Aberystwyth Council

Biosffer Dyfi

Mae’r ardal sydd wedi’i chanoli o gwmpas Afon Dyfi ac Aberystwyth yn lle arbennig i fyw, gweithio ac i ymweld â hi – arbennig i’w phobl, ei diwylliant a’i hamgylchedd nodedig.

Mae’n gartref i rai o’r enghreifftiau gorau o dirweddau arbennig ac ardaloedd bywyd gwyllt yn Ewrop. Ac yn ychwanegol at hynny, mae ganddi gymuned sy’n malio amdani, ac yn gofalu am y lle arbennig hwn.

Mae Biosffer Dyfi yn rhan o rwydwaith o safleoedd ledled y byd lle mae gwybodaeth a phrofiadau yn cael eu rhannu, a syniadau newydd yn cael eu harchwilio.

Rydym yn gweithio’n lleol i arloesi yn y modd y mae etifeddiaeth, diwylliant ac economi lleol yn gallu ffynnu mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol