Mae Aberystwyth yn Cefnogi Aelodaeth Barhaol o'r Undeb Ewropeiadd yn Swyddogol
Mae Aberystwyth yn cael elw o'r UE
Gan fod Prydain yn aelod cyfredol o'r Undeb Ewropeiadd a'r holl elw mae hynny'n ei ddwyn, mae Aberystwyth yn elwa yn uniongyrchol o ddegau o filiynau o bunnoedd o wariant ychwanegol. Mae hyn yn digwydd drwy'r trefniannau gyda'r UE sy'n caniatáu i'w bobl deithio i Aberystwyth i astudio ar gyrsiau yn ein prifysgol. Y Brifysgol yw cyflogwr mwyaf Aberystwyth o bell ffordd, sy'n cyflogi miloedd o bobl, ac mae nifer arwyddocaol o bobl sy'n tyfu y mae eu swyddi'n dibynnu ar noddiant o'r UE. Mae'r nifer ychwanegol o fyfyrwyr o wledydd aelod yr UE yn cyfrannu i roi hwb i'n heconomi pan warian nhw arian yn ein siopau, ein caffis a'n bwytai; ond diwylliant yw'r cyfraniad mwyaf sy'n dod gyda nhw. Mae gan ein tref cosmopolitaidd fywyd ffyniannus o gerddoriaeth a dawns, cymuned celfyddydau gweledol bywiog a nifer fawr o gymunedau iaith cyfoethog ac amrywiol gan gynnwys siaradwyr llawer o ieithoedd lleiafrifol. Oherwydd yr Undeb Ewropeiaidd, mae Aberystwyth wedi llwyddo datblygu ei hunan fel canolfan ddiwylliannol fywiog ac allblyg.
Mae Cymru yn cael elw o'r UE
Un union fel y gwelir yn Aberystwyth, gyda manteision y rhyddid i deithio a'r farchnad sengl, mae Cymru gyfan yn elwa'n sylweddol o'r UE drwy swyddi ychwanegol, twristiaeth, y rhyddid i deithio, cyfleoedd addysgol ychwanegol, hawliau dynol a hawliau yn y gweithle. Ni all fod ond yn hwb yn unig i Gymru ac i Brydain Fawr i ddatblygu fel lleoedd allblyg gyda pherthnasoedd da, cedyrn, iach os bydd ein haelodaeth o'r UE a chydweithio â'n cymdogion Ewropeiaidd drwy drafodaeth a chonsensws yn parháu.
Mae Cyngor Aberystwyth yn cefnogi'r ymgyrch i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeiaidd.