
Croeso i wefan Cyngor Tref Aberystwyth.
Dyma ragor o wybodaeth amdanom ni...
Ffurfiwyd Cyngor Tref Aberystwyth ar ôl ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1974.
O’i gymharu â’r hen Gyngor Bwrdeistref, mae pwerau a chyfrifoldebau presennol Cyngor y Dref dipyn yn llai, (ewch i’r adrannau sy’n sôn am yr hyn y gallwn ei wneud a’r hyn na allwn ei wneud). Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn dal i chwarae rhan bwysig a gwerthfawr yng ngweinyddiaeth y dref a’i gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae gan y Cyngor 19 o Gynghorwyr sy’n cynrychioli pum ward yn Aberystwyth. Mae ganddo Faer a Dirprwy Faer. Mae dau yn cael eu cyflogi i roi cymorth iddynt, sef y Clerc, Mr Jim Griffiths ac Ysgrifenyddes y Maer / y Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu system bwyllgorau sy’n atebol i’r Cyngor Llawn.
Mae’r Pwyllgor Cynllunio’n cwrdd ar ddydd Llun cyntaf y mis.
Mae’r Pwyllgor Cyllid a Gweithredu’n cwrdd ar ail ddydd Llun y mis.
Mae’r Pwyllgor Dibenion Cyffredinol yn cwrdd ar drydydd dydd Llun y mis.
Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Llawn ar bedwerydd dydd Llun y mis (ac eithrio mis Awst) am 6.30pm.
Cysylltu â ni