Busnes
Mae Aberystwyth yn fwrdeistref hanesyddol ac mae'n hollol unigryw gyda llawer o siopau crefftwyr ac adwerthwyr y stryd fawr. Mae Aberystwyth yn llawer mwy na tref yn unig, gan mae'n gyfoeth ac hanes, etifeddiaeth ac adeiladau mawr.
Cynhela Aberystwyth, ar Rodfa'r Gogledd, farchnata ffermwyr misol sydd wedi ennill gwobrau. Hefyd, ar ochr de'r dref mae neuadd farchnad sydd ar agor chwech diwrnod yr wythnos. Gyda chysylltiadau gwych ffyrdd a rheilffordd, mae Aberystwyth yn lle ffantastig i fyw, gweithio, chwarae a gweithredu busnes.
Sefydlu Busnes
Os wyt ti am sefydlu busnes, sefydliad cymunedol neu elusen, cewch gipolwg ar ein tudalen am rantiau. Mae'r sefydliadau canlynol hefyd yn cynnig cymorth eang a chefnogaeth:
- Antur Teifi
Mae Antur Teifi yn cynnig dosbarthiadau am ddim i bobl sydd am gychwyn busnes ac hefyd maent yn cynnig sesiynau un ag un gyda chynghorydd busnes am ddim. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael yn adeilad Technium, Trefechan. - Antur Busnes - Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor y Sir yn darpau gwasanaeth (arianir gan Lywodraeth Cymru) o'r enw Antur Busnes i'r rhai sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes newydd. Mae Cyngor y Sir yn darparu gwahanol rantiau a llai fod o ddefnydd. - Business Wales - Llywodraeth Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru llawer o wybodaeth i bobl sy'n cychwyn busnes newydd a'r rhai sydd gan ddiddordeb mewn prynu busnesiau. Mae gwybodaeth am wahanol ddigwyddiadau Busnes Cymru hefyd. - Menter Aberystwyth
Gall Menter Aberystwyth rhoi cyngor i fudiadau'r cymuned am gynllunio busnes a pha fath o gyllid sydd ar gael. Eu rhif ffôn yw: 01970 628725. - Job Centre Near Me - Conolfan Byd Gwaith Gerllaw