Amdanom Ni
Y Dref
Mae Aberystwyth yn dref fywiog yng nghanol glan môr Bae Ceredigion. Er ei bod yn weddol ar wahân, mae gan y dref wasanaethau ardderchog a chyfleusterau sy'n cynnwys un o lyfrgelloedd hawlfraint y DU, prifysgol, ysbyty cyffredinol, cysylltiadau bws a rheilffordd da.
Mae Aberystwyth yn dal yn Fwrdeistref Hynafol dan Siartr y Fwrdeistref a ddyfarnwyd i'r dref gan Edward I ym 1277 ac a gadarnhawyd gan frenhinoedd canlynol gan gynnwys Edward III, Rhisiart II, Harri V, Harri VI, Edward IV, Harri VIII a'r brenhines gyfredol Elizabeth II. Er diddymwyd Cyngor y Fwrdeistref ym 1974, ni ddiddymwyd y Fwrdeistref ei hun ac mae Cyngor Tref Aberystwyth yn ei dal mewn ymddiriedolaeth dan y Siartrau.
Yn ôl cyfrifiad 2011, mae gan Aberystwyth boblogaeth o 18,965. Mae cyfrifoldebau'r Cyngor yn cwmpasu cryn nifer o wasanaethau'r dref, gan gynnwys:
- Parciau, gerddi cyhoeddus a thiroedd y castell
- Llwybrau cyhoeddus, heolydd ceffylau a llwybrau beiciau
- Rhandiroedd a lleiniau tyfu
- Cabanau aros bysiau
- Goleuadau stryd
- Twristiaeth
Strwythur y Cyngor
Mae gan y Cyngor 19 o Gynghorwyr sy’n cynrychioli pum ward yn Aberystwyth.
Mae’r Cyngor yn gweithredu system bwyllgorau sy’n atebol i’r Cyngor Llawn.
- Mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod ar y dydd Llun cyntaf o'r mis.
- Mae'r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol yn cyfarfod ar yr ail ddydd Llun o'r mis.
- Mae'r Pwyllgor Cyllid a Staff yn cyfarfod ar y trydydd dydd Llun o'r mis.
- Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Llawn ar yr pedwerydd ddydd Llun o'r mis (heblaw mis Awst) am 6.30yh.
Rydym yn Dref Masnach Deg.
Datganiad hygyrchedd
Ar hyn o bryd mae Cyngor Tref Aberystwyth yn y broses o adeiladu gwefan hygyrch newydd. Mae Covid 19 a lefelau staffio is wedi gohirio’r broses hon, ond y nod yw y bydd y wefan newydd yn fyw erbyn Ebrill 1, 2021
Tan hynny, cysylltwch â'r Cyngor Tref ar Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 624761 i gael unrhyw wybodaeth na allwch ei chyrchu.