn offeryn cryf ar gyfer gostwng trosedd
- Mae angen CCTV er mwyn cadw'r Faner Borffor.
- Dim staff i oruchwylio monitro'r camerâu.
- Anfon llythyr at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn mynegi siom nad yw'n darparu unrhyw ariannu.
- A allai Cyngor Tref Aberystwyth ofyn i'r Brifysgol am gyfraniad ac i gynorthwyo gyda'r Drwydded?
Awgrymodd Y Cyng. Mair Benjamin y dylid ysgrifennu at y Siambr Fasnach a Chlwb Busnes Aberystwyth yn gofyn am ariannu cyfatebol
Awgrymodd Y Cyng. Jeff Smith y dylai'r cyngor ganfod faint o fusnesau sydd â'u cyfleusterau CCTV eu hunain.
Awgrymodd Y Cyng. Lucy Huws gymhariaeth rhwng cost heddwas ar y stryd a chost CCTV. Dylid ei gynnwys yn y llythyr at y Comisiynydd Heddlu.
Gofynnodd Y Cyng. Brian Davies a fyddai Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron yn barod i gyfrannu traean o gost y cyswllt rhwydwaith a chynnal a chadw.
(Mae Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron wedi cytuno. Serch hynny, mae Tregaron a Chei Newydd wedi tynnu yn ôl o'r cynllun).
Nododd Y Cyng. Ceredig Davies bod CCTV yn amddiffyn busnesau a phobl sy'n dod i'r ardal. Mae'n annheg ein bod yn talu am hyn. A yw'r CCTV wedi gostwng nifer yr heddlu ar y stryd? Dylid canfod datrysiad ar draws y sir i broblem ehangach.
Gofynnodd Y Cyng. Kevin Roy Price sut y mae cyswllt rhwydwaith â Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron yn gweithio? A yw'n deg bod yn rhaid i ni dalu am y ceblau?
Gofynnodd Y Cyng. Endaf Edwards pam nad oedd Aberteifi wedi'i gynnwys yn y cyfrifiadau? Fe allent fod yn “Conservative Cashmates” Nid ydym am ddychwelyd i'r cynllun gwreiddiol o dalu yn unol â'r cynllun blaenorol.
Cytunwyd ysgrifennu at grwpiau ar unwaith a'i gyfeirio at y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.
Cofnod 168: Materion Staffio.
Roedd hon yn eitem eithriedig a chan hynny penderfynodd aelodau i fynd i'r pwyllgor yn unol â'r weithdrefn gyfreithiol.