Aberystwyth Council

Nodiadau'r Cyngor:

  • Ei ddatganiad diweddar yn cefnogi Aberystwyth fel tref heb gasineb.
  • Bod digwyddiadau diweddar wedi dod yn flaenllaw yn ymwybyddiaeth y cyhoedd y gwahaniaethu y mae llawer o bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn ei wynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
  • Y rhagfarnau llwm a all wynebu pobl Ddu ar lefel fyd-eang a lleol.
  • Bod gan Aberystwyth, fel llawer o drefi hanesyddol, hanes hiliol i ymgiprys ag ef a'i gydnabod.

 

Cred y Cyngor:

  1. Bod digwyddiadau diweddar ledled y byd, o lofruddiaeth George Floyd at farwolaeth Bol Mujinga, wedi profi unwaith eto yr angen am welliant mewn cydraddoldeb hiliol.
  2. Ei fod yn bwysig dangos cydymdeimlad â'r ffordd y gall achosion mynych o drais ac anghyfiawnder yn erbyn pobl Ddu - sy'n aml yn cynnwys lluniau fideo graffig - fod yn drawmatig ac yn draenio unigolion Duon ledled y byd.
  3. Mai cyfrifoldeb pawb yw cydnabod yr angen am ofal yn ogystal â siarad allan yn erbyn anghyfiawnder, ond ei bod yn ddwywaith mor bwysig i gyrff democrataidd megis y Cyngor Tref.
  4. Bod Bywydau Du yn Bwysig.

 

 

Felly mae Cyngor Tref Aberystwyth yn galw am:

 

  1. Mynegiad o undod gyda, a chefnogaeth ar gyfer, mynd ar drywydd cyfiawnder a thegwch byd-eang a ddilynir gan fudiad Black Lives Matter.
  2. Pleidlais o ddiolch i drefnwyr protest Black Lives Matter Aberystwyth (4 Mehefin).
  3. Pleidlais o ddiolch am y gwaith a wnaed gan Diverse Cymru, sy'n darparu cefnogaeth, gwasanaethau a chyngor i bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.
  4. Ben Lake AS i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i atal ar unwaith werthu unrhyw fwledi rwber, ataliadau, tazers, a gêr terfysg eraill, ynghyd â mecanweithiau i wneud offer terfysg, i UDA
  5. Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwaith grŵp cynghori iechyd BAME Covid-19 Cymru.

 

 

Mae Cyngor Tref Aberystwyth hefyd yn penderfynu:

 

  1. Annog sefydliadau lleol i godi ymwybyddiaeth trwy arddangosfeydd ac adnoddau addysgol yn seiliedig ar hanes lleol a Chymru.
  2. Gweithredu ar unwaith mewn ymateb i unrhyw graffiti hiliol.

 

 

 

Cyng Nia Edwards-Behi

Ward y Gogledd