Aberystwyth Council

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

COFNODION CYFARFOD CYNGOR LLAWN A GYNHALIWYD YN YR YSTAFELL GYFARFOD, 11 STRYD Y POPTY, ABERYSTWYTH DDYDD MAWRTH 26 MAI 2015.

Yn bresennol:

Cyng Endaf Edwards

Cyng Brian Davies

Cyng Wendy Morris

Cyng Brenda Haines

Cyng Lucy Huws

Cyng Aled Davies

Cyng Martin W. Shewring

Cyng Jeff Smith

Cyng Ceredig Davies

Cyng Mair Benjamin

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Alun Williams

Ymddiheuriadau:

Cyng Brendan Somers

Cyng Steve Davies

Cyng Mark Strong

 

Cofnod 1

Datgan Diddordeb

Cyng Mair Benjamin – Cais Cyllid a Chynllunio (Clwb Pêl-droed).

Cyng Aled Davies – Cais Cynllunio

 

Cofnod 2

Cyfeiriadau Personol

Diolchodd y Maer i'r holl aelodau am eu cefnogaeth a hynny wrth ei Arwisgo ac yng Ngorymdaith y Maer. 

 

Cofnod 3

Adroddiad Gweithgareddau'r Maer

Dosbarthwyd adroddiad i'r aelodau o weithgareddau'r Maer ers dod i'w swydd ar 15 Mai 2015.

 

Cofnod 4

Cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd Ddydd Llun 27 Ebrill 2015.

 

Cofnod 5

Materion sy'n codi o'r cofnodion.

Cofnod 194: Plac Herman Ethê. Penderfynwyd y dylai Cyng Mark Strong a'r Maer drafod a chytuno ar ddyddiad i'r ffotograff gael ei dynnu.

Cofnod 195: Cais cynllunio A150079 Clwb Pêl-droed Aberystwyth. Dylid gofyn i Tai Ceredigion roi cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.

Cofnod 199 (h):  Holodd aelod a oedd angen glanhau'r traeth ar Draeth y De o ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud gan Gyfeillion Traeth Aberystwyth. Hysbyswyd aelodau bod y cytundeb yn cynnwys gwacau'r biniau, glanhau'r promenâd ynghyd â glanhau'r traeth.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cofnodion gyda'r diwygiadau blaenorol yn cael eu nodi.

 

Cofnod 6

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd Ddydd Gwener 15 Mai 2015.

Enw'r Cyng Brian Davies i'w gynnwys yn rhestr o aelodau yn bresennol.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion gyda'r cynhwysiad blaenorol.

 

Cofnod 7

Adroddiad gan Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar geisiadau cynllunio.

Nid oedd y Pwyllgor Cynllunio a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 5 Mai 2015 â chworwm. Gan hynny ymgynghorodd yr is-gadeirydd gydag aelodau lleol a oedd â cheisiadau cynllunio o fewn eu wardiau. Cyflwynodd yr is-gadeirydd yr adroddiadau a ganlyn:

A150200........Dim gwrthwynebiad. (Teimlodd aelodau yn gryf iawn y dylid cael Swyddfa'r Post).

A150171.......Dim gwrthwynebiad.

A150106.......Mae Aberystwyth yn gofyn nad yw'r ymgeisydd yn defnyddio ffenestri UPVC o fewn ardal gadwraeth.

A150249.......Dim gwrthwynebiad. (Croesawodd aelodau ddarpariaeth ardal storio fewnol ar gyfer biniau)

 

Cofnod 8

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd yn yr Ystafell Gyfarfod, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth Ddydd Llun 11 Mai 2015 am 6.30 pm.

YN BRESENNOL:

Cyng Ceredig Davies

Cyng Mair Benjamin

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Brenda Haines

Cyng Kevin Roy Price

Cyng Martin W. Shewring

Cyng Wendy Morris

Cyng Brendan Somers

Cyng Mererid Jones

Cyng Jeff Smith

YMDDIHEURIADAU:

Cyng Brian Davies

Cyng Steve Davies

Cyng Endaf Edwards

     

Gohebiaeth:

(a) Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Aelodau Bwrdd.

(b) RAY Ceredigion yn cynnal Sesiwn Wybodaeth rhwng 3 a 6.30 pm. Roedd Aelodau o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol mynychu pe bai'r cyngor yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb dros ardaloedd chwarae.

 

Rhandiroedd:

Hysbyswyd aelodau bod y mater hwn yn cael ei drafod gan Gabinet Ceredigion y diwrnod canlynol, Ddydd Mawrth 12 Mai 2015.

Roedd y rhandir olaf yng Nghoedlan 5 Penparcau hefyd yn cael ei ddyrannu yn y cyfarfod Cabinet ar 12 Mai 2015.

Yn dilyn cyfarfod Cabinet Ddydd Mawrth 12 Mai 2015 byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn derbyn cofrestr o'r bobl hynny ar y rhestr aros am randir.

 

Parc Bwrdd Sgrialu:

Awgrymwyd y dylai prosiect bwrdd sgrialu gael ei gynnal rhwng Cyngor Tref Aberystwyth a Fforwm Penparcau.

Penderfynwyd galw cyfarfod gyda Fforwm Penparcau i drafod ymhellach.

 

Dathliad Tref Wych:

Diolchwyd i aelodau ar y pwyllgor trefnu am eu hymdrech a'u cyfranogiad.

Nododd Cyng Wendy Morris nad oedd unrhyw gwynion wedi'u derbyn gan aelodau'r cyhoedd a fynegodd awydd y dylai digwyddiad fel hyn gael ei gynnal yn flynyddol ar Ddydd Llun Calan Mai. Diolchodd Cyng Morris ymhellach i'r holl wirfoddolwyr a oedd wedi cyfrannu at lwyddiant y diwrnod.

 

Goleuadau Nadolig;

Byddai Cynghorwyr Ceredig Davies, Jeff Smith a Mererid Jones yn archwilio dyfynbrisiau a gasglwyd gan Cyng Benjamin o'r Trallwng.

Nododd Cyng Ceredig Davies ei fod eisoes mewn trafodaethau ar gyfer Coed Nadolig.

 

Adloniant yr Haf:

Nid oedd newidiadau i'r rhaglen a oedd wedi'i chymeradwyo.

 

Hysbysfwrdd:

Nid oedd cynnydd i'w adrodd ar y mater hwn.

 

Ardal Bicnic:

Adroddodd Cyng Martin Shewring bod y ffens bren ar yr ardal bicnic sydd wedi'i lleoli ar Dir y Castell ger Tan-y-Cae wedi malurio.

Cytunwyd cysylltu ag adran berthnasol Cyngor Sir Ceredigion i newid y ffens a rhoi gwybod hefyd bod angen newid rhai o'r llifoleuadau hefyd.

 

Arwyddion Coedlan 5 Penparcau:

Cytunodd aelodau â Cyng Brenda Haines i ofyn i Gyngor Sir Ceredigion am arwyddion newydd gan fod dryswch ar hyn o bryd rhwng Coedlan 5 Penparcau a Min-y-Ddol.

Awgrymodd aelodau y dylid cynnal adolygiad o arwyddion ffordd/stryd yn gyffredinol.

 

Materion eraill:

  • Atgoffawyd aelodau o Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ac Arwisgo'r Maer Ddydd Gwener 15 Mai 2015 am 6.30 pm yn y “Morlan” Morfa Mawr.
  • Byddai rhestr fer yn cael ei llunio ar gyfer swydd Clerc y Cyngor Ddydd Mawrth 12 Mai 2015.
  • Cytunodd Cyng Mererid Jones i gasglu dyfynbrisiau ar gyfer dychwelyd dodrefn y Cyngor Tref i Stryd y Popty.

 

Rhandiroedd:               Mae'r holl randiroedd bellach wedi'u dyrannu.  Roedd angen trefnu symud llygod mawr ar gyfer deiliaid rhandiroedd.

Goleuadau Nadolig:    Enw'r Cyng Mererid Jones i beidio â chael ei gynnwys yn rhestr y cynghorwyr i archwilio dyfynbrisiau.

Dodrefn Swyddfa:      Yn dal i aros am adborth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion.

 

Cofnod 9.

CYNGOR TREF ABERYSTWYTH

Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd Ddydd Llun 18 Mai 2015 yn 11 Stryd y Popty, Aberystwyth, Ceredigion

Yn bresennol:

Cyng Mererid Jones

Cyng Mark Strong

Cyng Alun Williams

Cyng Brian Davies

Cyng Mair Benjamin

Cyng Brenda Haines

Cyng Endaf Edwards

Ymddiheuriadau:      

Cyng Lucy Huws

Cyng Wendy Morris

Cyng Steve Davies

Cyng Ceredig Davies

Hefyd yn bresennol:

Cyng Jeff Smith

 

  1. Ethol Cadeirydd

Etholwyd Cyng Mererid Jones yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

  1. Ethol Is-gadeirydd

Etholwyd Cyng Alun Williams yn Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

  1. Datgan Diddordeb

Datganodd Cyng Mair Benjamin ddiddordeb fel Is-gadeirydd Clwb Henoed Penparcau.

Datganodd Cyng Mark Strong ddiddordeb gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Gofal.

  1. Gohebiaeth

Derbyniwyd neges e-bost gan Chris Taylor o Freestyle Skateparks yn gofyn am roi ystyriaeth bellach i gais partneriaeth rhwng Cyngor Tref Aberystwyth a Fforwm Cymuned Penparcau. Cytunwyd yn unfrydol bwrw ymlaen â'r bartneriaeth os credid y byddai hyn yn arwain at gais llwyddiannus.  

PENDERFYNWYD ymhellach y byddai'r is-bwyllgor Parc Bwrdd Sgrialu yn derbyn awdurdod dirprwyedig i drafod y strwythur partneriaeth gorau gyda Freestyle a Fforwm Penparcau.

  1. Ceisiadau Grant

Mae pedair cais hwyr wedi'u derbyn, ond oherwydd mai'r dyddiad cau ar y wefan oedd 30 Ebrill 2015, cytunwyd y byddent yn cael eu hystyried.

Cymeradwywyd y symiau a ganlyn yn amodol ar yr amodau a ganlyn:-

  • Clwb Henoed Penparcau - £300 yn amodol ar dderbyn cyfrifon ar gyfer 2013-14 (neu 2014-15 os ydynt eisoes wedi'u paratoi).
  • Undeb Credyd Gorllewin Cymru - £1,500 gyda chynnig i ddefnyddio'r swyddfa ac i weld a allant ddefnyddio unrhyw ddodrefn sydd dros ben.
  • Cadlanciau Hyfforddi Awyr Aberystwyth - £500
  • Band Arian Aberystwyth - £1,500. Bydd Cyngor Tref Aberystwyth hefyd yn gofyn i Bwyllgor Gefeillio St Brieuc i weld a fyddent yn ystyried ariannu peth o'r gost o deithio i St Brieuc.

6 Unrhyw Fater Arall

Nodir mai'r treuliau ar hyn o bryd yw 25c y filltir i aelodau. CYTUNWYD y bydd y swm yn codi i 30c y filltir.

Henoed Penparcau:    Penderfynwyd gwirio a oedd Henoed Penparcau wedi cyflwyno eu cyfrifon ar gyfer cymorth grant yn ôl y gofyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cofnodion.

 

Cofnod 10.

Ceisiadau Cynllunio:

 

A150167..........Dim gwrthwynebiad er nodwyd nad oedd lle i sbwriel.

                          Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn croesawu'r datblygiad hwn

 

A150110.........Dim gwrthwynebiad. Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cefnogi'r cais hwn ar y                      sail y bydd yn gwella'r cyfleusterau sydd ar gael. Mae'r Cyngor wedi ystyried                    y cais hwn yn annibynnol ar y cais datblygiad preswyl.

