Aberystwyth Council

Rhwng 21 Gorffennaf a 5 Awst 2017, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno gŵyl gymunedol ar raddfa fawr yn Aberystwyth – GWYL HEN LINELL BELL. Pythefnos llawn gweithgareddau celfyddydol gwahanol; gigs, gweithdai, perfformiadau… a phopeth yn rhad ac am ddim!

Bydd yr ŵyl yn dathlu diwylliant Ceredigion trwy gyfres o berfformiadau a digwyddiadau celfyddydol cyffrous mewn lleoliadau ar draws y dre; llawer ohonynt yn yr awyr agored.

Bydd Arad Goch yn cydweithio’n agos gyda’r gymuned leol - ysgolion, busnesau, clybiau, cymdeithasau – er mwyn creu’r strafagansa arloesol a chynhwysol. Bydd pob gweithgaredd dros y bythefnos yn gyfan ynddi’i hunan, gan alluogi’r gynulleidfa leol ac ymwelwyr i fwynhau profiadau unigol, tra ar yr un pryd eu hannog i ddychwelyd i weld y gweithgareddau eraill.

       Un o brif fwriadau’r ŵyl, sydd wedi’i ysbrydoli straeon yr ardal, gan gynnwys stori Cantre’r Gwaelod, ac sydd hefyd yn cyd-fynd â Blwyddyn y Chwedlau Croeso Cymru, yw dod â phobl o wahanol ddiddordebau at ei gilydd.

       Mae’r cyfan yn cychwyn gyda Gig agoriadol yr wyl – Omaloma, HMS Morris a R Seiliog ar yr 21ain o Orffennaf yn y Bandstand, Aberystwyth am 7yh. Yna, fe fydd pythefnos llawn o weithgareddareddau celfyddydol o bob math. Gweithdai, perfformiadau, adrodd stroiau, mwy o Gigs… a’r pythefnos yn dod i ben gydag uchafbwynt yr wyl – Gwledd enfawr ar y promenâd yn Aberystwyth! I weld rhaglen lawr yr wyl, sydd yn cynnwys dros 60 o ddigwyddiadau, ewch i www.henlinellbell.cymru.

Dywedodd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, “Ein nod yw gweld Aberystwyth yn trawsnewid yn galeidosgop o liw ac yn grochan o greadigrwydd yn ystod yr haf. Dewch i ymuno yn y bwrlwm!”