Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
Ymgynghoriad: Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth)(Gorchymyn Diwygiedig Rhif 11) 2024
Tra bod Cyngor Tref Aberystwyth yn gefnogol mewn egwyddor i wella’r promenâd ac yn gefnogol i raglenni teithio llesol, mae’n gwrthwynebu’n gryf bod rhain at y gost o barcio. Byddem yn tynnu sylw at y materion a ganlyn gyda’r cynnig:
- Ystyrir parcio yn gyson yn un o'r materion pwysicaf i drigolion lleol, cymudwyr, ymwelwyr a busnesau.
- Bydd y bwriad hwn yn arwain at golli tua 40-60 o lefydd parcio
- Ni chynigir ateb amgen i'r golled hon o leoedd parcio
- Mae cymudwyr yn gyfran fawr o economi waith Aberystwyth – mae llawer o bobl sy’n gweithio yn Aberystwyth yn byw yn y trefi/pentrefi cyfagos heb drafnidiaeth gyhoeddus digonol ac felly’n gorfod gyrru, a pharcio, yn y dref. Mae’n rhaid i bobl yrru a pharcio yn y dref am lawer o resymau eraill hefyd, fel natur eu gwaith (gofalwyr sy’n gwasanaethu llawer o drefi a phentrefi ac ati)
- Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn annigonol. Nid yw'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Aberystwyth a'r ardaloedd cyfagos yn ddigonol ar hyn o bryd a bydd angen gwelliant a buddsoddiad sylweddol cyn y gallai'r ardal gynnal colled parcio sylweddol.
- Mae parcio ar hyd promenâd y De yn cael ei ddefnyddio’n bennaf gan drigolion lleol – o’r South Marine Terrace a strydoedd cul, cyfagos fel Sea View Place, Prospect Street, Custom House Street ac ati. Bydd y golled hon o leoedd parcio yn gwaethygu'r broblem hon, gan wthio'r pwysau ar ardaloedd newydd; bydd strydoedd ymhellach i ffwrdd yn dechrau dioddef o'r un problemau.
- Rhaid ystyried parcio i drigolion. Mae llawer o gefnogaeth eisoes i system trwydded barcio am ddim/fforddiadwy i breswylwyr; gellid gwneud defnydd o feysydd parcio Cyngor Sir Ceredigion, fel yng Nghanolfan Rheidol.
- Byddem yn annog hyn i gael ei ystyried fel rhan o adolygiad ehangach o barcio yn Aberystwyth yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys ymgynghori â Phrifysgol Aberystwyth fel rhan o hyn – pe bai defnyddwyr y brifysgol (myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ac ati) yn cael cynnig parcio yn campws y brifysgol, byddai'n arwain at lawer llai o geir yn parcio yng nghanol y dref. Gallai hyn hefyd gefnogi agendâu teithio llesol, gan y byddai’n annog pobl i gerdded/beicio i’r brifysgol ac yn ôl yn amlach.
- O ystyried bod arian UKSPF yn ariannu'r prosiect hwn, y mae'n rhaid ei wario erbyn mis Mawrth 2025, mae'n llawer rhy hwyr yn y dydd i ymgynghori ar gynigion. Mae hyn yn siomedig iawn, ac mae’n ymddangos fel pe bai penderfyniadau eisoes wedi’u gwneud waeth beth fo canlyniad yr ymgynghoriad.
- Teimlwn y gallai'r cyllid hwn gael ei wario'n well yn rhywle arall. Bydd tagfeydd bob amser yn amharu ar feicio a theithio llesol ar y promenâd; mae sefydliadau fel y Hut a’r Pier yn creu tagfeydd dynol, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf pan fyddai’n fwyaf dymunol defnyddio’r promenâd ar gyfer beicio neu ddulliau eraill o deithio llesol.
- Gallai'r gwaith hwn gael ei ddadwneud gan waith amddiffyn rhag y môr; Mae gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru waith amddiffyn rhag y môr wedi'i gynllunio ar gyfer Aberystwyth, felly rhaid edrych ar hyn mewn partneriaeth i sicrhau'r ateb mwyaf hirhoedledd.