 

Cofnod 11.

Penodi aelodau i'r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2015-16

Cyng Steve Davies, Cyng Lucy Huws, Cyng Jeff Smith, Cyng Mair Benjamin, Cyng Sue Jones - Davies, Cyng Brendan Somers, Cyng Martin Shewring, Cyng Kevin Roy Price a Cyng Brian Davies.

Mae'r Maer Cyng Endaf Edwards a'r Dirprwy Faer Cyng Brendan Somers yn ex-officio ac yn eistedd ar bob pwyllgor.

 

Cofnod 12.

Penodi aelodau i'r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol ar gyfer 2015-16.

Cyng Ceredig Davies, Cyng Mair Benjamin, Cyng Sue Jones Davies, Cyng Brenda Haines, Cyng Kevin Roy Price, Cyng Martin W. Shewring, Cyng Wendy Morris, Cyng Jeff Smith, Cyng Brian Davies, Cyng Alun Williams, Cyng Steve Davies, Cyng Sarah Bowen.

Mae'r Maer Cyng Endaf Edwards a'r Dirprwy Faer Cyng Brendan Somers yn ex-officio ac yn eistedd ar bob pwyllgor.

 

Cofnod 13.

Penodi aelodau i'r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau 2015-16.

Cyng Mererid Jones, Cyng Alun Williams, Cyng Brenda Haines, Cyng Wendy Morris, Cyng Brian Davies, Cyng Ceredig Davies, Cyng Mair Benjamin, Cyng Mark Strong, Cyng Aled Davies.

Mae'r Maer Cyng Endaf Edwards a'r Dirprwy Faer Cyng Brendan Somers yn ex-officio ac yn eistedd ar bob pwyllgor.

 

Cofnod 14.

Penodi aelodau i'r Panel Staffio 2015-16.

Cyng Brian Davies, Cyng Wendy Morris, Cyng Steve Davies, Cyng Sue Jones-Davies, Cyng Brendan Somers.

 

Cofnod 15.

Penodi aelodau i gynrychioli'r cyngor ar Gyrff Allanol 2015-16.

  • Pwyllgor Cyswllt Defnyddwyr Rheilffordd yr Amwythig/Aber: Cyng Mair Benjamin, Cyng Jeff Smith.
  • Rheilffordd Arriva (Y Trallwng): Cyng Mair Benjamin, Cyng Jeff Smith.
  • SARPA: Cyng Jeff Smith, Cyng Mair Benjamin.

Gefeillio a Phartneriaethau.

  • SBPPA: Cyng Kevin Roy Price, Cyng Wendy Morris.
  • AKPPA: Cyng Lucy Huws, Cyng Brenda Haines.
  • Cyfeillgarwch Kaya: Cyng Ceredig Davies
  • Gefeillio Esquel: Cyng Endaf Edwards, Cyng Sue Jones-Davies
  • Masnach Deg Aberystwyth: Cyng Mererid Jones, Cyng Sue Jones Davies.
  • Partneriaeth Pobl Ifanc:
  • Un Llais Cymru: Cyng Brendan Somers, Cyng Mair Benjamin
  • Menter Aberystwyth: Cyng Mark Strong.
  • Llys Prifysgol Aberystwyth: Cyng Martin Shewring, Cyng Mark Strong
  • Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg: Cyng Alun Williams
  • Bwrdd Strategaeth Ardal Adfywio Aberystwyth: Cyng Alun Williams
  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Cyng Sue Jones-Davies (pe bai diddordeb sy'n rhagfarnu bydd Cyng Wendy Morris yn mynychu).
  • Band Arian Aberystwyth: Cyng Ceredig Davies, Cyng Mair Benjamin

Tirlun/Asedau.

