© 2006 Cyngor Tref Aberystwyth Town Council


NEWS / NEWYDDION
Last Night Aberystwyth Town Council received a presentation from County Council and Assembly officials on the new plans. Following the presentation the Town Council debated and then unanimously passed the following motion:
“Aberystwyth Town Council declares its total opposition to any potential development which involves the loss of fundamental parts of our precious streetscape.
Aberystwyth Town Council supports the original Masterplan proposal for the development of the old Royal Mail sorting office site.
However, whilst we understand the need to work with developers, we are profoundly
unhappy about the latest proposals which entail the demolition of so many small shops
and we cannot give our support to such a scheme, no matter what the supposed economic
benefits. We believe the economic benefits of maintaining the character of the town
are very substantial also.
We call upon the County Council to develop a scheme which
maintains the majority of these small shops and to abandon preparations for Compulsory
Purchase Orders.
We also call upon the County Council to conduct a full public consultation,
similar to that carried out in November and December, on any new plans before any
final decision is taken.
Council resolves to communicate this to:
The Cabinet of Cyngor Sir Ceredigion and all Ceredigion County Councillors
Economic development officials of the National Assembly
Our Assembly Members
The Deputy Assembly Minister for Regeneration
Council also resolves to engage with the Transition Town Group, Cyngor Sir Ceredigion and the wider community to explore alternative approaches to the economic future of the town centre which does not involve a 'clone town' economic model."
Cafodd Cyngor Tref Aberystwyth gyflwyniad gan swyddogion o’r Cyngor Sir a’r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â’r cynlluniau newydd. Yn dilyn y cyflwyniad fe drafodwyd y cynnig canlynol ac fe’i derbyniwyd yn unfrydol gan y Cyngor Tref:
“Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn datgan ei wrthwynebiad llwyr i unrhyw ddatblygiad a fydd yn golygu colli darnau sylfaenol o’n tirwedd stryd werthfawr.
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cefnogi cynllun gwreiddiol y Cynllun Mawr ar gyfer datblygu safle hen swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol.
Ond, er ein bod yn deall yr angen i gydweithio gyda datblygwyr, yr ydym yn anhapus iawn ynglŷn â’r cynlluniau diweddaraf fydd yn golygu dymchwel cynifer o siopau bychain ac felly nid ydym yn medru cefnogi cynllun o’r fath, waeth beth yw’r buddion economaidd tybiedig. Credwn hefyd fod y buddion economaidd o gynnal cymeriad y dref yn rhai sylweddol.
Galwn ar y Cyngor Sir i ddatblygu cynllun sy’n gwarchod y mwyafrif o’r siopau bychain hyn ac i roi’r gorau i baratoi ar gyfer Gorchmynion Pwrcasu Gorfodol.
Galwn hefyd ar y Cyngor Sir i ymgymryd â phroses o ymgynghoriad llawn ar unrhyw gynlluniau newydd, yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd fis Tachwedd a Rhagfyr, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
Mae’r Cyngor yn penderfynu rhoi gwybod i’r canlynol am ei benderfyniad: Cabinet ag holl eilodau Cyngor Sir Ceredigion, swyddogion datblygu economaidd Llywodraeth y Cynulliad, aelodau’r cynulliad yr ardal, a’r dirprwy weinidog dros Adfywio.
Mae’r Cyngor yn penderfynu hefyd i weithio gyda Grŵp Tref Drawsnewid Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion a’r gymuned yn ehangach i ddod o hyd i ddynesiadau gwahanol tuag at ddyfodol economaidd canol y dref nad yw’n golygu dilyn model economaidd “trefi unffurf”.”