Adeg Wych i Aberystwyth a'i Gefeilldrefi!
Arklow: Ein Gefeilldref Diweddaraf
Mae Aberystwyth newydd gytuno i lofnodi siartr gyfeillgarwch gydag Arklow, fel ein gefeilldref ddiweddaraf yn 2016. Mae hyn yn faen prawf pwysig yn ein perthynas agos dros flynyddoedd lawer, yn enwedig drwy draddodiadau morwrol cadarn y ddwy dref ac ymdrechion eu cymunedau rhwyfo.
Mae Arklow yn dref ar lan y mor yn arfordir dwyrain Iwerddon. Mae hi wedi adeiladu perthynas agos gydag Aberystwyth drwy'r ras gychod Celtic Challenge lle bydd timau o bob tref yn rhwyfo'n gystadleuol o Arklow i Aberystwyth, sef pellter o ryw 90 milltir morwrol. Y ras rwyfo hwyaf go iawn yn y byd yw hi a bu'n sail i gyfeillgarwch a chydweithio rhwng y ddwy dref ers blynyddoedd lawer.
Cysylltwch â Clwb Rhwyfo Aberystwyth ar Facebook i gymryd rhan.
Dyfernir Rhyddid y Fwrdeistref i Monsieur Jean Guezennec
Dyfernir Rhyddid Bwrdeistref Aberystwyth i Monsieur Jean Guezennec o St Brieuc yn mis Mehefin 2016. Mae Monsieur Guezennec wedi rhoi dros 40 mlynedd o wasanaeth i'r gefeilldrefi ers i St Brieuc ddod yn efeilldref gyntaf i Aberystwyth ym 1974. Dyfarnwyd gynt am y cyfryw wasanaeth hir i Herr Fritz Pratschke o Krönberg, un arall o'n gefeilldrefi, yn 2011.
Mae Aberystwyth yn dal Siartr y Fwrdeistref mewn ymddiriedolaeth i'r dref, a roddwyd ym 1277 gan y Brenin Edward I ac a gadarnhawyd wedyn gan deyrnoedd sy'n cynnwys Edward III, Rhisiart II, Harri V, Harri VI, Edward IV, Harri VIII a'r frenhines gyfredol Elisabeth II. Er trosglwyddwyd awdurdod y fwrdeistref i gyngor y sir ym 1974, mae'r statws a'r anrhydedd yn aros yn y cyngor tref. Mae ganddo'r hawl i ddyfarnu Rhyddid Anrhydeddus y Dref er megis anrhydedd eithriadol prin. Ymhlith y dalwyr y mae Prif Weinidogion Prydeinig fel David Lloyd George, Stanley Baldwin a Syr Winston Churchill (llun gyda'r wobr), yn ogystal â Chatrawd y Gwarchodlu Cymreig a nifer fawr o sylfaenwyr enwog Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.