  • Pwyllgor Camerâu Cylch Cyfyng: Wedi dod i ben
  • Is-bwyllgor Parc Bwrdd Sgrialu: Cyng Mererid Jones, Cyng Ceredig Davies, Cyng Mair Benjamin.
  • Bwrdd Ymddiriedolwyr Craig-lais: Cyng Mark Strong
  • Fforwm Prom: Wedi dod i ben
  • Pwyllgor Defnyddwyr yr Harbwr: Cyng Martin Shewring (Cyng Steve Davies i fynychu yn absenoldeb Cyng Shewring).
  • Grŵp Aberystwyth Gwyrddach: Cyng Endaf Edwards, Cyng Jeff Smith.
  • Pwyllgor Rheoli Traffig Ceredigion: Cyng Mair Benjamin, Cyng Martin Shewring, Cyng Endaf Edwards, Cyng Wendy Morris.
  • Fforwm Economi gyda'r Nos: Cyng Mair Benjamin, Cyng Mererid Jones.
  • Biosffer Dyfi: Cyng Jeff Smith, Cyng Alun Williams
  • Cyfeillion Bae Ceredigion: Cyng Brian Davies, Cyng Jeff Smith.
  • Parc Natur Penglais: Cyng Brian Davies, Cyng Mererid Jones.

Ymddiriedolaethau a Rhoddion.

  • Ymddiriedolaeth Cofeb Rhyfel: Cyng Brenda Haines, Cyng Ceredig Davies, Cyng Wendy Morris.
  • Ymddiriedolaeth Cymynrodd Joseph a Jane Downie: Cyng Brenda Haines, Cyng Ceredig Davies.
  • Llywodraethwyr Ysgol Sant Padarn: Cyng Lucy Huws
  • Llywodraethwyr Ysgol Llwyn yr Eos: Cyng Mererid Jones.
  • Llywodraethwyr Ysgol Plascrug: Cyng Wendy Morris
  • Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg: Cyng Brian Davies

 

Cofnod 16

Gohebiaeth:

(a)   Cymeradwywyd y dyddiadau ar gyfer Arwisgo’r Maer (Cyfarfod Blynyddol y Cyngor) Ddydd Gwener 13 Mai 2016 a Gorymdaith y Maer a Gwasanaeth Dinesig Dydd Sul 15 Mai 2016.

(b)   Timothy Brook – Yn gofyn am brofiad gwaith gyda Chyngor Tref Aberystwyth. Cytunwyd ei anfon ymlaen at Gyngor Sir Ceredigion.

(c)   Harry Complin/Slacklining Club – y diweddaraf ar y Parc Bwrdd Sgrialu. Cyfeiriwyd at Cyng Mererid Jones

(d)   Carnifal Aberystwyth - Cymeradwywyd cefnogi'r cais o dan Drwydded Eiddo'r cyngor i werthu alcohol a darparu adloniant. Cyng Aled Davies i ddarparu gwybodaeth ar gydymffurfio â'r drwydded.

(e)   Band Arian Aberystwyth – Hysbyswyd aelodau bod lle ar gael ar y bws sy'n mynd i  St Brieuc ym mis Medi 2015.

(f)   Kronberg – Roedd gwahoddiad wedi'i estyn i'r Maer fynychu'r Farchnad Nadolig rhwng 10 a 14 Rhagfyr 2015. Cytunwyd y byddai'r Maer yn mynychu. Pe na bai'r Maer yn gallu mynychu byddai'r Dirprwy Faer yn dirprwyo. Byddai'r maer sydd newydd orffen yn cynrychioli'r cyngor pe na bai'r Maer na'r Dirprwy Faer yn gallu mynychu.

(g)   Cyngor Sir Ceredigion – Roedd llythyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn nodi bod Trosglwyddo'r Rhandiroedd bellach wedi'i gwblhau. Cyng Ceredig Davies i anfon y dogfennau perthnasol i'r swyddfa.

(h)   Llythyr o gŵyn – Llythyr gan Charlotte Stevens yn cwyno am y goleuadau stryd gwael o amgylch Maes Lowri. Cytunwyd ei anfon ymlaen at Gyngor Sir Ceredigion a'r Cyngor Sir lleol.

