Advancing Aberystwyth ar y Blaen
Mae Advancing Aberystwyth ar y Blaen yn sefydliad newydd sydd â'r nod o helpu i wneud Aberystwyth yn lle gwell i fyw, gweithio, ac ymweld â hi. Nod y sefydliad yw gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglen o brosiectau sy'n anelu at wella'r amgylchedd fasnachu.
Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys:
• Gwella Mynediad a Chysylltiadau
• Hyrwyddo a Marchnata
• Adeiladu'r Gymuned Fusnes
• Cryfhau Perthynasau a Chyfathrebu
Mae'r sefydliad yn cael ei reoli gan fwrdd o gyfarwyddwyr sy'n rhoi o'u hamser i weithio fel gwirfoddolwyr er lles y dref. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o'r bwrdd, neu am gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.advancingaberystwyth.co.uk