Catref
Cyngor
Cysylltu â ni
Y Cynghorwyr
Pwllgorau
Dyddiadau’r cyfarfodydd â Chofnodio
Gwasanaethau
Polisïau a Gweithdrefnau
Grantiau
Arfbais
Gefeillio
Galeri Lluniau
Cysylltiadau yn Aberystwyth
Arfbais Aberystwyth
Mae’r olwyn adeiniog yn symbol herodrol sy’n dynodi twristiaeth a phwysigrwydd y fasnach dwristiaeth i’r dref.
Twr Castell Aberystwyth.
Mae’r ysgub wenith yn dynodi pwysigrwydd y dref fel canolfan farchnad a’i dibyniaeth ar y gefnwlad amaethyddol.
Mae’r llongau herodrol yn cofnodi pwysigrwydd Aberystwyth yn y gorffennol fel porthladd a diwydiant adeiladu llongau.
Mae’r llyfr agored yn cynrychioli agweddau academaidd ar fywyd y dref gyda Phrifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol. 1277 yw dyddiad y Siarter wreiddiol a gyflwynodd Edward y 1af i’r dref.
Codwyd y llew du o Arfbais Teulu’r Pryse o Gogerddan ger Aberystwyth, a chwaraeodd ran bwysig ym mwyd y Dref a Sir Aberteifi.
Draig Goch Cymru.
Yr arwyddair, ‘Gorau Moes Gwasanaeth'.