(i)   Ken Young – Llythyr o ddiolch gan Mr Young yn diolch i'r cyngor am gefnogi'r ddirprwyaeth swyddogol o St Brieuc ar eu hymweliad diweddar ag Aberystwyth.

(j)   Cyngor Sir Ceredigion – Hysbyswyd aelodau o'r angen i gofrestru eu diddordeb ac anfon ymlaen at y swyddfa.

(k)   Cyngor Sir Ceredigion - Cyhoeddwyd hysbysiad o swydd dros dro yn Ward Penparcau ar 26 Mai 2015. Rhaid i ddeg o breswylwyr Penparcau nodi eu bod eisiau isetholiad yn y ward. Dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw 16 Mehefin 2015. 

(l)   Cymdeithas Gogledd a Chanolbarth Cymru o Gynghorau Lleol - Penderfynodd aelodau wrthod aelodaeth yn y cyngor hwn a oedd yn costio £75.00.

(m)   SLCC – Roedd taflen yn hysbysu aelodau bod hyfforddiant ar gael

(n)   UOTC – Derbyniwyd ymddiheuriad am nad oeddynt yn gallu mynychu Gorymdaith y Maer.

(o)   Aquathlon Dŵr Agored Aberystwyth – Roedd llythyr gan Alison Jones yn hysbysu aelodau bod y digwyddiad hwn a oedd wedi'i drefnu at 6 Mehefin wedi'i ganslo oherwydd diffyg ymgeiswyr.

(p)   Cymdeithas Masnachwyr Neuadd y Farchnad Aberystwyth – Penderfynwyd y byddai Cyngor Tref Aberystwyth yn talu am godi baner fel arwydd o gefnogaeth y cyngor wrth eu helpu i godi arian arall.

(q)   Cyngor Sir Ceredigion – Llythyr gan Briffyrdd, Eiddo a Gwaith yn rhoi'r diweddaraf ar Arwydd Southgate.

(r)   Cyngor Sir Ceredigion - Llythyr gan Lowri Edwards yn gofyn am ymgynghoriad ar feysydd blaenoriaeth erbyn 29 Mai 2015. Cytunwyd y byddai'r Maer yn paratoi cyflwyniad ar ran y cyngor.

(s)   Derbyniwyd diolchiadau gan Lorrae Southgate-Jones, Ken Young a Carrie Canham. Cytunwyd gwahodd Carrie Canham (Curadur Amgueddfa Ceredigion) i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 29 Mehefin 2015 i roi cyflwyniad na fydd yn para mwy na 15 munud. 

(t)   Christopher Salmon – Llythyr gan Christopher Salmon Comisiynydd Heddlu Dyfed- Powys yn gofyn am wirfoddolwyr.

(u)   Prif Weithredwr Tai Canolbarth Cymru - Darllenwyd llythyr i aelodau ar rannu gwybodaeth ar gydberchnogaeth. Roedd angen adborth erbyn 30 Mehefin 2015.

(v)   RAY Ceredigion – Hysbysodd lythyr gan Gill Byrne o RAY Ceredigion aelodau bod ariannu wedi'i sicrhau hyd at fis Rhagfyr 2015.

(w)   Cyngor Sir Ceredigion – Nododd lythyr gan Mr Paul Arnold bod Coedlan Plascrug bellach wedi'i mabwysiadu fel ffordd.

(x)   Bwrdd Pensiwn Dyfed – Cyflwynwyd llythyr i'r cyngor yn gofyn am recriwtiaid ar gyfer y bwrdd . Roedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwau wedi pasio cyn cyfarfod y cyngor.

(y)   Heddlu Dyfed-Powys – Byddai cyfarfod o dan y teitl “Dweud eich Dweud ar Faterion Cymunedol" yn cael ei gynnal ym Mhenmorfa Aberaeron ar 10 Mehefin rhwng 7.00 pm a 9.00 pm

(z)   Un Llais Cymru – Hysbyswyd aelodau byddai cyfarfod ar Hyfforddiant Cyllid Llywodraeth Leol yn cael ei gynnal ym Machynlleth ar 2 Mehefin 2015.

