English FlagCyngor

Beth y Gallwn Ni Ei Wneud?

The following text is taken from the National Association of Local Councils (NALC) document (What can Councils do?)

Yn debyg i’r holl bwerau sy’n cael eu rhoi i gyrff cyhoeddus, mae pwerau cynghorau lleol wedi’u diffinio’n fanwl mewn deddfwriaeth a gallai’r manylion hyn gynnwys gofyniad i gael caniatâd corff arall i wneud rhywbeth (er enghraifft, sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor Sir i ddarparu maes parcio). Rhaid i Gynghorau Lleol arfer eu pwerau yn unol â darpariaethau cyfraith gyffredinol (er enghraifft, rhaid cael caniatâd cynllunio i godi pafiliwn chwaraeon). Clerc y Cyngor sy’n cadw’r holl fanylion hyn.

Pwerau

Rhestrir y pwerau yn nhrefn yr wyddor. Os gwelwch chi seren wrth bwer, gallai’r Cyngor, yn ogystal ag arfer y pwer ei hun, helpu corff arall i weithredu drwy roi cymorth ariannol. 

Botwm Achosion Cyfreithiol - Pwer i erlyn ac amddiffyn pob achos cyfreithiol er budd y trigolion. Pwer i gymryd rhan ym mhob ymchwiliad cyhoeddus lleol.
Botwm *Adloniant - Pob ffurf ar adloniant cyhoeddus ym mhob mangre. (Mae hyn yn cynnwys cynnal bandiau a cherddorfeydd a hwyluso dawnsio).
Botwm Arwyddion – Pwer i godi arwyddion sy’n rhybuddio ynglyn â pheryglon neu sy’n cyhoeddi enw lle, neu arwydd ar safle bws.
Botwm *Atal troseddau - gosod cyfarpar a chreu cynlluniau i ddod o hyd i droseddau neu er mwyn eu hatal; rhoi grantiau i awdurdod yr heddlu at y dibenion hyn.
Botwm Baddonau - Darparu baddonau a thai golchi (a allai olygu launderette yn yr oes fodern).
Botwm Benthyca - Gall Cynghorau Plwyf, Tref a Chymuned fenthyca am hyd at 25 mlynedd drwy ganiatâd benthyca. Rhaid i’r Cyngor gael caniatâd cyn benthyca.
Botwm *Caeau Chwarae – Darparu a chynnal a chadw tir at holl ddibenion hamdden awyr agored, gan gynnwys pyllau cychod.
Botwm *Clociau - Darparu a chynnal a chadw clociau cyhoeddus, ar eglwysi ac mewn mannau eraill.
Botwm Cynllunio - Mae gan Gynghorau Lleol hawl i gael eu hysbysu ynglyn â phob cais cynllunio sy’n effeithio ar eu hardaloedd ac i gynnig sylwadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried.
Botwm *Datblygu’r celfyddydau a gwella dealltwriaeth ynglyn â’r celfyddydau a’r crefftau sy’n gwasanaethu’r celfyddydau.
Botwm Goleuadau - Darparu a chynnal a chadw pob golau ar hyd ffyrdd neu balmentydd, ar yr amod nad yw’r polion dros ryw uchder penodol.
Botwm Hawliau Tramwy – Cynnal a chadw llwybrau troed a llwybrau ceffylau.
Botwm *Lawntiau Pentref – pwerau i gynnal a chadw lawnt y pentref neu dref.
Botwm Lotmenti - Darparu a chynnal lotmenti at ddibenion trin y tir.
Botwm Llefydd Parcio - Darparu a rheoli meysydd parcio i geir a beiciau.
Botwm *Llochesi – Darparu a chynnal a chadw llochesi at ddefnydd cyffredinol y cyhoedd ac yn arbennig hefyd i deithwyr bysiau.
Botwm Mannau Agored - Darparu a chynnal a chadw mannau cyhoeddus, meysydd adloniant a llwybrau troed cyhoeddus.
Botwm *Mynwentydd - Darparu a chynnal a chadw mannau claddu, mynwentydd, marwdai ac ystafelloedd post-mortem.
BotwmMynwentydd Eglwysi - Pwer i gyfrannu at gostau mynwent eglwys sy’n cael ei defnyddio a dyletswydd i gynnal a chadw pob mynwent eglwys sydd wedi’i chau os yw Eglwys Loegr wedi trosglwyddo’r ddyletswydd honno.Botwm *Neuaddau - Darparu adeiladau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus, i fwynhau campau dan do neu weithgarwch corfforol, neu at ddefnydd clybiau neu gymdeithasau sydd ag amcanion hamdden, cymdeithasol neu athletaidd.
Botwm *Nofio – Darparu pyllau nofio mewnol neu allanol.
Botwm Parciau - Darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus a chyfleusterau priodol.
Botwm Post a Ffôn - Pwer i warantu’r awdurdodau post neu ffôn yn erbyn colled mewn cyfleuster.
Botwm Pwer Gwario Cyffredinol - mewn unrhyw sefyllfa nad yw wedi’i chynnwys yn y pwerau penodol a ddisgrifir uchod, gall cyngor wario arian at bob diben sydd, yn ei farn ef, o fudd uniongyrchol i’w ardal neu i’w drigolion. Ni all y cyngor wario mwy na £5.00 y pen am bob etholwr llywodraeth leol yn y plwyf, y dref neu’r gymuned ar yr achosion sy’n codi dan y pwer cyffredinol hwn (ers 1/4/00).
Botwm *Pyllau – Pwer i ddelio â phyllau neu lefydd eraill sy’n cynnwys baw neu fater sy’n niweidiol i iechyd pobl.
Botwm *Seddi – Darparu a chynnal a chadw seddi cyhoeddus ar y briffordd.
Botwm *Sbwriel - Darparu biniau sbwriel mewn strydoedd a rhoi cymorth i ymgyrchoedd sy’n gweithredu yn erbyn sbwriel.
Botwm Tai Bach Cyhoeddus – Darparu a chynnal a chadw pob ty bach cyhoeddus.
Botwm Tawelu traffig – cyfrannu tuag at gostau gwaith tawelu traffig gan awdurdod y priffyrdd.
Botwm Tiroedd Comin - Pwer i ddiogelu pob darn o dir comin sydd wedi’i gofrestru’n derfynol nad oes perchennog cofrestredig arno.
Botwm *Trafnidiaeth - creu cynlluniau rhannu ceir a gostyngiadau tacsis; rhoi grantiau i wasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau bysiau i bobl hyn neu bobl anabl, ymchwilio i drafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth ac anghenion y ffyrdd a thraffig; darparu gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
 Botwm *Twristiaeth – Darparu cyfleusterau cynadledda ac annog twristiaeth hamdden a busnes.
Botwm Ymylon Ffordd – Pwer i blannu ymylon ffordd a’u cynnal.