Aberystwyth Council

Cludiant

Gwasanaethir Aberystwyth gan ddwy gefnffordd, y A44 i Rydychen a'r A487 sy'n dechrau a gorffen ym Mangor a Hwllfordd. Mae'r dref yn derfynfa i ddwy reilffordd, prif linell i'r Amwythig trwy Fachynlleth a llinell gangen sy'n pontio'r dosbarth hyd at Bontarfynach. Mae 3 llwybr beicio gwahanol yn Aberystwyth. Cysyllta Lôn Cambria Aberystwyth â'r Amwythig, cysyllta Lôn Teifi ni ag Abergwaun trwy Dregaron a Llanbedr Pont Steffan ac mae ffordd y Rheidol yn ein cysylltu â Phontarfynach.

Gwasanaethau Bws a Choets

Bws cartwn

Mae gan Aberystwyth llawer o wasanaethau bws gydol dydd i lawer o lefydd gan gynnwys Aberteifi, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Machynlleth a llawer o drefi eraill. Darperir bob gwasanaeth bws gan gwmnioedd preifat a chyllidir llawer o'r gwasanaethau gan y Cyngor Sir neu Llywodraeth Cymru.

Gweler ein rhestr o wasanaethau bws lleol sy'n gweithredu yn Aberystwyth. Os hoffech canfod gwasanaethau bws i drefi eraill yn y Sir, gweler y tudalen amserlenni bysiau ar wefan y Cyngor Sir ar www.ceredigion.gov.uk. Gall Traveline Cymru helpu wrth cynllunio teithiau bws yn ogystal a mathau eraill o gludiant ar eu gwefan ac hefyd yn darparu "app" i ffonau symudol i gynorthwyo yn cynllunio teithiau.

Gwasanaethau Rheilffordd

Gwasanaethir Aberystwyth gan wasanaethau National Rail ar reilffordd y Cambrian. Mae gorsaf trenau Aberystwyth hefyd yn gartref i reilffordd Cwm Rheidol sydd yn rhedeg gwasanaethau i Gapel Bangor a Phontarfynach am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Ar ochr ogleddol y tref, mae rheilffordd y graig sydd yn cludo teithwyr i fyny'r Graig Glais

Ffyrdd Beicio

Mae seiclo yn ac o amgylch Aberystwyth yn ffordd ddelfrydol o symud o gwmpas gan mae llawer o'r dref yn gorwedd ar y tirion wastad Cwm Rheidol. Mae Aberystwyth yw'r man cychwyn i rannau o'r Rhwydwaith Seiclo Sustrans. Mae seiclo yn ffordd wych o symud o gwmpas y dref i ymwelwyr hefyd gan mae pob gwasanaeth tren a sawl gwasanaeth bws gyda lefydd i storio beiciau yn ystod y daith