(aa) Dysgu Bro Penparcau – Hysbyswyd aelodau o gwrs ar Windows 8 i'w gynnal yng Nghanolfan Addysg Gymunedol, Penparcau Ddydd Gwener 12 Mehefin 2015 rhwng 10.00 am a 3.00 pm.

(bb) AON – Cyfeiriwyd hysbysiad adnewyddu yswiriant at y Pwyllgor Cyllid.

 

Cofnod 17.

Cwestiynau yn ymwneud â materion yng nghylch gwaith y cyngor hwn yn unig.

Holodd aelodau am gostau cynyddol cau ffyrdd sy'n cael eu cynnig gan Gyngor Sir Ceredigion. Hysbysodd Cyng Alun Williams yr aelodau y byddai'r Pwyllgor Craffu perthnasol yn ystyried y cynigion ar 27 Mai 2015.

Cytunwyd ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion yn ymwneud â'r cynnydd yn datgan y byddai'n cael effaith niweidiol ar ddigwyddiadau a ariennir gan Gyngor Tref Aberystwyth.

(Ymatalodd Cyng Alun Williams rhag pleidleisio).

 

Cofnod 18.

Cyllid – Ystyried gwariant.

Talwyd i

Rheswm

Swm (£)

Calonnau Cymru

Cyfraniad i Diffibriliwr

1,000.00

Konica Minolta

Llogi llungopïwr a chliciau

565.08

Cyngor Sir Ceredigion

Ffi ar gyfer Gorymdaith y Maer

35.00

Cambrian News

Hysbyseb Clerc/Tref Wych

316.80

Cyng Jeff Smith

Treuliau i gyfarfod SAPRA

5.60

Cyng Brenda Haines

Treuliau i Gastell Windsor

353.00

M & B Barker

Siec newydd

5,681.50

James Memorials Ltd

Cofeb Hermann Ethê

950.00

Cambrian News

Hysbyseb Clerc/Tref Wych

285.00

Aberystwyth Removals & Storage

Storio am 13 wythnos o'r 30/3/2015

754.00

Aberystwyth Electronics

System Sain Tref Wych

120.00

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflogau Ebrill 2015

796.74

Viking Direct

Papur A4

58.54

Cymdeithas Gofal Ceredigion

Gwaith ar y Parc Bwrdd Sgrialu

585.00

Golwg

Hysbyseb am Glerc

239.00

Clwb Henoed Penparcau

Grant 2015-16

300.00

Undeb Credyd Gorllewin Cymru

Grant 2015-16

1,500.00

Cadlanciau Awyr Aberystwyth

Grant 2015-16

500.00

Band Arian Aberystwyth

Grant 2015-16

1,500.00

Cyng Endaf Edwards

Lwfans y Maer

3,675.00

Cyng Mair Benjamin

Treuliau i gyfarfod Un Llais Cymru

10.80

JM & AS Williams

Bwffe ar gyfer Urddo'r Maer

1,099.00

Morlan

Llogi neuadd ar gyfer Urddo'r Maer

125.50

Columbine Flowers

Blodau ar gyfer Arwisgo'r Maer

50.00

Viking Direct

Gel grip & Post –it notes

34.46

E.C.Williams

Treuliau ar gyfer postio a lamineiddio

16.37

Sgarmes

Perfformio yn Urddo'r Maer

300.00

Purchase Power

Peiriant Ffrancio

17.95

Cymdeithas Gofal Ceredigion

Gwaith ar y Ddrysfa/Hen Grîn Bowlio

2,115.00

 

Cofnod 19.

Adroddiadau ar lafar gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion yn ymwneud â'r cyngor hwn yn unig.

Adroddodd Cyng Alun Williams ar Wobrau Aber yn Gyntaf a gynhelir gan Menter a fydd yn cael eu cynnal ar 5 Mehefin am 4.00 pm ym Mhenbryn, Prifysgol Aberystwyth.

