Brand Newydd i'r Sir
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu brand newydd i'r Sir ac maent wedi cyhoeddi'r ddogfen ganlynol amdano.
-
Y weledigaeth
Ysbrydoli’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a staff i newid eu hymddygiad a’u hannog i weithredu mewn modd sy’n fanteisiol iddynt hwy a Cheredigion
-
Achos Busnes
Mae’r hinsawdd economaidd yn anodd iawn ac y mae angen i Gyngor Sir Ceredigion anelu at arbed o £8.6 m eleni, sy’n golygu y bydd angen iddo gael gafael ar arbedion ychwanegol sylweddol, gan hefyd newid y ffordd mae’n gweithio.
Datblygwyd Caru Ceredigion gan Gyngor Sir Ceredigion i ysbrydoli ymhellach y cyhoedd, busnesau, sefydliadau a staff i newid eu hymddygiad a’u hannog i weithredu mewn modd sydd o fudd iddynt hwy ac i Geredigion.
Bydd Caru Ceredigion yn adeiladu ar waith a wnaed yn flaenorol, a bydd yn darparu cyfle i gynyddu ei bresenoldeb a’i ddefnydd pellach.
Bydd Caru Ceredigion yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Gwella Cyngor Sir Ceredigion, yn bennaf drwy gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau/ amcanion canlynol:
- Mae’r Cyngor Sir yn sefydliad sy’n addas at ei bwrpas er mwyn cyflwyno gwasanaethau sy’n cyflawni anghenion ein dinasyddion
- Bydd Ceredigion yn darparu gwasanaethau fydd yn cyfrannu at amgylchedd iach, bywydau iachach a diogelu’r rheiny sy’n agored i niwed yn y Sir
Aliniwyd Caru Ceredigion hefyd â nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (WFGA):
- Cymru ffyniannus
- Cymru sy’n medru gwrthsefyll problemau
- Cymru iachach
- Cymru mwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru sy’n cynnwys diwylliant bywiog ac Iaith Gymraeg sy’n ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang
Bydd hefyd yn adlewyrchu’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a glustnodwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Maent fel a ganlyn: Maent fel a ganlyn:
- Tymor Hir – Pwysigrwydd o sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu’r gallu i hefyd gyflawni anghenion tymor hir.
- Arbed - Sut y bydd gweithredu er mwyn arbed problemau neu arbed problemau rhag gwaethygu ac o bosib yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
- Integreiddio - Ystyried sut y gall amcanion lles cyrff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau lles, ar amcanion eraill, neu ar yr amcanion ar gyfer cyrff cyhoeddus.
- Cydweithredu - Gweithredu ar y cyd ag unrhyw berson arall (neu gwahanol rannau o’r corff ei hun) a all gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion lles.
- Cynhwysiant – Pwysigrwydd cynnwys pobl gyda buddiant mewn cyflawni nodau llesiant, a sicrhau y bydd y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal lle mae’r corff yn gwasanaethu.
Bu i gynllun Caru Ceredigion gael ei gytuno a’i fabwysiadu gan y Bwrdd Gwasanaeth Lleol a elwir bellach yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
-
Beth hoffem ei gyflawni:
Ysbrydoli’r cyhoedd i wneud gwahaniaeth drwy :
- Gymryd rhan gweithredol a phositif.
- Meddu ar ddisgwyliadau realistig.
- Annog pob cenhedlaeth i gymryd rhan - mi all bawb wneud rhywbeth.
- Gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn amgylchedd iach i fyw ynddo a hyrwyddo byw’n gynaliadwy.
- Datblygu perthnasau newydd a gwella perthynas gyda rhanddeiliaid allweddol megis byrddau iechyd lleol, sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau partner a pherchnogion tir.
-
Sut byddwn yn gwneud hyn – dweud ein stori:
- Rydym am ysbrydoli ac apelio i fwy o bobl yng Ngheredigion er mwyn cysylltu â hwy a sicrhau eu cefnogaeth gyda’r ffordd newydd yma o weithio.
- Rydym yn byw mewn rhan brydferth o Gymru – mae’n lle anhygoel i fyw ynddo. Rydym am i bobl werthfawrogi pa mor lwcus ydynt a sut i gymryd cyfrifoldeb am eu sir a sut maent yn byw ynddi
- Rydym ni i gyd yn gyfrifol am ein dyfodol – drwy weithio gyda’n gilydd, ac mi all unigolion, ysgolion, cymunedau, busnesau, y Cyngor ac elusennau uno ermwyn gwneud Ceredigion yn lle sydd hyd yn oed yn iachach ac yn well lle i fyw ynddo.
-
Strwythur tîm prosiect:
- Atebolrwydd – Gerwyn Jones / Siwan Davies
- Cyfrifoldeb– Dana Thomas / Katy Spain
- Ymgynghori – staff lle mae Caru Ceredigion yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr a’u gwaith
- Hysbysu– staff o fewn y Cyngor/ Cynghorwyr / y Wasg / cyhoedd
-
Ein logo
Lluniwyd y logo er mwyn cynrychioli’r awyr, y môr a’r tir sy’n elfennau allweddol o Geredigion. Arwyddair y Cyngor fydd y brif logo a bydd bob amser yn dod gyntaf ar unrhyw ddogfen neu ohebiaeth. Bydd logo Caru Ceredigion yn gweithio ochr yn ochr â’r Arwyddair.