Aberystwyth Council

ABERYSTWYTH YN CROESAWU CYNNIG AM REILFFYRDD

Bu Cyngor Aberystwyth yn cynnal cyfarfod gyda tua chant o bobl yn ei fynychu yn y Morlan, Aberystwyth, bron pob un o blaid ail-agor y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Yghyd â Traws Link Cymru, roedd y Cyngor yn awyddus i glywed barnau aelodau’r cyhoedd er mwyn mesur cefnogaeth cyhoeddus i’r cynlluniau.

Mae’r ymgyrch eisoes wedi denu cefnogaeth gan Network Rail, 24 aelod cynulliad, 48 cynghorydd sir, 35 cyngor cymuned (gan gynnwys Cyngor Tref Aberystwyth) a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn ystod y cyfarfod, darparwyd cefnogaeth gan Plaid Cymru, y Blaid Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bu aelodau’r cyhoedd yn gefnogol iawn hefyd, gan godi cwestiynau parthed â’r effeithiau llesol ar fynediad i gyfleusterau iechyd, buddsoddi, recriwtio (meddygion a myfyrwyr prifysgol), lleihau tagfeydd ar y ffyrdd, creu swyddi yn adeiladu’r rheilffordd a hybu twristiaeth.

Mae llai na 3% o 56km o'r gyn-reilffordd wedi cael ei cholli i ddatblygiadau, ac mae’r grŵp yn awyddus i ddangos ei bod yn bosibl ail-adeiladu’r rheilffordd gydag ychydig iawn o ddargyfeiriadau i greu rhwydwaith rheilffordd cyfoes sy'naddas ar gyfer anghenion cludiant cyfunol cyfoes Cymru. Dyma fyddai'r brif ran o gynllun i gysylltu Gogledd a De Cymru drwy adfer y cyswllt rhwng Pwllheli a Bangor oeddgynt yn mynd ar linell Afon Wen drwy Eryri.

Croesawyd y cyfarfod gan y Maer ac fe’i cadeirwyd gan y Cynghorydd Alun Williams, aelod cabinet dros drafnidiaeth ar Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn awyddus iawn i bawb sydd yn ymddiddori yn yr ymgyrch arwyddo’r deiseb ar:

http://www.trawslinkcymru.org.uk/