Adroddodd Cyng Alun Williams ymhellach ar Goedlan Plascrug yn dilyn gwaith ar wella diogelwch yn y Goedlan. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymestyn y gwaith hwn at Ysgol Plascrug i wella'r diogelwch.

Adroddodd Cyng Ceredig Davies bod Mr Tom Edwards wedi gwneud gwaith ar y MUGA.

Awgrymwyd y dylai'r Maer ddrafftio llythyr i longyfarch y grwpiau a oedd yn gysylltiedig â'r ddau ddigwyddiad sef "Gŵyl Feicio" a "Ras Rafftio".

 

Cofnod 20.

Adroddiadau ysgrifenedig gan gynrychiolwyr i gyrff allanol.

 

Cofnod 21.

Adroddiad ar lafar gan Gadeirydd y Panel Staffio ar Faterion Staffio.

Hysbysodd y Cadeirydd aelodau bod pedwar cais wedi'u derbyn ar gyfer swydd Clerc y cyngor. Cynhaliwyd cyfweliadau Ddydd Mercher 20 Mai 2015 a chynigiwyd y swydd i Mrs Llinos Roberts-Young. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y cyfnod rhybudd sy'n ofynnol gan ei chyflogwr presennol.

 

Cofnod 22.

Ystyried adolygu Rheolau Sefydlog (ar gais Cyng Mererid Jones).

Awgrymwyd y dylai un aelod o bob ward adolygu'r rheolau sefydlog presennol rhwng y dyddiad presennol a diwedd mis Medi 2015 pan fyddai angen adrodd yn ôl i'r cyngor.

Aelodau a etholwyd:  Y Maer, (Cyng Endaf Edwards). Cyng Brian Davies, Cyng Ceredig Davies, Cyng Jeff Smith a Cyng Kevin Roy Price.

Yn y cyfamser penderfynwyd cadw at y Rheolau Sefydlog presennol.

 

Cofnod 23.

Rheoli tir y tu ôl i Goedlan 5 Penparcau yn y dyfodol (ar gais Cyng Ceredig Davies).

Nododd Cyng Ceredig Davies bod materion tresbasu yn ymwneud â'r tir hwn a bod y cyngor wedi rhoi rhybudd i Gyngor Sir Ceredigion bod Cyngor Tref Aberystwyth yn dymuno rhyddhau prydles y tir gan fod cyfrifoldeb sylweddol gan gynnwys torri gwair.

PENDERFYNWYD oedi materion i'r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol ac y byddai Cyng Alun Williams yn gwahodd GAG i fynychu.

 

Cofnod 24.

Cynnig brys ar ddyfodol Pantycelyn.

Cyn i'r cynnig gael ei drafod fe wnaeth Cyng Mererid Jones ddatgan diddordeb.

Roedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gwerthfawrogi'r cyfraniad pwysig ac unigryw y mae Neuadd Pantycelyn yn ei wneud i'r Iaith Gymraeg a diwylliant y dref ac mae'r cyngor yn dymuno gweld hyn yn parhau.

Fe wnaeth aelodau ddwyn i gof a gwerthfawrogi cyflwyniad Dr Rhodri Llwyd Morgan a Miss Gwenno Edwards i'r cyngor llawn ym mis Ionawr eleni pan wnaethant gyflwyno cynlluniau i gadw Neuadd Pantycelyn yn agored fel llety i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg gyda'r posibilrwydd o sefydlu Canolfan Iaith Gymraeg ochr yn ochr â'r llety. Fe wnaeth yr aelodau a oedd yn bresennol fynegi agwedd bositif i'r cynlluniau.

Mae aelodau bellach yn gofyn i Brifysgol Aberystwyth ddychwelyd at y cynlluniau a chadw Neuadd Pantycelyn yn agored fel llety i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a gosod amserlen ar gyfer y gwelliannau arfaethedig i'r adeilad.

PENDERFYNODD aelodau ysgrifennu at Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth a hefyd Llys Prifysgol Aberystwyth yn gofyn iddynt fynd i'r afael â'u pryderon.