Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyngor Llawn
Full Council
- 2.2020
CYNNIG – MOTION
|
Yn datgan bod Aberystwyth yn ‘Dref Ddi-gasineb’.
O ystyried yr amgylchedd gwleidyddol ar ôl Brexit yr ydym yn byw ynddo bellach, mae'n fwy hanfodol nag erioed ailddatgan enw da, balch a hirsefydlog Aberystwyth fel tref oddefgar, gynhwysol, aml-ethnig ac amlwladol sy'n groesawgar i bawb sy'n dewis byw yma, waeth beth fo'u cefndir, ethnigrwydd na chenedligrwydd. Mewn ymateb i amrywiaeth o ddigwyddiadau a phryderon yn ymwneud â chasineb a ddygwyd ein sylw, ac i gefnogi gwaith Cymorth i Ddioddefwyr ac asiantaethau cysylltiedig eraill wrth fynd i’r afael â gweithgareddau ac ymddygiad sy’n gysylltiedig â chasineb, mae’n briodol ein bod ni fel Cyngor Tref yn cadarnhau ein gwerthoedd a'n hegwyddorion sylfaenol trwy ddatgan yn swyddogol fod Aberystwyth yn 'Def Ddi-gasineb'.
Wrth wneud hyn rydym yn datgan ac yn cadarnhau tref Aberystwyth fel un agored a chroesawgar i bawb; waeth beth fo'u hil, ethnigrwydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, cenedligrwydd, iaith, crefydd, anabledd neu unrhyw ffactor cyffredinol arall sy'n ein nodi ni i gyd yn unigryw. Nid oes lle yma i gasineb na gwahaniaethu, na'r rhai sy'n dymuno parhau casineb a gwhaniaethu ar unrhyw ffurf bendant; naill ai trwy ymddygiad personol uniongyrchol, gweithgareddau ar-lein, neu trwy werthu a dosbarthu nwyddau sy'n gysylltiedig â chasineb a gwahaniaethu.
Er mwyn hyrwyddo nod ac amcanion y datganiad yma gyda chefnogaeth ymarferol, mae'r cynnig hwn hefyd yn cynnig bod y Cyngor Tref yn hwyluso ac yn sefydlu grŵp rhwydweithio cydraddoldeb ac amrywiaeth, a fyddai'n cwrdd yn rheolaidd i hyrwyddo gwaith partneriaeth traws-sector wrth fynd i'r afael â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chasineb a gwahaniaethu ac achosion casineb a gwahaniaethu. Byddai'r grŵp hwn yn dwyn yr holl sefydliadau sydd â diddordeb gweithredol mewn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a goddefgarwch ynghyd er mwyn galluogi rhannu gwybodaeth, arfer gorau a gweithio mewn partneriaeth i frwydro yn erbyn pob math o anoddefgarwch yn ein tref a'n cymuned ehangach.
Declaring Aberystwyth a ‘Hate Free Town’.
Given the post-Brexit political environment within which we now reside, it is more imperative than ever to reassert the proud and long-standing reputation of Aberystwyth as a tolerant, inclusive, multi-ethnic and multinational town that is welcoming to all who choose to live here, regardless of background, ethnicity or nationality. In response to a variety of hate related incidents and concerns that have been brought to our attention, and in support of the work of Victim Support and other associated agencies in tackling hate related activities and behaviour, it is appropriate that as a town council that we affirm our underlying values and principles by officially declaring Aberystwyth as a ‘Hate Free Town’.
In so doing we declare and reaffirm the town of Aberystwyth as open and welcoming to all; regardless of race, ethnicity, gender, sexual orientation, nationality, language, religion, disability or any other prevailing factor that identifies us all as unique. There is no place here for hate and discrimination, nor those who wish to perpetuate hate and discrimination in any tangible form; either by direct personal conduct, activities online, or by the sale and distribution of hate and discrimination related merchandise.
To further the aim and objectives of this declaration with practical support, this motion also proposes that the Town Council facilitates and establishes an equalities and diversity networking group, that would meet on a regular basis to promote cross-sector partnership work in tackling both hate and discrimination related activities and the causes of hate and discrimination. This group would bring together around one table all organisations with an active interest in promoting equality, diversity and tolerance, to enable the sharing of information, best practice and partnership working to combat all forms of intolerance within our town and wider community.
Cynghorwyr / Cllrs. Dylan Wilson-Lewis & Lucy Huws