Aberystwyth Council

Datganiad swyddogol oddi wrth y Cyngor

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod trigolion y dref, a'r rhai sy'n ymweld â hi, yn profi cymuned sy'n ddiogel a chroesawgar.

Mae Aberystwyth yn dathlu amrywiaeth ac nid oes lle yma i hiliaeth, senoffobia, troseddau casineb neu anoddefiad.

Mae Cyngor y Dref yn ymrwymo i wneud i bawb deimlo'n aelod gwerthfawr o'n cymuned gosmopolitaidd a bywiog.